Neidio i'r cynnwys

Y frech goch

Mae’r frech goch yn glefydd heintus iawn sy’n gallu lledaenu’n hawdd rhwng pobl nad ydynt wedi’u brechu. Bydd bron bawb sy’n ei dal yn dioddef twymyn uchel a brech a byddant yn sâl iawn.

Er bod y clefydau hyn fel arfer yn ysgafn ac nid ydynt yn aml yn achosi effeithiau hirdymor, gall rhai pobl gael cymhlethdodau difrifol. Gall y cymhlethdodau hyn gynnwys llid yr ymennydd, enseffalitis (chwyddo’r ymennydd) a cholli clyw. Mae un o bob 15 o bobl yn cael cymhlethdodau, gan gynnwys heintio’r ysgyfaint (niwmonia) a’r ymennydd (enseffalitis).

Gall y frech goch ladd – mewn brigiad o achosion o’r frech goch yng Nghymru yn 2013 cafodd dros 1,200 o bobl eu heintio, roedd angen triniaeth ysbyty ar 88 o bobl a bu farw un person. Y frech goch yw un o’r clefydau mwyaf heintus y gwyddom amdano. Rydych chi a’ch plentyn yn agored i’r haint marwol hwn oni bai eich bod wedi’ch amddiffyn gan y brechlyn.

Dysgwch fwy

Os hoffech chi ddysgu mwy am y brechlyn, neu’r afiechyd y maent yn eu hamddiffyn yn erbyn, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu.

Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Data

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn