Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Cynllun gweithredu’r grŵp i ddileu’r frech goch a rwbela yng Nghymru

Yng Nghymru, cyflwynwyd y brechiadau rheolaidd cyntaf yn erbyn y frech goch ym 1968 ac yn erbyn rwbela ym 1970. Cyflwynwyd y brechlyn y frech goch, clwy’r pennau a rwbela (MMR) ar gyfer babanod ym 1988 a dos ail cyn-ysgol ym 1996, ynghyd â thair ymgyrch dal i fyny genedlaethol dros dri degawd, yn ogystal ag ymdrechion parhaus gwasanaethau lleol y GIG. Mae hyn oll wedi gwneud yr heintiau plentyndod cyffredin hyn yn hynod o brin yng Nghymru heddiw.

Mae marwolaethau o’r frech goch wedi gostwng yn fyd-eang ers cyflwyno brechlynnau sy’n cynnwys y frech goch am y tro cyntaf yn y 1960au, o ganlyniad i fentrau cenedlaethol a rhyngwladol sylweddol i wella argaeledd brechu am ddim. Fodd bynnag, mae’r frech goch yn dal i achosi mwy na 100,000 o farwolaethau ledled y byd bob blwyddyn, ac mae’n parhau i fod yn fygythiad i boblogaeth Cymru. Mae dileu’r frech goch a rwbela bellach yn ddyhead byd-eang.

Mae’r adroddiad hwn yn disgrifio’r cynnydd a wnaed hyd yma yng Nghymru, ac yn nodi argymhellion i sicrhau dileu parhaus y frech goch a rwbela, a rheoli clwy’r pennau.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Cynllun gweithredu'r grŵp i ddileu'r frech goch a rwbela yng Nghymru (Saesneg yn unig)

PDF, 1MB

Llawrlwytho PDF - Cynllun gweithredu'r grŵp i ddileu'r frech goch a rwbela yng Nghymru (Saesneg yn unig) (1 MB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Ni chanfuwyd adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig