Difftheria
Mae difftheria yn glefyd difrifol sydd fel arfer yn dechrau gyda dolur gwddf a thymheredd uwch (twymyn). Gall arwain yn fuan wedyn at broblemau anadlu a gall niweidio’r galon a’r system nerfol. Mewn achosion difrifol, gall achosi marwolaeth. Mae difftheria yn lledaenu drwy beswch a thisian neu drwy gysylltiad agos â pherson heintiedig.
Mae difftheria yn anghyffredin yn y DU. Fodd bynnag, mae’n bosibl ei ddal wrth deithio i wledydd eraill.
Cyn i’r brechlyn difftheria gael ei gyflwyno yn y DU, roedd hyd at 70,000 o achosion o ddifftheria a hyd at 5,000 o farwolaethau’r flwyddyn.
Symptomau difftheria
- Gorchudd llwyd-gwyn trwchus a all orchuddio cefn eich gwddf, trwyn a thafod
- Tymheredd uchel (twymyn)
- Dolur gwddf
- Chwarennau chwyddedig yn eich gwddf
- Anhawster anadlu a llyncu
Mewn rhai gwledydd, mae haint y croen (difftheria croenol) yn fwy cyffredin.
Gall difftheria croenol achosi:
- pothelli llawn crawn ar eich coesau, eich traed a’ch dwylo, ac
- wlserau mawr wedi’u hamgylchynu gan groen coch, â golwg dolurus.
Dysgwch fwy
Os hoffech chi ddysgu mwy am y brechlynnau, neu’r afiechyd y maent yn eu hamddiffyn yn erbyn, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu.
Gallwch hefyd ffonio GIG 111 Cymru neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Adroddiadau
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn