Feirws syncytiol anadlol (RSV)
Firws cyffredin y gaeaf yw firws syncytial anadlol (RSV), a bydd bron i bob plentyn wedi’i gael erbyn eu bod yn ddwy oed. Mae’n gyffredin i blant hŷn ac oedolion ddal y feirws eto.
I’r rhan fwyaf o bobl, mae RSV yn achosi salwch ysgafn, fel peswch neu annwyd. Fodd bynnag, mae babanod dan flwydd oed ac oedolion hŷn mewn perygl o fynd yn sâl iawn. Weithiau, mae angen i bobl sy’n mynd yn sâl o haint RSV fynd i’r ysbyty. Gall RSV fod yn fwy peryglus i rai pobl, yn enwedig rhai sydd â chyflyrau iechyd penodol. Gall achosi marwolaeth hyd yn oed.
- Gall RSV ddigwydd trwy gydol y flwyddyn ond mae’n fwy cyffredin yn ystod yr hydref a’r gaeaf.
- Mae mwy na 1,000 o fabanod yng Nghymru yn mynd i’r ysbyty oherwydd y feirws. Mae nifer y bobl sy’n mynd i’r ysbyty oherwydd RSV wedi cynyddu yn yr 20 mlynedd diwethaf.
- Os ydych wedi cael haint RSV yn y gorffennol, nid yw’n golygu na allwch gael RSV eto.
Bydd brechlynnau RSV diogel ac effeithiol yn helpu i gynnig amddiffyniad i chi a’ch anwyliaid.
Beth yw symptomau RSV mewn babanod?
Mae symptomau mwyaf cyffredin RSV yn cynnwys:
- trwyn yn rhedeg neu wedi blocio
- twymyn
- anadlu cyflym neu swnllyd
- peswch ar y frest, sy’n swnio’n wlyb
- blinder
- bod yn ofidus neu’n anodd cysuro, ac
- anhawster bwydo.
Mae babanod hefyd mewn perygl o gael heintiau ar yr ysgyfaint megis:
- bronciolitis, a
- niwmonia
Gallai RSV hefyd achosi cyflyrau eraill mewn plant ifanc, er enghraifft:
- peswch sy’n swnio fel cyfarth (crŵp), a
- haint poenus yn y glust (otitis media).
RSV yw achos mwyaf cyffredin bronciolitis mewn babanod ifanc. Mae bronciolitis yn haint ar yr ysgyfaint sy’n ei gwneud hi’n anodd anadlu a bwydo. Mae’n effeithio ar fabanod a phlant dan ddwy oed ac fel arfer gellir ei drin gartref. Fodd bynnag, mewn rhai achosion gall fod yn ddifrifol ac efallai y bydd angen gofal dwys ar eich plentyn. Gall weithiau arwain at farwolaeth.
Mae salwch oherwydd RSV yn cael effaith fawr ar y GIG yn ystod misoedd y gaeaf. Yn y DU, mae tua 33,500 o blant dan bump oed yn mynd i’r ysbyty oherwydd y firws. Mae mwy na 1,000 o fabanod yng Nghymru yn mynd i’r ysbyty oherwydd y feirws. Bob blwyddyn, mae angen gofal ysbyty ar hyd at 1000 o bobl dros 75 oed oherwydd RSV, a gall rhai o’r bobl hyn farw. Mae nifer y bobl sy’n mynd i’r ysbyty oherwydd RSV wedi cynyddu yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf.
Sut mae RSV yn lledaenu?
Mae RSV yn lledaenu drwy ddod i gysylltiad agos â phobl sydd wedi’u heintio. Pan fydd pobl sydd wedi’u heintio yn pesychu neu’n tisian, maen nhw’n rhyddhau defnynnau bychan bach sy’n cynnwys y firws i’r awyr. Gall yr haint gael ei ledaenu wrth i bobl gyffwrdd ag arwynebau neu wrthrychau sydd â’r firws arnynt hefyd. Bydd y rhan fwyaf o bobl wedi cael y firws o’r blaen pan oedden nhw’n blentyn. Fodd bynnag, efallai na fydd y ffaith eich bod wedi dal haint RSV o’r blaen yn golygu eich bod wedi eich amddiffyn o hyd, felly gallech gael RSV eto.
Er mwyn helpu i atal RSV a feirysau eraill rhag lledaenu, cofiwch:
Grwpiau risg uchel
Mae RSV yn gallu achosi i fabanod newydd-anedig a phlant bach fynd yn sâl iawn. Gall babanod ddatblygu problemau difrifol ar yr ysgyfaint, fel bronciolitis (chwyddo llwybrau anadlu bach yr ysgyfaint) a niwmonia (chwyddo codennau aer yr ysgyfaint). Efallai y bydd angen i fabanod sydd â bronciolitis neu niwmonia fynd i’r ysbyty i’w helpu i wella.
RSV yw’r achos mwyaf cyffredin o bronciolitis mewn babanod. Gall bronciolitis ei gwneud hi’n anodd i blant bach anadlu, yn enwedig:
- babanod wedi’u geni’n gynnar (35 wythnos neu’n gynharach)
- babanod sydd â rhai problemau gyda’r galon neu’r ysgyfaint, neu
- fabanod sydd â phroblemau difrifol gyda’u systemau imiwnedd.
Mewn oedolion hŷn, gall RSV achosi problemau anadlu difrifol, yn enwedig yn y rhai sy’n fregus neu sydd â chyflyrau iechyd eraill. I nifer fach o bobl sydd mewn perygl o glefyd anadlol mwy difrifol, gallai haint RSV achosi niwmonia (haint yr ysgyfaint) neu farwolaeth hyd yn oed.
Dysgwch mwy
Os hoffech chi ddysgu mwy am y brechlyn, neu’r afiechyd y maent yn eu hamddiffyn yn erbyn nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu.
Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Gwybodaeth bellach
Adroddiadau
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn