Brechlyn DTaP/IPV/Hib/HepB (6 mewn 1) - Ynglŷn â'r brechlyn 6 mewn 1
Mae’r brechlyn DTaP/IPV/Hib/HepB, sy’n cael ei adnabod yn gyffredin hefyd fel y ‘brechlyn 6-mewn-1’, yn helpu i warchod eich babi rhag chwe afiechyd difrifol: Difftheria, tetanws, pertwsis (y pas), polio, Haemophilus influenzae math b (Hib) a hepatitis B.
Mae’r brechlyn ‘6-mewn-1’ sydd ar gael ar hyn o bryd yn y DU yn cael ei adnabod o dan yr enw brand Infanrix hexa a Vaxelis. Fel rheol bydd babanod yn cael y brechlyn ‘6-mewn-1’ fel pigiad unigol yn rhan uchaf eu coes (clun).
Mae’r brechlyn ‘6-mewn-1’ yn un o’r brechlynnau cyntaf y bydd eich babi yn ei gael. Bydd plant rhwng un a 10 oed sydd wedi methu’r brechlynnau hyn yn eu cael fel arfer yn rhan uchaf eu braich.
Mae’n hynod effeithiol am ddarparu imiwnedd rhag heintiau difftheria, tetanws, y pas, polio, Hib, a hepatitis B. Dysgwch mwy am y brechlyn 6 mewn 1 ar wefan GIG 111 Cymru (Saesneg yn unig).
Ceir gwybodaeth am frechlynnau atgyfnerthu i warchod rhag difftheria, tetanws, y pas, polio a Hib ar y tudalennau canlynol:
I gael rhagor o wybodaeth am difftheria, tetanws, y pas, polio, hib a Hepatitis B ewch i:
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 28ain Ebrill 2025