Neidio i'r cynnwys

Brechiad y pas (pertwsis) - Ynglŷn â brechlyn y pas

Mae brechiad y pas yn ffordd ddiogel ac effeithiol o warchod merched beichiog, babanod heb eu geni, babanod a phlant rhag yr haint yma. 

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y brechiad a’r afiechyd mae’n gwarchod yn ei erbyn yn GIG 111 Cymru

Cymhwysedd ar gyfer brechiad 

Beichiogrwydd

Mae brechiad y pas yn cael ei gynnig i bob menyw feichiog o 16 wythnos y beichiogrwydd ymlaen.

Mae’r warchodaeth o’r brechiad yn cael ei drosglwyddo i’r babi heb ei eni drwy’r brych, gan ei warchod rhag y pas yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd nes iddo gael ei imiwneiddiad arferol cyntaf pan fydd yn wyth wythnos oed. Mae’r brechiad hefyd yn gwarchod merched beichiog rhag cael y pas ac yn lleihau’r risg y byddant yn ei drosglwyddo i’w babi.

Os byddwch yn cael y brechiad yn agos at yr amser y caiff eich babi ei eni, efallai y bydd yn llai effeithiol. Felly, cofiwch gael eich brechiad cyn gynted â phosibl, ar ôl i chi ddod yn gymwys ar ôl 16 wythnos o feichiogrwydd.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am frechiad y pas yn ystod beichiogrwydd.

Babanod a phlant

Mae brechiad y pas yn cael ei gynnig i bob babi a phlentyn ifanc fel rhan o amserlen imiwneiddio plentyndod arferol y GIG.

Hyd yn oed os ydych chi wedi cael brechiad y pas pan oeddech yn feichiog, bydd angen i’ch babi gael ei frechu rhag y pas eto.

Mae babanod yn cael cynnig y brechiad rhag y pas yn wyth, 12 ac 16 wythnos oed. O fis Ionawr 2026 ymlaen, bydd babanod hefyd yn derbyn brechlyn rhag y pas yn 18 mis oed. Yna cynigir amddiffyniad ychwanegol i blant ifanc yn erbyn y brechlyn rhag y pas yn dair oed a phedwar mis.

Am wybodaeth am y newidiadau i’r amserlen imiwneiddio plant yn 2025 a 2026, ac i ddysgu pam y cyflwynwyd apwyntiad brechu newydd yn 18 mis oed, gweler dudalen newidiadau i’r amserlen imiwneiddio i blant.

Mae’r amserlenni imiwneiddio arferol ar gyfer Cymru yn darparu gwybodaeth am frechiadau arferol ac anarferol.

Gweithwyr gofal iechyd

Gall gweithwyr gofal iechyd drosglwyddo heintiau i fabanod yn hawdd. Mae gweithwyr gofal iechyd sydd â chyswllt uniongyrchol â merched beichiog neu fabanod, a’r rhai nad ydynt wedi cael brechiad y pas yn ystod y pum mlynedd diwethaf, yn gymwys i gael brechiad fel rhan o’u gofal iechyd galwedigaethol.

Ynglŷn â’r brechlyn

Nid oes brechiad sy’n gwarchod rhag y pas yn unig. Yn lle hynny, mae’r brechiadau sy’n cael eu cynnig yn frechiadau cyfunol sy’n gwarchod rhag gwahanol afiechydon, gan gynnwys y pas. 

Nid yw’r brechiadau’n fyw ac ni allant achosi’r pas. 

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am frechiad y pas ar y tudalennau canlynol. 

 Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal salwch difrifol o’r pas. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau’r pas, hyd yn oed os ydych chi neu eich plentyn wedi cael eich brechu.  

I gael rhagor o wybodaeth am y pas ewch i GIG 111 Cymru.

Gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd 

Os hoffech chi gael gwybod mwy am y brechiad neu’r afiechydon mae’n gwarchod rhagddynt, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu. 

Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau. 

Rhagor o wybodaeth

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 25ain Ebrill 2025