Neidio i'r cynnwys

Brechlyn ffliw - Cymhwystra ar gyfer y brechlyn ffliw

Bob blwyddyn yng Nghymru, mae tua miliwn o bobl yn cael eu brechlyn ffliw. Mae hynny’n fwy nag un o bob pedwar o bobl.  

Mae’r ffliw yn fwy tebygol o fod yn ddifrifol os oes gennych chi gyflwr iechyd tymor hir, os ydych chi’n feichiog, neu’n hŷn. Gall y ffliw hefyd fod yn ddifrifol i blant ifanc.  

Pwy ddylai gael y brechlyn ffliw? 

Dylech chi gael y brechlyn ffliw os ydych chi:

  • yn feichiog
  • yn 65 oed neu hŷn (neu’n troi’n 65 cyn diwedd y rhaglen brechu ffliw – fel arfer ym mis Mawrth bob blwyddyn), neu
  • rhwng chwe mis a 64 oed gyda chyflwr iechyd hirdymor, gan gynnwys:
    • problemau gyda’ch brest neu’ch anadlu, fel clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) neu asthma, sydd angen anadlyddion neu dabledi steroid rheolaidd
    • problem gyda’r galon
    • clefyd yr arennau (o gam 3)
    • clefyd yr afu
    • cyflyrau nerfau, fel clefyd Parkinson neu glefyd niwronau echddygol
    • anabledd dysgu
    • salwch meddwl difrifol
    • diabetes
    • epilepsi
    • system imiwnedd wan oherwydd salwch neu driniaeth
    • diffyg dueg neu broblem gyda’ch dueg, neu
    • bod dros bwysau yn ddifrifol (mynegai màs y corff (BMI) o 40 neu fwy ac yn 16 oed neu’n hŷn).

Hyd yn oed os ydych chi’n teimlo’n dda, rydych chi mewn mwy o berygl o fynd yn sâl iawn o’r ffliw os yw unrhyw un o’r uchod yn berthnasol i chi.  

Dylai’r bobl ganlynol hefyd gael y brechlyn ffliw i helpu i amddiffyn eu hunain a’r rhai o’u cwmpas.

  • Pobl sy’n byw mewn cartref gofal
  • Pobl sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda chleifion neu gleientiaid ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol
  • Pobl ddigartref
  • Gweithwyr dofednod sydd mewn perygl uchel
  • Plant dwy a thair oed (oedran ar 31 Awst)
  • Plant oedran ysgol a phobl ifanc o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 11
  • Gofalwyr
  • Ymatebwyr cyntaf ac aelodau o sefydliadau gwirfoddol sy’n darparu cymorth cyntaf brys wedi’i gynllunio
  • Unigolion sy’n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wan

Bydd y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn cael eu brechlyn yn gyflym a di-boen drwy chwistrell trwyn. Bydd anwedd ysgafn yn cael ei chwistrellu i fyny’r trwyn, trwy’r ddwy ffroen. Y brechlyn chwistrell trwyn yw’r brechlyn ffliw a argymhellir ar gyfer y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc o ddwy oed ymlaen.

Os yw eich plentyn yn gymwys i gael brechlyn ffliw, dylai’r practis meddyg teulu neu’r nyrs ysgol gysylltu â chi. Os ydych chi’n meddwl y gallai eich plentyn fod wedi methu ei frechlyn, cysylltwch â’r nyrs ysgol os yw o oedran ysgol neu’r â’r practis meddyg teulu os nad yw yn yr ysgol.

Os ydych chi’n meddwl y gallech fod wedi methu eich gwahoddiad i gael brechlyn ffliw, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu eich fferyllfa leol.

Sut i gael brechiad y ffliw

Mae’r tabl isod yn dangos pwy all gael y brechlyn ffliw a ble y gallwch ei gael.

Plant dwy neu dair oed (ar 31 Awst 2025) Practis meddyg teulu (mewn rhai ardaloedd, bydd y brechlyn yn cael ei gynnig mewn meithrinfeydd i blant tair oed)
Plant ysgol gynradd ac ysgol uwchradd Yn yr ysgol
Plant pedair oed neu hŷn nad ydynt yn yr ysgol Practis meddyg teulu (bydd angen i chi wneud apwyntiad)
Plant rhwng chwe mis a 17 oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor Practis meddyg teulu (bydd y brechlyn ffliw yn cael ei gynnig yn yr ysgol i blant oedran ysgol)
Merched beichiog Practis meddyg teulu, rhai fferyllfeydd lleol, neu gan eich bydwraig (mewn rhai ardaloedd yng Nghymru)
Oedolion â chyflwr iechyd hirdymor Practis meddyg teulu neu eich fferyllfa leol
Pobl 65 oed neu hŷn Practis meddyg teulu neu eich fferyllfa leol
Gofalwyr di-dâl Practis meddyg teulu neu eich fferyllfa leol
Gofalwyr yn y cartref (y rhai sy’n darparu gofal yng nghartrefi pobl) Fferyllfa leol (mae trefniadau eraill mewn rhai ardaloedd)
Staff cartrefi gofal Fferyllfa leol (mae trefniadau eraill mewn rhai ardaloedd)
Gweithiwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Drwy eich cyflogwr neu yn eich practis meddyg teulu
Gweithwyr dofednod sy’n wynebu’r risg fwyaf Fferyllfa leol

Yn ddelfrydol, dylid rhoi’r brechlyn ffliw cyn i’r ffliw ddechrau lledaenu. Fodd bynnag, gellir ei roi ar ddyddiad yn ddiweddarach hefyd. 

Oedolion

Brechlyn ffliw a beichiogrwydd

Mae cael brechlyn y ffliw yn ddiogel yn ystod pob cam o feichiogrwydd.

Os bydd rhywun sy’n feichiog yn cael y ffliw, mae ei faban yn fwy tebygol o gael ei eni’n gynnar, bod â phwysau geni isel, yn farw-anedig neu farw o fewn eu hwythnos gyntaf. Mae’r brechlyn hefyd yn helpu i amddiffyn y baban yn ystod y pedwar i chwe mis cyntaf o fywyd, pan all ffliw fod yn ddifrifol iawn.

Dylech gael y brechlyn ffliw cyn gynted ag y byddwch yn gwybod eich bod yn feichiog (os yw’r brechlyn ar gael). Gallwch ei gael ar yr un pryd â’r brechlyn feirws Syncytiol Anadlol (RSV), brechlyn y pas, a brechlyn COVID-19 os oes angen, ond peidiwch ag oedi eich brechlyn ffliw er mwyn i chi allu cael brechlynnau eraill ar yr un pryd.

Os ydych chi’n feichiog, gallwch gael eich brechlyn ffliw gan eich meddyg teulu neu yn eich fferyllfa leol. Mewn rhai ardaloedd o Gymru, gall bydwragedd roi brechlynnau ffliw.

Argymhellir y brechlyn ffliw bob tro y byddwch yn feichiog, hyd yn oed os ydych wedi cael y brechlyn o’r blaen.

Mae cael eich brechu bob tymor ffliw yn eich amddiffyn rhag mathau newydd o’r feirws ac yn lleihau’r risg o ledaenu’r ffliw i’ch baban. Bydd yr imiwnedd a gewch o’r brechlyn yn trosglwyddo i’ch baban drwy’r brych. Mae’r brych y tu mewn i’ch croth ac mae’n cysylltu eich cyflenwad gwaed chi â’ch baban yn y groth.

Yn y gaeaf, bydd miloedd o bobl yn marw o salwch sy’n gysylltiedig â ffliw yn y DU. Cael brechlyn ffliw bob blwyddyn yw un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn chi a’ch baban rhag ffliw.

Pobl â chyflwr iechyd hirdymor o 6 mis-oed

Hyd yn oed os ydych chi’n teimlo’n dda, rydych mewn mwy o berygl o fynd yn sâl iawn oherwydd y ffliw os oes unrhyw un o’r isod yn berthnasol i chi.

  • Problemau gyda’ch brest neu’ch anadlu, fel clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) neu asthma, sydd angen anadlyddion neu dabledi steroid rheolaidd
  • Problem gyda’r galon
  • Clefyd yr arennau (o gam 3)
  • Clefyd yr afu
  • Cyflyrau nerfau, fel clefyd Parkinson neu glefyd niwronau echddygol
  • Anabledd dysgu
  • Salwch meddwl difrifol
  • Diabetes
  • Epilepsi
  • System imiwnedd wan oherwydd salwch neu driniaeth
  • Diffyg dueg neu broblem gyda’ch dueg, neu
  • Bod dros bwysau yn ddifrifol (mynegai màs y corff (BMI) o 40 neu fwy ac yn 16 oed neu’n hŷn)

Os ydych yn oedolyn yn y grŵp hwn, gallwch gael eich brechlyn ffliw yn eich practis meddyg teulu neu yn eich fferyllfa leol. Gall plant yn y grwpiau hyn gael eu brechlyn yn yr ysgol (os ydynt yn y grŵp oed iawn) neu yn eu practis meddyg teulu.

Pobl 65 oed a throsodd

Os ydych chi’n 65 oed neu’n hŷn (yn cynnwys y rhai sy’n 65 oed ar 31 Mawrth 2026), rydych chi’n fwy tebygol o fynd yn sâl iawn oherwydd y ffliw.

Gallwch gael eich brechlyn ffliw yn eich practis meddyg teulu neu yn eich fferyllfa leol.

Pobl sy’n byw mewn cartref preswyl neu nyrsio

Yn y rhan fwyaf o flynyddoedd, byddwn yn gweld brigiadau o achosion o’r ffliw mewn cartrefi gofal, felly mae preswylwyr mewn mwy o berygl o ddal y ffliw na phobl eraill. Fel arfer, rheolwr y cartref gofal fydd yn trefnu i breswylwyr gael eu brechlyn ffliw.

Gofalwyr

Os ydych chi’n gofalu am rywun y byddai ei iechyd neu ei lesiant mewn perygl pe byddech chi’n chi’n dal y ffliw, dylech gael brechlyn ffliw am ddim. Mae hyn yn cynnwys gofalwyr di-dâl. Mae cael eich brechiad rhag y ffliw yn helpu i’ch diogelu chi a’r person neu’r bobl rydych chi’n gofalu amdanynt.

Gallwch gael y brechlyn ffliw yn eich practis meddyg teulu neu yn eich fferyllfa leol.

Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol

Os ydych yn gweithio mewn cartref gofal, yn weithiwr gofal yn y cartref neu’n weithiwr gofal iechyd, gallwch gael gwybod sut mae cael eich brechlyn ffliw yn Y Ffliw – Gwybodaeth i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gymwys ar gyfer y brechiad – Iechyd Cyhoeddus Cymru

Os ydych yn aelod o sefydliad gwirfoddol ac yn darparu cymorth cyntaf wedi’i gynllunio, neu os ydych yn ymatebwr cyntaf yn y gymuned, dylech chi hefyd gael y brechlyn ffliw. Gallwch gael hwn yn eich practis meddyg teulu neu yn y rhan fwyaf o fferyllfeydd lleol – bydd rhaid i chi ddangos prawf o’ch rôl.

A oes unrhyw un na ddylai gael brechlyn ffliw?

Ychydig iawn o bobl na all gael y brechiad ffliw. Ni ddylech gael y brechlyn os ydych wedi cael adwaith difrifol (sy’n peryglu bywyd) i’r canlynol:

  • dos blaenorol o’r brechlyn, neu
  • gynhwysyn yn y brechlyn.

Siaradwch â’r sawl sy’n rhoi’r brechlyn i chi os ydych wedi cael adwaith alergaidd difrifol i’r brechlyn neu ei gynhwysion yn y gorffennol.

Nid yw annwyd neu fân salwch arall yn rheswm i ohirio brechiad rhag y ffliw.

Os ydych yn sâl a bod gennych dymheredd uchel, dylech ohirio’r brechiad hyd nes eich bod yn teimlo’n well.

Plant a phobl ifanc

Pa blant all gael brechlyn ffliw am ddim?

Gall pob plentyn dwy oed a hŷn gael y brechlyn ffliw am ddim. Mae hyn yn cynnwys:

  • plant sy’n ddwy neu dair oed ar 31 Awst 2025
  • pob plentyn ysgol gynradd
  • pob plentyn ysgol uwchradd ym mlynyddoedd 7 i 11
  • plant nad ydynt yn mynychu’r ysgol (gallant gael eu brechlyn yn eu practis meddyg teulu), a
  • phlant chwe mis oed neu hŷn sydd â chyflwr iechyd hirdymor sy’n golygu eu bod mewn mwy o berygl oherwydd y ffliw.
Pam mae angen brechlyn ffliw ar blant a rhai pobl ifanc?

Mae’r ffliw yn cael ei achosi gan feirysau ac mae’n lledaenu’n hawdd. Gall unrhyw un ddal y ffliw, ond mae plant yn fwy tebygol o’i ddal a gall y ffliw fod yn ddifrifol iddynt hwy.

Gall ffliw arwain at:

  • broncitis (llid yr ysgyfaint)
  • niwmonia (heintiau’r ysgyfaint), a
  • heintiau yn y glust

Mae rhai plant yn mynd mor sâl fel bod angen iddynt fynd i’r ysbyty.

Beth os oes gan fy mhlentyn gyflwr iechyd?

Os yw eich plentyn yn chwe mis oed neu’n hŷn a bod ganddo un o’r cyflyrau iechyd canlynol, mae’n bwysig ei fod yn cael brechlyn ffliw bob blwyddyn.

  • Diabetes
  • Problem gyda’r galon
  • Problem gyda’r frest neu’r anadlu, gan gynnwys asthma, sy’n gofyn am anadlyddion neu dabledi steroid rheolaidd
  • Clefyd yr arennau (o gam 3)
  • System imiwnedd wan oherwydd salwch neu driniaeth
  • Clefyd yr afu
  • Cyflyrau nerfau, fel clefyd Parkinson neu glefyd niwronau echddygol
  • Rhai heb ddueg neu broblem gyda’r ddueg
  • Anabledd dysgu
  • Salwch meddwl difrifol
  • Plant (chwe mis oed neu hŷn ar 1 Medi 2025) a mynegai màs y corff (BMI) o 40 neu uwch
  • Epilepsi

Gall plant a phobl ifanc yng Nghymru sy’n ddigartref gael brechiad ffliw hefyd.

Gall plant yn y grwpiau hyn gael eu brechlyn yn eu hysgol os ydynt ym mlwyddyn derbyn i flwyddyn 11 yr ysgol. Gall plant nad ydynt yn mynychu’r ysgol gael y brechlyn ffliw yn eu practis meddyg teulu.

Gofalwyr ifanc

Mae’n bwysig iawn i blant a phobl ifanc sy’n gofalu am rywun sydd mewn mwy o berygl oherwydd y ffliw gael y brechlyn ffliw bob blwyddyn. Mae’n helpu i’w diogelu nhw a’r person maent yn gofalu amdano.

A oes plant a phobl ifanc na ddylent gael y chwistrell drwynol?

Ni ellir rhoi’r brechlyn chwistrell drwynol i blant a phobl ifanc sydd:

  • dan ddwy flwydd oed
  • yn cael triniaeth aspirin (salicylate) hirdymor
  • wedi cael adwaith alergaidd difrifol sy’n peryglu bywyd i’r brechlyn neu ei gynhwysion
  • â system imiwnedd wan oherwydd clefyd neu driniaeth
  • yn feichiog
  • â brest wichiog ar ddiwrnod y brechiad neu yn ystod y tridiau blaenorol, neu
  • wedi cynyddu’r defnydd o’u hanadlyddion asthma yn ystod y tridiau blaenorol.

Mae rhai sefyllfaoedd lle dylech chi gael cyngor ynglŷn â rhoi’r brechlyn chwistrell trwynol i’ch plentyn. Siaradwch â’ch ymwelydd iechyd, nyrs yr ysgol, tîm imiwneiddio neu feddygfa’r meddyg teulu os yw’ch plentyn:

  • yn dioddef o asthma ac mae angen steroidau geneuol rheolaidd arno neu wedi bod angen  triniaeth gofal dwys ar ei gyfer
  • yn cael mewnblaniad cochlear wedi’i osod (nid yw’n ddelfrydol os ydyn nhw’n cael y brechlyn  chwistrell drwynol yn yr wythnos cyn neu bythefnos ar ôl)
  • â chamffurfiad o’r wyneb a’r penglog heb ei drwsio, neu
  • mewn cysylltiad agos â rhywun sydd â system imiwnedd wan iawn (er enghraifft, pobl sydd mewn amgylchedd gwarchodedig ar ôl cael trawsblaniad mêr esgyrn).

Os na all plentyn neu berson ifanc gael y brechlyn ffliw drwy’r chwistrell trwyn, gall gael y brechlyn ffliw drwy bigiad yn lle hynny. Mae hyn ar gael yn ei bractis meddyg teulu a thrwy rai gwasanaethau nyrsio ysgol.

Nid yw annwyd neu fân salwch arall yn rheswm i ohirio brechiad rhag y ffliw

Os yw eich plentyn yn sâl a bod ganddo dymheredd uchel, mae’n well gohirio ei frechiad hyd nes ei fod yn teimlo’n well.

A all fy mhlentyn gael y brechlyn os oes ganddo alergeddau?

Mae’r rhan fwyaf o bobl ag alergeddau yn gallu cael y brechlyn heb gael problemau.

Ni ddylid rhoi’r brechlyn i unigolyn sydd wedi cael adwaith difrifol (sy’n peryglu bywyd) i:

  • ddos blaenorol o’r brechlyn, neu
  • gynhwysyn yn y brechlyn.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth y person sy’n rhoi’r brechlyn os yw’ch plentyn wedi cael adwaith alergaidd difrifol i’r brechlyn neu ei gynhwysion yn y gorffennol.

Gellir rhoi’r brechlyn chwistrell drwynol yn ddiogel i’r rhan fwyaf o blant sydd ag alergedd i wyau. Os yw eich plentyn wedi cael adwaith difrifol (sy’n peryglu bywyd) i wy a oedd angen triniaeth gofal dwys, dylid cynnig brechlyn ffliw priodol iddo drwy bigiad.

A yw’r brechlyn chwistrell drwynol yn cynnwys gelatin?

Mae brechlyn ffliw chwistrell drwynol yn cynnwys olion bach o gelatin porc wedi’i buro’n dda.

Dyma’r brechlyn ffliw a argymhellir i’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc. 

Ni fydd rhai pobl yn bwyta gelatin porc oherwydd eu ffydd. Mae cymunedau Mwslimaidd ac Iddewig wedi cymeradwyo defnyddio’r brechlyn chwistrell drwynol ffliw. Mae hyn oherwydd bod y chwistrell drwynol ffliw yn gynnyrch nad yw drwy’r geg ac yn feddyginiaeth.

Os penderfynwch nad ydych chi eisiau i’ch plentyn gael y chwistrell drwynol, gallant gael pigiad yn lle hynny. Nid yw hyn yn cynnwys gelatin porc. Gallwch amlygu hyn ar eich ffurflen gydsynio. Neu gallwch gysylltu â’ch ymwelydd iechyd, nyrs yr ysgol, tîm imiwneiddio neu feddygfa’r eddyg teulu i drafod gyda nhw sut i gael y pigiad.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am frechlynnau a gelatin porc.

Gweithwyr dofednod

Gall gweithwyr dofednod 16 oed a hŷn sy’n byw yng Nghymru gael brechlyn ffliw GIG Cymru am ddim yr hydref/gaeaf hwn.    

Gall cyflogwyr gweithwyr dofednod roi’r llythyr cadarnhad canlynol i staff i fynd ag ef i’r fferyllfa i gael eu brechlyn:    

Pam fod gweithwyr dofednod bellach yn gymwys i gael brechlyn ffliw?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd cyngor gan arbenigwyr brechlynnau.

Y nod yw lleihau’r risg y bydd gweithwyr dofednod yn cael ffliw dynol a ffliw adar ar yr un pryd. Bydd hyn yn helpu i atal creu math newydd o ffliw a fydd yn lledaenu ymhlith pobl.

Pa weithwyr dofednod sy’n gymwys i gael brechlyn ffliw?

Yng Nghymru, efallai y byddwch yn gymwys i gael brechlyn ffliw os ydych yn gweithio gydag adar ac yn ymwneud â dal, difa, glanhau, neu brosesu dofednod.

Rhaid i chi fod yn 16 oed neu’n hŷn, yn byw yng Nghymru ac yn bodloni’r meini prawf canlynol i gael brechlyn ffliw.

1. Rydych yn gweithio ar safle lle mae ffliw adar tybiedig neu wedi’i gadarnhau ac rydych yn:

  • dal neu ddifa adar
  • glanhau ardaloedd caeedig
  • casglu adar sydd wedi marw

2. Rydych chi’n gweithio’n rheolaidd neu’n ymweld â safleoedd dofednod cofrestredig sydd â 50 neu fwy o adar ac yn:

  • ymweld yn rheolaidd ag ardaloedd lle mae adar yn cael eu magu neu lle cynhyrchir wyau
  • casglu neu symud tail o’r man lle mae adar yn cael eu magu neu wyau yn cael eu cynhyrchu
  • glanhau siediau dofednod ar ôl i’r adar gael eu symud
  • didoli wyau os yw’r ardaloedd didoli yn rhan o’r uned gynhyrchu, neu
  • dal neu ddifa dofednod mewn mannau caeedig lle cânt eu magu neu lle cynhyrchir wyau.

3. Rydych yn gweithio mewn unedau prosesu dofednod ac yn:

  • dal a thrin adar byw
  • lladd a phrosesu adar, neu
  • glanhau a diheintio ardaloedd ac offer sydd wedi’u gorchuddio â baw adar.

Mae safleoedd dofednod yn lleoedd lle mae adar fel ieir, hwyaid a thyrcwn yn cael eu cadw a’u magu mewn caethiwed. Mae dofednod yn golygu pob aderyn a gedwir ar gyfer cynhyrchu cig neu wyau, ar gyfer gwneud cynhyrchion eraill, ar gyfer ailstocio adar hela gwyllt, neu ar gyfer bridio. 

Pa weithwyr dofednod nad ydynt yn gymwys i gael y brechlyn ffliw?

Ni ystyrir bod y bobl ganlynol yn wynebu risg uwch o ddod i gysylltiad â feirysau ffliw adar:

  • Pobl sy’n gweithio ger ffermydd sydd â dofednod ond na fyddant yn mynd i’r ardaloedd lle cedwir adar neu lle mae wyau’n cael eu didoli.
  • Pobl sy’n danfon deunyddiau i unedau dofednod.
  • Pobl sy’n casglu neu’n danfon wyau neu ddofednod (byw neu farw) o unedau dofednod (oni bai eu bod yn gwneud tasgau a restrir yn 1 i 3 uchod).
  • Pobl sy’n gweithio mewn unedau prosesu dofednod ac yn trin adar marw ond nad ydynt yn lladd adar nac yn prosesu adar (oni bai eu bod yn gwneud tasgau a restrir yn 1 i 3 uchod).
Beth sydd angen i mi ei wneud?

I gael eich brechlyn, bydd angen i chi ddangos eich llythyr cadarnhau neu fath arall o brawf eich bod yn weithiwr dofednod (er enghraifft, slip cyflog neu fathodyn adnabod staff) yn eich fferyllfa leol.

A fydd y brechlyn ffliw yn fy atal rhag cael ffliw adar?

Na, ni fydd y brechlyn ffliw yn eich amddiffyn rhag ffliw adar. Fodd bynnag, bydd y brechlyn yn darparu amddiffyniad rhag ffliw dynol. Bydd hyn yn lleihau’r risg y byddwch yn cael ffliw adar a ffliw dynol ar yr un pryd, a allai wedyn achosi math newydd o ffliw sy’n lledaenu rhwng pobl. Bydd y brechlyn ffliw hefyd yn helpu i leihau’r risg o salwch difrifol pe baech yn dal y ddau fath ar yr un pryd.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 30ain Ebrill 2026