Neidio i'r cynnwys

Gwybodaeth i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gymwys ar gyfer y brechiad ffliw

Pan fyddwch chi’n gweithio ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol, mae gennych ddyletswydd i helpu i atal lledaeniad heintiau – ac mae hynny’n cynnwys y ffliw. 

Os ydych chi’n weithiwr iechyd a gofal cymdeithasol y GIG ac yn gweithio’n uniongyrchol gyda chleifion neu gleientiaid, mae’n bwysig eich bod yn cael brechlyn ffliw bob blwyddyn. Mae’r brechlyn ffliw yn helpu i amddiffyn: 

  • chi 
  • y bobl rydych chi’n gofalu amdanynt 
  • y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, ac 
  • eich teulu. 

Mae cael eich brechu hefyd yn helpu i leihau salwch staff ac yn cadw gwasanaethau’r GIG a gofal cymdeithasol i redeg yn esmwyth. Mae hyn yn bwysig iawn yn ystod misoedd prysur y gaeaf.  

Mae’r tabl isod yn dangos pa weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim gan y GIG. 

Pa weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim gan y GIG
Pwy all gael brechlyn GIG am ddim?  Ble i’w gael
Staff cartrefi gofal sy’n gweithio’n rheolaidd gyda phreswylwyr (er enghraifft, mewn cartrefi gofal preswyl i oedolion, cartrefi nyrsio a hosbisau plant)  Mae fel arfer yn cael ei roi mewn fferyllfa gymunedol  
Gweithwyr gofal cartref (y rhai sy’n darparu gofal yng nghartrefi pobl)  Fel arfer yn cael ei roi mewn fferyllfa gymunedol  
Gweithwyr gofal iechyd (staff Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau)  Drwy eich adran iechyd galwedigaethol neu gan eich practis meddyg teulu 

Mae pob Bwrdd Iechyd ac Ymddiriedolaeth GIG Cymru yn annog eu staff i gael brechlyn ffliw bob blwyddyn. 

Mae gan gyflogwyr gofal iechyd, yn cynnwys practisiau meddyg teulu a darparwyr eraill, gyfrifoldeb i:

  • rannu gwybodaeth glir a chywir am y brechlyn ffliw 
  • annog staff i gael eu brechu, ac i 
  • gefnogi staff cymwys i gael y brechlyn.  

Drwy gael eich brechu, rydych chi’n helpu i amddiffyn y bobl sydd ei angen fwyaf, ac yn cefnogi’r system iechyd a gofal rydyn ni i gyd yn dibynnu arni.

Mae rhagor o wybodaeth i gydweithwyr gofal iechyd yng Nghymru ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru Safle Mewnrwyd Imiwneiddio a Brechu (angen cysylltiad rhwydwaith GIG Cymru).

Gwybodaeth:

Mae’r bobl sy’n dod i’m gofal ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed yn y gymdeithas. Rhan fawr o fy swydd yw sicrhau eu bod nhw’n teimlo’n ddiogel – yn emosiynol ac yn gorfforol. 

Fel gweithiwr gofal iechyd, mae cael brechiad nid yn unig yn fy amddiffyn i; mae’n helpu i gadw fy nghleifion, ffrindiau, teulu a chydweithwyr yn ddiogel hefyd. Mae’n benderfyniad hawdd i mi.

Chloe, 27 oed.

Cyfarwyddyd

Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod. 

Adnoddau a gwybodaeth glinigol

 Gwyliwch: Sgwrs am bwysigrwydd brechlyn y ffliw i weithwyr gofal iechyd.