Gweithio clwstwr: Data a deallusrwydd
Mae deall anghenion poblogaeth leol yn hanfodol os ydych am fabwysiadu ymagwedd iechyd poblogaeth at gynllunio a darparu gwasanaethau. Bydd gwneud penderfyniadau sy’n cael eu gyrru gan ddata ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar bob lefel o’r system gofal sylfaenol a chymunedol yn cefnogi ailddosbarthiad adnoddau tuag at atal ac ymyrraeth gynnar, lleihau anghydraddoldebau a bodloni anghenion y boblogaeth.
Mae nifer o ddulliau wedi’u datblygu i gefnogi cydweithwyr iechyd a gofal i ddeall anghenion y boblogaeth ac i flaenoriaethu gweithgareddau. Mae pob un ohonynt yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar ddata a thystiolaeth, ond mae’r hyn y maen nhw’n ei ganolbwyntio arno yn amrywio. Mae’r rhain yn cynnwys:
-
Data
Rhagor o wybodaeth am ddata gweithio clwstwr
-
Tystiolaeth
Rhagor o wybodaeth am dystiolaeth gweithio clwstwr
Iechyd a gofal sy’n seiliedig ar atal
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu’r Fframwaith Iechyd a Gofal Seiliedig ar Atal, sy’n nodi’r elfennau sylfaenol sy’n angenrheidiol er mwyn symud y system iechyd a gofal tuag at ddull sy’n seiliedig ar atal.
Mae’r Fframwaith yn dod nifer o ddulliau ynghyd a’r bwriad yw ei gael i weithio ar draws y system, gan gynnwys ar anghydraddoldebau, rheoli iechyd poblogaeth, gofal iechyd cyhoeddus, llwybrau gofal iechyd a gwaith ar draws sectorau a rhaglenni cenedlaethol i ymgorffori iechyd ym mhob polisi.
Trwy rannu dealltwriaeth o ddull systematig a chydgysylltiedig sy’n seiliedig ar atal, mae’r Fframwaith Iechyd a Gofal Seiliedig ar Atal yn helpu i nodi:
- Pa gamau sy’n angenrheidiol i gyflawni nod cyffredin
- Rhyng-ddibyniaeth a chyfleoedd i gydymffurfio
- Pwy y dylwn gydweithio â hwy i gael yr effaith gorau
Rheoli Iechyd y Boblogaeth
Mae Rheoli Iechyd y Boblogaeth (PHM) yn ddull sy’n gwella iechyd y boblogaeth trwy gynllunio a darparu gofal rhagweithiol sy’n seiliedig ar ddata i gael yr effaith fwyaf posibl ar iechyd a llesiant y boblogaeth. Defnyddir setiau data cysylltiedig i segmentu, haenu a modelu’r carfanau “mewn perygl” a “risg cynyddol” lleol. Caiff y rhain yn eu tro eu defnyddio i ddylunio, targedu a phersonoli ymyriadau i ddarparu gofal rhagweithiol a chyfrannol i leihau anghydraddoldebau iechyd.
Gell Rheoli Iechyd y Boblogaeth gael ei ddefnyddio ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol i adnabod unigolion sydd â’r angen mwyaf; y rhai a fyddai’n elwa fwyaf o ymyrraeth benodol; a’r rhai sydd ag angen cynyddol neu a fydd ag angen yn y dyfodol.
Disgwylir y bydd Rheoli Iechyd y Boblogaeth yn gwireddu nod triphlyg:
- Lleihau anghydraddoldebau iechyd.
- Gwella iechyd a llesiant pobl Cymru.
- Gwella ansawdd a phrofiad o ddarparu a derbyn gofal.
Lleihau anghydraddoldebau trwy ofal sylfaenol a chymunedol
Mae gofal sylfaenol yn gweithio o fewn cymunedau a chyda chymunedau, a dyma’r lle iawn ar gyfer gwaith atal personol, ymyrraeth gynnar a thriniaeth. Dyma’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer gofal sylfaenol a chymunedol cleifion, ac mae’n gweithredu fel canolfan sy’n cysylltu pobl â gwasanaethau ac adnoddau eraill. Trwy ganolbwyntio ar anghydraddoldebau iechyd, mae gofal sylfaenol a chymunedol yn trin unigolion yn ogystal â chreu newid parhaol, cadarnhaol i gymdeithas.
Ar hyn o bryd mae Is-adran Gofal Sylfaenol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y broses o gyd-ddatblygu fframwaith gweithredu gyda phartneriaid allweddol i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd drwy ofal sylfaenol a chymunedol. Mae’r tudalennau gwe Lleihau anghydraddoldebau iechyd trwy ofal sylfaenol yn cynnwys rhagor o wybodaeth ac adnoddau sy’n berthnasol i anghydraddoldebau iechyd.
Gwerth mewn iechyd
Mae gwerth mewn iechyd yn golygu cyflawni’r canlyniadau gorau posibl i gleifion ar y gost isaf posibl. Mae’n canolbwyntio ar ddarparu gofal sy’n effeithiol, yn effeithlon ac yn canolbwyntio ar y person. Mwy o wybodaetham Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth i Gymru.
Gofal iechyd poblogaeth – Yn cael ei ddatblygu
Dulliau sy’n seiliedig ar asedau ar gyfer gofal integredig
Mae dulliau sy’n seiliedig ar asedau o ofal integredig yn defnyddio adnoddau sydd eisoes yn y gymuned i fynd i’r afael â heriau a dyheadau, gan bwysleisio cyd-gynhyrchu rhwng gwasanaethau ffurfiol a rhwydweithiau anffurfiol. Mae’r dulliau hyn, sy’n cyd-fynd ag ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau, yn symud y pwyslais oddi wrth ddiffygion tuag at atebion, gan feithrin ymgysylltiad cydweithredol a pharchus mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn y DU, mae iechyd, gofal cymdeithasol a thai yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau sy’n seiliedig ar asedau. Mae’r rhain yn cynnwys cydlynu ardaloedd lleol, datblygu cymunedol seiliedig ar asedau, cymorth dan arweiniad y gymuned, rhagnodi cymdeithasol, bywydau a rennir, a chynadledda grwpiau teuluol. Er bod pob un yn wahanol, mae ganddyn nhw elfen gyffredin, sef yr hyn sy’n bwysig i’r unigolyn neu’r gymuned, cydnabod yr asedau sydd ganddynt eisoes, creu atebion trwy gydweithio, ac ymgysylltu â phobl gyda pharch a chydraddoldeb. Mae’r dulliau hyn yn berthnasol i ofal sylfaenol a chymunedol gan eu bod yn meithrin ymddiriedaeth, yn gwella ymgysylltiad â’r gymuned, ac yn hyrwyddo canlyniadau iechyd cynaliadwy trwy alinio darparu gofal â chryfderau a gwerthoedd cynhenid y gymuned.
Mae’r Sefydliad Rhagoriaeth Gofal Cymdeithasol (Scie) (Saesneg yn unig) yn cynnig adnoddau amrywiol gan gynnwys canllawiau, enghreifftiau ymarfer, gwerthusiad o raglenni o’r fath a allai fod yn berthnasol ar gyfer cynllunio a darparu gofal sylfaenol a chymunedol.
Mae adran Sylfaen Wybodaeth Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru hefyd yn cynnwys adnoddau, cyrsiau, tystiolaeth ac enghreifftiau perthnasol o arfer da, yn enwedig ar gyd-gynhyrchu a hefyd ar ddulliau eraill sy’n seiliedig ar asedau.
Gofal iechyd poblogaeth
Yn cael ei ddatblygu
Gwneud i bob cyswllt gyfrif
Mae Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif yn ddull o gefnogi newid ymddygiad sy’n defnyddio’r miliynau o gysylltiadau sy’n digwydd rhwng pobl o ddydd i ddydd. Nod y dull yw grymuso pob aelod o staff sy’n gweithio gyda phobl i drafod ymddygiadau iach. Mae gwefan Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif yn darparu E-ddysgu am ddim i’r holl staff sy’n gweithio ar draws clystyrau i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth ar gefnogi unigolion i wneud newidiadau.