Neidio i'r cynnwys

Gweithio mewn clystyrau

Beth yw clwstwr?

Mae gweithio fel clwstwr yn sicrhau bod gofal yn cael ei gydlynu’n well i hyrwyddo lles unigolion a chymunedau.

Clystyrau yw’r grwpiau amlbroffesiynol sy’n ystyried anghenion lleol, yn chwilio am gyfleoedd i gydweithio’n fwy effeithiol, ac yn cynllunio dulliau gweithredu newydd. Mae Cydweithredfeydd Proffesiynol yn darparu cynrychiolaeth i grwpiau’r Clystyrau iddynt weithio gyda chyd-weithwyr yn y Byrddau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Trydydd Sector i asesu holl anghenion iechyd a llesiant y boblogaeth leol (sydd fel arfer rhwng 25,000 a 100,000 o bobl), sy’n cynnwys dadansoddiad o’r Asesiad Rhanbarthol o Anghenion y Boblogaeth.

Mae’r Clystyrau’n darparu’r profiad lleol a dealltwriaeth o’r cyd-destun a all fod yn hanfodol ar gyfer datblygu atebion lleol y gellir eu cyflawni. Gallwch weld map o glystyrau yng Nghymru yma.


Mae gan y Clystyrau gyllidebau bach i brofi dulliau newydd o fynd i’r afael â blaenoriaethau lleol. Mae’r aelodaeth amlbroffesiynol, amlsector yn galluogi’r clystyrau i fynd i’r afael â’r materion mwy cymhleth a heriol sy’n gofyn am ymateb cydweithredol. Dysgwch am effaith gweithio mewn clystyrau yng Nghymru.