Neidio i'r cynnwys

Canfod clwstwr

Byrddau iechyd:

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am wella iechyd a lles tua 139,174 o bobl sy’n byw ym Mhowys ac am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd effeithiol o ansawdd uchel.  Ceir 3 chlwstwr o fewn Bwrdd Iechyd Addysgu Powys sy’n gweithio’n agos gydag 16 o bractisau meddygol, 24 o bractisau deintyddol, 20 o optometryddion a 23 o fferyllfeydd.

Mae Powys wedi gwahaniaeth rhwng clystyrau, ers 2015, o ran dulliau cynllunio sy’n cwmpasu sefydliadau, gwasanaethau a phroffesiynau. Hefyd, mae rhwydweithiau meddygon teulu ar gael sy’n grwpiau o ymarferwyr meddygol cyffredinol. Mae hyn yn galluogi i faterion sy’n ymwneud â Phractisau Meddygon Teulu a materion cynllunio ehangach yn ymwneud â chlystyrau gael eu trafod ar wahân ond gyda’r naill yn hysbysu’r llall.

Mae gan bob un o’r 3 chlwstwr ym Mhowys aelodaeth amlddisgyblaethol ac amlsefydliadol gan gynnwys Byrddau Iechyd, y Cyngor Sir, y Trydydd Sector, Deintyddiaeth, Optometreg a Fferylliaeth Gymunedol.
Mae cerrig milltir a chamau gweithredu’r Clystyrau’n cyd-fynd â Strategaeth Iechyd a Gofal Powys sy’n cwmpasu:

  • Llesiant
  • Cymorth a chefnogaeth cynnar
  • Mynd i’r afael â’r pedwar mater o bwys
  • Gofal cydgysylltiedig
  • Dyfodol y gweithlu
  • Amgylcheddau arloesol
  • Digidol yn gyntaf
  • Trawsnewid mewn partneriaeth

Clystyrau:

Gallwch ddarllen rhagor o wybodaeth am y clystyrau yma.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Mae gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan 11 clwstwr Gogledd Caerffili, De Caerffili, Dwyrain Caerffili, Gorllewin Blaenau Gwent, Dwyrain Blaenau Gwent, Gogledd Torfaen, De Torfaen, Gorllewin Casnewydd, Dwyrain Casnewydd, Gogledd Sir Fynwy, De Sir Fynwy.

Clystyrau:

Gallwch ddarllen rhagor o wybodaeth am y clystyrau yma.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Ceir 8 rhwydwaith clwstwr yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac mae’r boblogaeth yn amrywio rhwng 30,000 a thros 75,000 o bobl.  Ceir arweinyddiaeth amlwg o fewn y rhwydweithiau, gan feddygon teulu yn benodol; a datblygwyd y rhwydweithiau ar sail aml-broffesiynol.  Maent bellach yn sail i drefnu a darparu llawer o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol, a datblygwyd cysylltiadau cryf â’r trydydd sector.  Sefydlwyd Uned Gwasanaethau Sylfaenol a Chymunedol i arwain yr agenda hon, fel un o’r chwe Uned Weithredol sy’n cwmpasu pob un o’r gwasanaethau clinigol a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd.

Mae mwy o wybodaeth ar glystyrau BIPBA i’w weld yma.

Arweinwyr Clystyrau:

Afan Arweinydd Clwstwr: Gwag
Iechyd Bae Arweinydd Clwstwr: Dr Nicola Jones
Dinas Iechyd Arweinydd Clwstwr: Rhys Jenkins (Fferyllfa)
Cwmtawe Arweinydd Clwstwr: Mike Garner (Rheolwr Practis)
Llwchwr Arweinydd Clwstwr:  Gwag
Castell-Nedd Arweinydd Clwstwr:  Dr Deborah Burge-Jones
Penderi Arweinydd Clwstwr:  Dr Sowndarya Shivaraj
Cymoedd Uchaf  Arweinydd Clwstwr:  Niki Watts (Fferyllfa)

 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Mae 14 o Glystyrau Gofal Sylfaenol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB).

Proffiliau Ardal Leol
Mae Proffiliau Ardal Leol wedi cael eu datblygu fel rhan o Raglen Trawsnewid Gwasanaethau Cymunedol y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, gyda’r bwriad o gefnogi datblygiad cynllunio strategol yn seiliedig ar leoedd a chomisiynu ar gyfer iechyd a gofal ar draws y rhanbarth.

Mae Proffiliau Ardal Leol yn dod a data a mewnwelediad ynghyd gan asiantaethau gwahanol er mwyn adeiladu darlun cyflawn o anghenion a chryfderau cymunedau gwahanol ar lefel leol, ronynnol. Mae’r mewnwelediad hyn yn cael ei ddefnyddio i siapio blaenoriaethau ar gyfer y lleoliad ac yn mynegi uchelgais cytunedig, cyfun i iechyd a gofal pobl leol a’r gwasanaethau maent yn eu derbyn. Bydd y data hefyd yn cael ei ddefnyddio yn barhaus er mwyn addasu blaenoriaethau a galluogi partneriaid i ddwyn ei gilydd i gyfrif ar gyfer darparu eu huchelgeisiau.

Cyfeiriadur Iechyd Poblogaeth Clwstwr BCUHB
Mae Cyfeiriadur Iechyd Poblogaeth Gogledd Cymru (NWPHD) yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau iechyd cyhoeddus ac yn darparu gwybodaeth am angen iechyd y boblogaeth ar wahanol lefelau daearyddol (gan gynnwys ar lefel Clwstwr) i staff y GIG at ddibenion cynllunio.

Clystyrau:

Gallwch ddarllen rhagor o wybodaeth am y clystyrau yma.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Mae gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro dair ardal a cheir tri chlwstwr ym mhob ardal.
Ardal Gogledd a Gorllewin Caerdydd (mewnrwyd – dim ond ar gael drwy rwydwaith GIG Cymru)
Ardal De a Dwyrain Caerdydd  (mewnrwyd – dim ond ar gael drwy rwydwaith GIG Cymru)
Ardal y Fro  (mewnrwyd – odim nd ar gael drwy rwydwaith GIG Cymru)

Clystyrau:

Gallwch ddarllen rhagor o wybodaeth am y clystyrau yma.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Ceir 8 clwstwr o fewn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg  – sef Rhondda; Taf Elái; Merthyr Tudful; Cynon i’r gogledd; Cynon De; Dwyrain Pen-y-bont ar Ogwr; Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr a Gogledd Pen-y-bont ar Ogwr. Mae poblogaeth cleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg oddeutu 450,000.

Clystyrau:

Gallwch ddarllen rhagor o wybodaeth am y clystyrau yma.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Mae gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda 7 clwstwr
Sir Gaerfyrddin: Aman Gwendraeth, Llanelli, Taf / Tywi (2Ts).
Ceredigion: Gogledd Ceredigion, Teifi a De Ceredigion
Sir Benfro: Gogledd Sir Benfro a De Sir Benfro

Clystyrau:

Gallwch ddarllen rhagor o wybodaeth am y clystyrau yma.

Map o Gymru wedi’i rannu’n saith rhanbarth wedi’u rhifo, mae pob rhanbarth yn cynrychioli bwrdd iechyd.

  1. Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
  2. Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  3. Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
  4. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  5. Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
  6. Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
  7. Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda