Neidio i'r cynnwys

Awgrymiadau i’ch helpu i ddechrau arni – Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru

Mae cymryd rhan yng nghynllun Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru yn syml ac yn hawdd iawn i’w wneud.

Rydym yn gwerthfawrogi, fodd bynnag, fod practisiau gofal sylfaenol yn hynod brysur felly rydym wedi dadansoddi rhai meysydd allweddol a fydd yn eich helpu i ddechrau arni. Gellir darllen y cwymplenni isod mewn unrhyw drefn ond rydym yn argymell eich bod yn dechrau ar y brig.

Cymerwch olwg ar yr ystod eang o astudiaethau achos sy’n dangos gwaith mawr gan rhai o feddygfeydd sydd wedi cymryd rhan yn y Cynllun.

Sut mae’n gweithio?

Mae Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru yn rhad ac am ddim i ymuno ag ef ac mae’n cynnwys amrywiaeth eang o gamau gweithredu clinigol ac anghlinigol sy’n ystyriol o’r hinsawdd i dimau eu rhoi ar waith. Gellir cwblhau’r camau gweithredu mewn unrhyw drefn a gellir gwneud faint fynnir ohonynt, sy’n cynnig hyblygrwydd o ran sut i gymryd rhan

Gall practisiau ennill gwobr efydd, arian neu aur os ydynt yn cwblhau nifer penodol o gamau gweithredu. Mae pob cam gweithredu sy’n cael ei gwblhau yn cyfateb i 1 pwynt ac wrth i nifer y pwyntiau gynyddu, felly hefyd lefel y wobr.

Mae’r camau gweithredu wedi’u cynnwys ar fframwaith ar-lein ac mae gwybodaeth ac adnoddau ategol yn cyd-fynd â phob cam gweithredu i’ch helpu i’w gwblhau. Bydd angen i chi gofrestru i gael mynediad at y fframwaith ar-lein, ond gallwch weld y rhestr o gamau gweithredu presennol drwy glicio ar y ddolen isod. Mae cyngor ychwanegol ar gael gan ein tîm drwy [email protected].

Pa mor hir fydd hyn yn ei gymryd?

Mae’r Cynllun ar agor i dimau ymuno a chymryd rhan ynddo hyd at Hydref 2026. Mae hyn yn caniatáu digon o amser i weithio ar gamau gweithredu ac ennill gwobr, neu i weithio ar gamau gweithredu ychwanegol i ennill lefel uwch o wobr nag yn y blynyddoedd blaenorol.

Mae’r fframwaith yn cynnig amrywiaeth eang o gamau gweithredu – rhai’n gyflym ac yn hawdd, rhai’n fwy heriol a fydd yn cymryd mwy o amser. Mae gennych chi hyblygrwydd i ddewis pa gamau gweithredu i’w gwneud. Gallwch ddewis camau gweithredu y gallwch eu cwblhau’n gyflym neu rai sy’n gofyn am fwy o amser.

Pam ddylen ni gymryd rhan?

Mae’r rhan fwyaf o unigolion a thimau’n ymuno â’r Cynllun oherwydd eu bod nhw eisiau gwneud rhywbeth er budd yr amgylchedd. Mae llawer o’r camau gweithredu yn y fframwaith yn cael eu hystyried yn gamau gweithredu ‘lliniarol’ neu sy’n ‘datgarboneiddio’ – mae rhoi’r rhain ar waith yn bwysig oherwydd dyma’n hunig ffordd o arafu newid hinsawdd. Mae rhai o’r camau gweithredu yn cael eu hystyried yn gamau ‘addasu’ oherwydd eu bod yn cynnwys addasu i effeithiau tebygol newid hinsawdd, fel digwyddiadau tywydd garw.

Fodd bynnag, yn ogystal â’r rhesymau amgylcheddol hyn, mae llawer o dimau hefyd yn sôn am arbedion ariannol o ganlyniad i gymryd rhan, gwell llesiant a morâl ymhlith staff, a chyd-fuddion clinigol i gleifion.

I gael gwybod rhagor, edrychwch ar ein hastudiaethau achos sy’n arddangos gwaith gwych rhai o’r practisiau sydd wedi cymryd rhan yn y Cynllun. Gallwch hefyd ddarllen rhai o’r gymeradwyaeth a gafwyd gan ffigurau allweddol yng Nghymru.

Rydym hefyd wedi datblygu cyfres o becynnau adnoddau penodol i gontractwyr i gefnogi pob un o’r pedwar contractwr gofal sylfaenol wrth iddynt ystyried ffyrdd o ddod yn fwy ystyriol o’r hinsawdd drwy gymryd rhan yn Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru.

Cwestiynau cyffredin

Mae cyfres o gwestiynau cyffredin am y Cynllun wedi’u llunio i gynorthwyo timau newydd a thimau sy’n dychwelyd. Os na allwch ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yn y ddogfen Cwestiynau Cyffredin, anfonwch e-bost atom at [email protected].

Adnoddau defnyddiol
  • Astudiaeth yn Archwilio ôl-troed Carbon y Cynllun Cenedlaethol a Phractisiau Unigol sy’n Cymryd Rhan, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Mai 2022
  • Cyfrifianellau ôl-troed Carbon i’w defnyddio gan Gontractwyr Gofal Sylfaenol Adroddiad Cryno,
COFRESTRWCH YMA i ymuno â Chynllun Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru

Sut i ddefnyddio’r fframwaith