Neidio i'r cynnwys

Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru

Banner with individual elements showing a stethoscope, display shelves of spectacles, medication, and a dental examination. A green circular logo sits in the centre displaying white icons for the individual elements.

Yma fe gewch wybodaeth, adnoddau ac enghreifftiau o Gymru sy’n ymwneud â chynaliadwyedd amgylcheddol, datgarboneiddio ac addasu mewn lleoliadau gofal sylfaenol.

Ymunwch â dros 400 o dimau sydd wedi cofrestru ar Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru drwy gofrestru am ddim heddiw. Gwrandewch ar ein cyhoeddiad ail-lansio ar gyfer 2025/2026 yma.

Cymerwch olwg ar ein map rhyngweithiol i weld pwy sydd eisoes yn cymryd rhan. 

COFRESTRWCH YMA i ymuno â Chynllun Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru
Pam fod angen i ni gyd weithredu?
  • Newid hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf i iechyd pobl yn yr 21ain ganrif wrth i farwolaethau ac afiachedd sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd barhau i gynyddu. Mae effeithiau newid hinsawdd yn effeithio ar bob un ohonom. Fodd bynnag, mae risgiau iechyd sy’n sensitif i’r hinsawdd yn cael eu teimlo’n anghymesur gan y rhai mwyaf agored i niwed a dan anfantais.
  • Mae gan Gymru y dirwedd bolisi gywir i gefnogi camau gweithredu i alluogi gofal sylfaenol i fod yn fwy gwyrdd. O’r datganiadau argyfwng hinsawdd a natur, i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Sero Net Cymru.
  • Mae Sero Net Cymru yn gynllun gweithredu a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru wedi’i arwain gan y cyngor diweddaraf gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU, sy’n amlinellu’r llwybr i gyflawni allyriadau sero net yng Nghymru erbyn 2025. Mae uchelgais a tharged i’r sector cyhoeddus yng Nghymru fod yn sero net erbyn 2030.
  • Mae maint a chyflymder y newid sydd ei angen yn sylweddol ac mae angen i bawb gyfrannu. Drwy gymryd rhan yng nghynllun Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru, gallwch chi gyfrannu at greu Cymru wyrddach, gryfach a thecach.

Cofrestrwch yma i ymuno â Chynllun Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru. 

Ein stori
  • Mae Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru yn cael ei letya a’i gyflwyno gan dîm bach sydd wedi’i leoli yn Is-adran Gofal Sylfaenol, Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  • Lansiwyd y Cynllun yn 2022 mewn ymateb i’r diffyg adnoddau sydd ar gael i gefnogi practisiau gofal sylfaenol yng Nghymru i fod yn fwy gwyrdd.
  • Rydym yn cyflwyno’r Cynllun mewn partneriaeth ag elusen Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, SOS UK Green Impact a’n Grŵp Arbenigol.
  • Ein cenhadaeth yw gwneud gofal iechyd yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol. Rydyn yn canolbwyntio ar ofal sylfaenol lle mae 90% o ofal iechyd yn cael ei ddarparu. Anelwn at gyflawni hyn drwy ysgogi practisiau gofal sylfaenol yng Nghymru i weithio yn fwy cynaliadwy ac i gymryd camau bach, ymwybodol, cyson a blaengar i liniaru effeithiau newid hinsawdd ac addasu iddynt.
  • Gwnaethom ddechrau’r gwaith hwn gyda phractisiau cyffredinol, fferyllfeydd cymunedol, practisiau optometreg a phractisiau deintyddion. Fodd bynnag, mae’r Cynllun ar agor i bob darparwr gofal sylfaenol yng Nghymru. Er enghraifft, mae gwasanaethau deintyddol cymunedol a gwasanaethau deintyddol preifat hefyd wedi bod yn cymryd rhan.

Cofrestrwch yma i ymuno â Chynllun Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru.

Beth yw Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru?

Cofrestrwch yma i ymuno â Chynllun Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru.

Pwy ddylai gymryd rhan?

Cofrestrwch yma i ymuno â Chynllun Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru.

Os hoffech gymryd rhan ond nad ydych yn siŵr a yw’r Cynllun yn addas i chi, anfonwch e-bost at [email protected] a bydd aelod o’r tîm yn eich cynorthwyo.

Ein heffaith
  • Ers 2022 mae Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru wedi bod yn eiriol, yn cynghori ac yn darparu offer i rymuso gofal sylfaenol i arwain a gweithredu camau gweithredu sy’n fuddiol i’r amgylchedd, eu busnes, staff a chleifion.
  • Rydym yn gwerthfawrogi mai’r bobl sy’n gweithio mewn practisiau sy’n gwneud i hyn ddigwydd ac mae ymdrechion a straeon nifer o bractisiau sy’n cymryd rhan wedi’u cofnodi fel astudiaethau achos. Gallwch ddarllen yr astudiaethau achos yma.
  • Ar ddiwedd 2024, tair blynedd ers lansio Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru, rydym wedi cyflawni’r canlynol:
    • 548 o bractisiau wedi cofrestru â’r Cynllun
    • Lleihad o dros 2550 tunnell mewn CO2e. Mae hyn yn cyfateb i yrru 6.4 miliwn o filltiroedd mewn car petrol.
    • 11 o farwolaethau o ganlyniad i’r hinsawdd wedi eu hosgoi
  • I gael gwybod rhagor, darllenwch ein hastudiaeth achos a gyhoeddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd.
  • Edrychwch ar ein ffeithlun ar Aliniad Strategol i weld sut mae Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru yn cyd-fynd â pholisïau, strategaethau a deddfwriaeth allweddol. Datblygwyd yr adnodd hwn gan yr Is-Adran Gofal Sylfaenol.

Cofrestrwch yma i ymuno â Chynllun Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru.

Sut fydd hyn o fudd i’m mhractis?
  • Bydd gweithredu llawer o’r camau gweithredu sy’n ystyriol o’r hinsawdd sy’n rhan o’r Cynllun nid yn unig o fudd i’r amgylchedd, byddant hefyd yn arwain at gyd-fuddion ariannol, cymdeithasol a chlinigol.
  • Dywedodd un o’n practisiau deintyddol a enillodd Wobr Gofal Sylfaenol Gwyrddach yng Nghynhadledd a Gwobrau Cynaliadwyedd GIG Cymru 2025 wrthym…

“Rydym wedi lleihau ein contract gwaredu gwastraff clinigol sydd wedi arwain at arbediad blynyddol o £800. Rydym hefyd wedi lleihau ein costau caffael ar gyfer eitemau tafladwy (e.e. cwpanau plastig, pennau sugno plastig, cydau sterileiddio) sy’n cyfateb i arbediad blynyddol o dros £4000.”

Darllenwch rhagor am yr hyn y mae’r practis wedi’i gyflawni yma.

Fideos

 

 

 

Cymeradwyaeth

 

 

 

 

Cysylltu â phobl o’r un anian

Drwy ymuno ag un neu fwy o’r mentrau canlynol, byddwch yn cwrdd â phobl eraill fel chi sy’n cymryd camau i wneud eu practisiau yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol.

Gobeithiwn, drwy gael gwybodaeth reolaidd, gwrando ar bobl eraill a chydweithio â nhw, y byddwch yn ennill gwybodaeth newydd, yn datblygu sgiliau gwyrdd ac yn cael syniadau ar sut i roi camau bach ar waith yn eich practis eich hun.

Dyma ychydig o awgrymiadau i chi ddechrau arni:

Fideo animeiddiad Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru