Neidio i'r cynnwys

Brechlyn firws syncytial anadlol (RSV) - Gwybodaeth brechlyn RSV i weithwyr iechyd proffesiynol

Mae’r Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn cydnabod effaith sylweddol RSV ar boblogaeth y DU a’r straen y mae’n ei roi ar wasanaethau’r GIG yn ystod y gaeaf. Yn 2023, argymhellodd y JCVI y dylid gweithredu rhaglenni imiwneiddio RSV i amddiffyn babanod ac oedolion hŷn.  

1 Medi 2024, cyflwynwyd Cymru rhaglen i famau i amddiffyn babanod, a rhaglen i oedolion hŷn i amddiffyn oedolion hŷn.  

Y brechlyn 

Y brechlyn a ddefnyddir yn y rhaglen i famau a’r rhaglen i oedolion hŷn yw Abrysvo®. 

Crynodeb o nodweddion y cynnyrch 

Mae rhagor o wybodaeth am y brechlyn ar gael ym Mhennod 27a o’r Llyfr Gwyrdd ar wefan Llywodraeth y DU (safle allanol)

 Mae canllawiau yn y Llyfr Gwyrdd Pennod 27a ynghylch RSV yn disodli’r Crynodeb o Nodweddion Cynnyrch (SmPC). 

Mae amserlenni imiwnediddio arferol i Gymru yn cynnwys gwybodaeth am frechiadau arferol ac anarferol.  

Rhaglen i famau i amddiffyn babanod  

Cynigir y rhaglen genedlaethol ar gyfer amddiffyn babanod trwy gydol y flwyddyn i bob menyw feichiog rhwng 28 a 36 wythnos o feichiogrwydd. Gellir cynnig y brechlyn oddi ar y label ar ôl 36 wythnos o feichiogrwydd. Fodd bynnag, efallai na fydd hyn yn cynnig lefel mor uchel o amddiffyniad goddefol i’r baban.  

Yn ddelfrydol, dylid rhoi’r brechlyn yn ystod wythnos 28 o feichiogrwydd neu’n fuan wedyn. Mae hyn yn caniatáu digon o amser i’r fam wneud lefelau uchel o wrthgyrff, a all wedyn drosglwyddo ar draws y brych. Mae hyn hefyd yn cynyddu’r potensial i fabanod sy’n cael eu geni’n gynamserol elwa.

Mae hefyd yn glinigol resymol i fenywod nad ydynt wedi cael eu brechu yn ystod beichiogrwydd gael y brechlyn ar ôl geni nes iddynt gael eu rhyddhau o’r gwasanaethau mamolaeth. Fodd bynnag, mae’r pwyslais ar gynnig y brechlyn o wythnos 28 wythnos o feichiogrwydd ymlaen gan nad yw brechiad ar ôl geni yn cynnig trosglwyddo gwrthgyrff trwy’r brych. Fodd bynnag, gallai amddiffyn y fam rhag dal RSV neu ei gwneud yn llai heintus. Efallai y bydd gwrthgyrff hefyd yn cael ei drosglwyddo i’r baban o laeth y fron.

Mae brechu mamau wedi profi yn effeithiol yn erbyn RSV LRTI mewn babanod o enedigaeth hyd at chwe mis a thu hwnt. Dangosodd treial fod brechu menywod beichiog rhwng 24 a 36 wythnos o feichiogrwydd yn lleihau RSV LRTI a RSV LRTI difrifol yn sylweddol mewn babanod.

Mewn treial clinigol yn edrych ar adwaith niweidiol i Abrysvo®, roedd ychydig mwy o fabanod cynamserol yn y grŵp brechlyn (2.4%) na’r grŵp plasebo (1.9%). Nid oedd hyn yn ystadegol arwyddocaol ac nid oedd unrhyw berthynas amserol rhwng genedigaethau cynamserol a’r brechiad RSV.

Brechiadau yn ystod beichiogrwydd  

Brechlyn Pryd y dylid rhoi pob brechlyn?
Brechiad y pas (pertwsis) Mae’r brechlyn wedi’i drwyddedu i’w roi rhwng 16 a 32 wythnos o feichiogrwydd (fodd bynnag, gellir ei roi hyd at wyth wythnos ar ôl genedigaeth)
RSV vaccine Mae’r brechlyn wedi’i drwyddedu i’w roi rhwng 28 a 36 wythnos o feichiogrwydd (* gellir ei roi oddi ar drwydded hyd nes y caiff y fam ei rhyddhau o’r gwasanaethau mamolaeth)  
Brechlyn ffliw Unrhyw amser yn ystod beichiogrwydd

Mae’n bwysig cael brechlynnau ar yr adeg iawn yn ystod beichiogrwydd. Dylai menywod beichiog gael eu brechlynnau cyn gynted ag y byddant yn gymwys.

Cydweinyddu brechlynnau mewn menywod beichiog 

Brechlynnau A ellir rhoi’r brechlynnau gyda’i gilydd?
Abrysvo® ac imiwnoglobwlin gwrth-D  ✔ 
Abrysvo® a brechlyn sy’n cynnwys pertwsis ✔* 
Abrysvo® a’r brechlyn ffliw tymhorol ✔ 

* Mae rhywfaint o dystiolaeth y gallai rhoi’r brechlyn RSV gyda brechlynnau sy’n cynnwys pertwsis leihau’r ymateb imiwn i pertwsis ychydig. Mae’r effaith glinigol yn aneglur ac yn debygol o fod yn fach. Er mwyn osgoi’r broblem bosibl hon, argymhellir rhoi’r brechlyn pertwsis o 16 wythnos o feichiogrwydd ymlaen a’r brechlyn RSV o 28 wythnos ymlaen. Fodd bynnag, os nad yw menyw wedi cael y brechlyn pertwsis pan ddisgwylir iddi gael y brechlyn RSV Abrysvo®, gellir rhoi’r ddau frechlyn. Dylid eu rhoi yn yr un apwyntiad er mwyn sicrhau amddiffyniad amserol i’r baban. 

Disgwylir i sgil-effeithiau brechlynnau a roddir gyda’i gilydd fod yn debyg i sgîl-effeithiau pob brechlyn pan gânt eu rhoi ar eu pen eu hunain. 

I gael rhagor o wybodaeth am roi brechlynnau eraill gydag Abrysvo®, gweler Llyfr Gwyrdd, pennod 27a ar imiwneiddio am Feirws Syncytial Anadlol (RSV) (safle allanol).

Y rhaglen frechu i oedolion hŷn

Mae’r rhaglen frechu RSV i oedolion hŷn yn rhaglen gydol y flwyddyn ar gyfer unigolion sy’n troi’n 75 oed. Yn ystod y flwyddyn gyntaf mae rhaglen dal i fyny ar gyfer rhai rhwng 75 a 79 oed (hyd at 31 Awst 2025). Mae’r tabl isod yn dangos pa oedolion hŷn sy’n gymwys i gael y brechlyn RSV. 

Eich oedran ar 1 Medi 2024 Dyddiad geni Pryd y gallaf gael y brechlyn RSV? Am ba mor hir ydw i’n gymwys? 
74 O 1 Medi 1949 Ar neu ar ôl eich pen-blwydd yn 75 oed Hyd at eich pen-blwydd yn 80 oed
75 -78 oed 2 Medi 1945 i 1 Medi 1949 Rhwng 1 Medi 2024 a 31 Awst 2025 Hyd at eich pen-blwydd yn 80 oed
79 oed 2 Medi 1944 i 1 Medi 1945 Rhwng 1 Medi 2024 a 31 Awst 2025 Hyd at 31 Awst 2025

Cyd-weinyddu brechlynnau mewn oedolion hŷn 

Brechlynnau a weinyddir yn gyffredin i oedolion hŷn A ellir eu gweinyddu gyda’i gilydd?
Abrysvo® a Zostavax® neu Shingrix® ✔ 
Abrysvo® a Pneumovax 23® ✔ 
Abrysvo® a’r brechlyn ffliw ✔* 
Brechlyn Abrysvo® a’r Brechlyn COVID-19 ✔* 

*Ni ddylai Abrysvo® gael ei roi fel mater o drefn ar yr un diwrnod â’r brechlyn ffliw neu COVID-19 mewn oedolion hŷn. Gallai rhoi’r brechlyn Abrysvo® gyda’r brechlyn ffliw tymhorol leihau’r ymateb imiwn i’r cydrannau RSV a’r ffliw (H3N2), a allai gynyddu’r risg o glefyd anadlol difrifol mewn oedolion hŷn. Yn ogystal, gallai cyd-weinyddu’r brechlyn COVID-19 leihau’r ymateb imiwn i’r brechlyn RSV. Fodd bynnag, os credir nad yw’r unigolyn yn debygol o ddychwelyd i gael ei frechlyn ffliw neu COVID-19, gellir eu rhoi ar yr un pryd.

Disgwylir i sgil-effeithiau brechlynnau a roddir gyda’i gilydd fod yn debyg i sgîl-effeithiau pob brechlyn pan gânt eu rhoi ar eu pen eu hunain.

I gael rhagor o wybodaeth am roi brechlynnau eraill gyda’r brechlyn Abrysvo®, gweler Llyfr Gwyrdd, pennod 27a ar imiwneiddio am Feirws Syncytial Anadlol (RSV) (safle allanol).

Canllawiau 

Argymhellion y rhaglen frechu gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru sydd i’w gweld trwy ddilyn y dolenni isod.  

Joint Committee on Vaccination and Immunisation ar wefan Llywodraeth y DU (safle allanol) – darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI; chwiliwch am e.e.’Feirws Syncytiol Anadlol’, ‘RSV’.

Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru 

Adnoddau a gwybodaeth glinigol 

Cyfarwyddyd Grŵp Cleifion (PGDs) a phrotocolau 

Gellir dod o hyd i dempledi PGD ar gyfer brechlynnau ar wefan Gwasanaeth Cyngor Meddyginiaethau Cymru (safle allanol).

Rhagor o wybodaeth  

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 26ain Hydref 2025