Neidio i'r cynnwys

Brechlyn feirws papiloma dynol (HPV) - Gwybodaeth brechlyn HPV i weithwyr iechyd proffesiynol

Yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd ar gyfer 2025-26.

Ers 2018, mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi bod yn adolygu’n fanwl y dystiolaeth am amddiffyn drwy gael un dos o frechlyn HPV. Mae’r JCVI o’r farn bod y dystiolaeth bellach yn gryf iawn bod un dos yn rhoi amddiffyniad tebyg i’r hyn a roddir gan ddau ddos. 

Gweler datganiad y JCVI yn llawn ar wefan Llywodraeth y DU (safle allanol).

Yng Nghymru a Lloegr o 1 Medi 2023, bellach mae amserlen un dos ar gyfer brechiadau HPV ar gyfer rhaglen arferol y glasoed a dynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy’n cael rhyw gyda dynion (GBMSM) o dan 25 oed. Darperir manylion pellach yng Nghylchlythyr Iechyd Cymru WHC/2023/016 (gweler yr adran Canllawiau isod). 

Argymhellir un dos o’r brechlyn HPV ar gyfer: 

  • Pawb yn y glasoed sy’n imiwnogymwys (bechgyn a merched)*. Mae’r brechlyn HPV yn cael ei gynnig mewn ysgolion i ddisgyblion ym Mlwyddyn 8 (rhwng 12 a 13 oed fel arfer). Mae dynion a merched mewn carfannau sy’n gymwys i gael eu brechu yn y rhaglen genedlaethol yn parhau felly tan eu pen-blwydd yn 25 oed – gweler y Llyfr Gwyrdd am fanylion.
  • GBMSM hyd at 25 oed sy’n mynychu Gwasanaethau Iechyd Rhywiol Arbenigol a/neu glinigau HIV.* 

Mae amserlen dau ddos or brechiad HPV yn cael ei argymell ar gyfer: 

  • GBMSM sydd rhwng 25 a 45 oed. 

Noder: dylai unigolion sy’n gymwys ar gyfer brechiad HPV sy’n imiwnoataliedig neu’n HIV positif gael cynnig tri dos o’r brechlyn HPV. 

Gwybodaeth am Gardasil

Gardasil yw’r brechlyn sydd wedi cael ei ddefnyddio gan y GIG ers 2012. Yn 2022, cyflwynwyd Gardasil 9 yn rhan o raglen frechu HPV y GIG. Dyma’r prif frechlyn HPV sy’n cael ei roi yng Nghymru nawr.  

Mae Gardasil 9 yn gwarchod rhag mathau o HPV (6, 11, 16, 18, 31, 33, 45, 52 a 58). Mae mathau HPV: 16 ac 18 yn fathau HPV risg uchel a all arwain at ganser; mae 6 ac 11 yn fathau HPV sy’n achosi tua 90% o’r holl ddefaid anogenhedlol mewn gwrywod a benywod. 

Mae Gardasil 9 yn cynnig gwarchodaeth rhag 5 math ychwanegol o HPV (31, 33, 45, 52, 58) sydd, er yn llai cyffredin na mathau 16 a 18, hefyd yn cael eu hystyried yn risg uchel. Mae Gardasil 9 yn gwarchod rhag y mwyafrif o ganserau ceg y groth, y fagina a’r fylfa a briwiau cyn-ganseraidd, yn ogystal â defaid gwenerol sy’n gysylltiedig â HPV.  

Crynodeb o nodweddion cynnyrch 

Mae’r amserlen imiwneiddio rheolaidd gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am brechlynnau sy’n rheolaidd a’r rhai sydd ddym yn rheolaidd.

Canllawiau

Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.

Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar wefan Llywodraeth y DU (safle allanol) – i ddarllen cyhoeddiadau a datganiadau’r JCVI gallwch chwilio am e.e. HPV.

Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru

Adnoddau a gwybodaeth glinigol

Cyfarwyddiadau grŵp Cleifion (PGDs) a phrotocolau

Gellir dod o hyd i dempledi PGD ar gyfer brechlynnau ar dudalen  gwasanaeth cyngor ar feddyginiaethau Cymru.

Mwy o adnoddau clinigol a gwybodaeth

Adnoddau eraill

Data a goruchwyliaeth

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 26ain Hydref 2025