Rwbela
Mae rwbela (a elwir hefyd yn frech goch yr Almaen) yn salwch anghyffredin a achosir gan feirws. Mae’n lledaenu trwy besychu a thisian ac yn cynhyrchu brech goch smotiog.
Gall symptomau gymryd pythefnos i dair wythnos i ddatblygu. Gall pobl drosglwyddo’r clefyd i bobl eraill cyn iddyn nhw hyd yn oed wybod ei fod arnynt.
Gall dal rwbela yn ystod beichiogrwydd fod yn ddifrifol iawn i’r babi yn y groth. Gall niweidio golwg, clyw, calon ac ymennydd babanod heb eu geni yn ddifrifol. Gelwir y cyflwr hwn yn syndrom rwbela cynhenid (CRS).
Symptomau rwbela
Mae symptomau rwbela yn cynnwys:
- Brech
- Chwarennau chwyddedig
- Twymyn (tymheredd uchel o 38⁰C neu uwch)
- Dolur gwddf
- Trwyn yn rhedeg
Bydd naw o bob 10 menyw sy’n cael eu heintio â rwbela yn ystod tri mis cyntaf beichiogrwydd yn cael niwed i’w babi yn y groth.
Yn y pum mlynedd cyn i’r brechlyn MMR gael ei gyflwyno, roedd tua 43 o fabanod y flwyddyn yn y DU yn cael eu geni â syndrom rwbela cynhenid.
Dysgwch fwy
Os hoffech chi ddysgu mwy am y brechlyn, neu’r afiechyd y maent yn eu hamddiffyn yn erbyn, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu.
Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Adroddiadau
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn