COVID-19
Mae COVID-19 yn glefyd anadlol heintus iawn a achosir gan feirws. Mae’n fwy difrifol mewn pobl hŷn a’r rhai â chyflyrau iechyd penodol. Mae’n fwy tebygol y bydd angen triniaeth ysbyty ar bobl sydd mewn mwy o berygl os byddant yn dal COVID-19.
Symptomau COVID-19
Ymhlith symptomau cyffredin COVID-19 mae pesychu parhaus, methu arogli neu flasu neu newid i’ch synnwyr o arogl neu flas, poenau, cur pen, blinder, a gwendid. Mae rhagor o wybodaeth am COVID-19 ar gael yn Canllawiau i bobl sydd â symptomau haint anadlol, gan gynnwys COVID-19. Bydd cael eich brechu yn eich helpu i gael symptomau llai difrifol a gwella’n gyflymach.
Dysgwch fwy
Os hoffech chi ddysgu mwy am y brechlyn, neu’r afiechyd y maent yn eu hamddiffyn yn erbyn nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu.
Gallwch hefyd ffonio GIG 111 Cymru neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol
Efallai y bydd diddordeb gennych ddarllen yr adroddiadau a chynhyrchwyd am fewnwelediadau iechyd rhyngwladol neu hoffwch chi weld yr arolygon ymgysylltu â’r cyhoedd ar iechyd a lles yn ystod mesurau coronafeirws.
Adnoddau
Adroddiadau
Data
-
Derbyniadau i’r ysbyty mewn achosion o heintiau anadlol acíwt (ARI)
Mae’r dangosfwrdd hwn yn dangos tueddiadau mewn derbyniadau i’r ysbyty ar gyfer heintiau anadlol acíwt…
-
Dangosfwrdd goruchwiliaeth COVID-19 cyflym Cymru
Mae’r dangosfwrdd gwyliadwriaeth rhyngweithiol hwn yn darparu trosolwg cyflym o ddata viroleg COVID-19 ledled Cymru,…
-
Data Offeryn Adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd
Mae’r dudalen hon yn cynnwys dolen i lawrlwytho taenlen Excel hygyrch sy’n cynnwys y data…
-
Adroddiadau COVID-19 a nodiadau ar sut i’w dehongli
Mae’r data COVID-19 a gyflwynir yn y dangosfwrdd hwn yn cael ei gasglu a’i reoli…