Neidio i'r cynnwys

HIV

Archebu pecyn Profi a Phostio am feirysau a gludir yn y gwaed

Beth yw HIV?

Feirws yw, Feirws Imiwnoddiffygiant Dynol (HIV), sy’n ymosod ar y system imiwnedd.

A yw HIV ac AIDS yn golygu’r un peth?

Nac ydyn. Mae gan rywun sy’n byw gyda HIV y feirws yn ei corff. Mae rhywun ag AIDS wedi cyrraedd y pwynt lle mae eu system imiwnedd wedi gwanhau oherwydd HIV ac maent wedi dechrau cael clefydau y byddai ei cyrff wedi brwydro yn eu herbyn fel arfer.

A yw HIV yn fater difrifol yng Nghymru?

Er bod y niferoedd yn fach, mae cynnydd o 10% bob blwyddyn yn y bobl sy’n byw gyda HIV yng Nghymru. Mae dros 100 o bobl yn cael diagnosis bob blwyddyn yng Nghymru.

Pwy sydd â HIV yng Nghymru?

Gall unrhyw un gael HIV os ydynt yn cael rhyw, does dim gwahaniaeth a ydynt yn heterorywiol neu’n hoyw nac o ble yr ydych yn dod. Er bod HIV yn fwy cyffredin ymysg dynion sy’n cael rhyw gyda dynion (MSM), dynion deurywiol a chymunedau Affricanaidd, mae mwy o bobl bellach yn cael eu heintio, tu hwnt i’r grwpiau hyn. Mae HIV yn fater i bawb.

Sut byddaf yn gwybod bod gan rywun HIV?

Amcangyfrifir nad yw chwarter y bobl yn y DU sydd â HIV yn gwybod hynny. I’r rheiny sydd wedi cael diagnosis ac yn cael triniaeth, eu disgwyliad oes yw y byddant yn cyrraedd ‘henaint’ ac yn gyffredinol ni fyddant yn ymddangos yn wahanol i unrhyw un arall.

Sut ydych yn gallu cael HIV?

Mae HIV yn cael ei drosglwyddo rhwng pobl trwy hylifau’r corff sydd wedi eu heintio fel semen, secretiadau’r fagina, gwaed, llaeth y fron a secretiadau’r rhefr. Y ffordd fwyaf cyffredin o drosglwyddo HIV yw trwy gael rhyw heb gondom neu trwy rhannu offer cyffuriau fel nodwyddau ac ati.

Sut wyf yn diogelu fy hun rhag HIV?

Defnyddiwch gondom bob amser. Gallwch gael condomau am ddim o’r clinig iechyd rhywiol. Gwisgo condom yw’r ffordd orau o ddiogelu eich hun ac eraill rhag HIV a heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol. Os nad ydych wedi hoffi defnyddio condomau yn y gorffennol, rhowch gynnig ar rai gwahanol, mae sawl math gwahanol ar gael bellach sydd wedi eu dylunio i gynyddu pleser a theimlad.

Os wyf yn credu fy mod wedi rhoi fy hun mewn perygl o HIV beth ddyliwn i wneud?

Dylech gael cyngor a phrawf yn eich clinig iechyd rhywiol lleol.

Ydych chi’n chwilio am Broffylacsis ôl-gysylltiad HIV (PEP/PEPSE)?

Mae PEP (Post-Exposure Prophylaxis) yn gwrs o dabledi gwrth-HIV a gymerir am 28 diwrnod ar ôl rhyw a allai eich atal chi – neu rywun rydych wedi cael rhyw ag ef/hi – rhag cael eich heintio â HIV (er enghraifft pan nad ydych chi wedi defnyddio condom neu os bydd condom yn torri).

Er mwyn sicrhau’r siawns orau i’r PEP fod yn effeithiol, mae gofyn i chi ddechrau cymryd y feddyginiaeth cyn gynted â phosib ar ôl dod i gysylltiad â HIV – cyn pen 24 awr fyddai orau, ond ddim hwyrach na 72 awr (3 diwrnod). Dydy’r PEP ddim yn debygol o weithio ar ôl 72 awr.

Os ydych chi’n meddwl bod angen i chi ddechrau cymryd PEP, cysylltwch â ni ar unwaith. Ewch i GIG 111 Cymru, dewiswch ‘Iechyd Rhywiol’ a rhowch eich cod post i ddod o hyd i’r gwasanaethau sy’n gyfagos i chi.

Os oes arnoch angen PEP dros y penwythnos neu y tu allan i oriau swyddfa, pan fydd y clinigau ar gau, y lle gorau i chi fynd yw’r Adran Achosion Brys.

Ble allaf gael cyngor a chefnogaeth os wyf yn poeni am HIV?

Os oes angen cefnogaeth arnoch cyn neu ar ôl cael prawf HIV, mae ar gael yma.

Beth yw buddion cael prawf HIV?

  • Gellir trin HIV hyd yn oed os na ellir ei wella;
  • Gallwch gael triniaeth i reoli’r haint er mwyn gallu byw bywyd hir ac egnïol;
  • Gallwch osgoi ei drosglwyddo i bobl eraill trwy ddefnyddio condom i gael rhyw.

Cwestiynau cyffredin ar brofion a hunan-brofion HIV

Amcangyfrifir bod rhwng 11 a 18% o bobl sy’n byw gyda HIV yng Nghymru ar hyn o bryd yn ymwybodol bod ganddynt yr haint, sydd yn arwain at bobl eraill yn cael eu heintio a chanlyniadau iechyd gwaeth iddyn nhw eu hunain. Mae cyfundrefnau triniaeth newydd ar gyfer haint HIV yn effeithiol iawn a dylai pawb sy’n ystyried eu bod mewn perygl gael prawf HIV.

Mae profion HIV ar gael am ddim yn eich meddygfa neu mewn unrhyw wasanaeth iechyd rhywiol integredig. Cael gwybodaeth am leoliad gwasanaethau iechyd rhywiol integredig.

Gallwch archebu pecyn hunan-brofi am ddim i brofi am HIV, siffilis, hepatitis B a hepatitis C.

Adnoddau

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Data

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn