Neidio i'r cynnwys

Brech M - Ynglŷn â'r brechlyn brech M

Mae brechlyn ar gael i helpu i amddiffyn rhag brech M. Yng Nghymru, mae’r GIG yn cynnig y brechlyn ar sail fesul achos i Ddynion Hoyw, Deurywiol a Dynion eraill sy’n cael Rhyw gyda Dynion (GBMSM) sy’n bodloni unrhyw un o’r meini prawf yn y rhestr isod. 

  • Cael partneriaid rhywiol lluosog 
  • Cymryd rhan mewn rhyw grŵp (neu bartïon rhyw) 
  • Mynd i leoliadau rhyw (fel sawnau neu ystafelloedd cefn) 
  • Wedi cael haint bacteriol yn ddiweddar fel clamydia neu gonoroea o ganlyniad i ryw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf  

 Gall pobl sydd â chysylltiad agos ag aelodau’r gymuned GBMSM sydd mewn perygl o gael brech M hefyd gael y brechlyn. Mae hyn yn cynnwys pobl o bob rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol. 

Gweithredwch: Os ydych chi’n meddwl eich bod chi mewn perygl, trefnwch apwyntiad gyda’ch gwasanaeth iechyd rhywiol. 

 I gael rhagor o wybodaeth am iechyd rhywiol, yn cynnwys cyngor a phrofion yn eich ardal chi, ewch iwefan Iechyd Rhywiol Cymru.

Mae rhestr o wasanaethau iechyd rhywiol ledled Cymru i’w gweld.

Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn

Pam ydw i’n cael cynnig brechlyn brech M?

Mae arbenigwyr brechlynnau yn argymell cynnig y brechlyn i bobl sydd fwyaf tebygol o ddod i gysylltiad â’r feirws. Mae’r brechlyn ar gael fel mater o drefn trwy wasanaethau iechyd rhywiol.

Pwy all gael y brechlyn?

Mae’r brechlyn ar gael i unigolion GBMSM sy’n bodloni meini prawf penodol a chaiff ei gynnig ar sail fesul achos i helpu i amddiffyn rhag brech M.

Gellir cynnig y brechlyn hefyd i rai sydd â chysylltiad agos â phobl sydd mewn mwy o berygl o gael brech M yn y gymuned GBMSM. Mae hyn yn cynnwys pobl o bob rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol.

Gallwch gael eich brechlyn brech M drwy wasanaethau iechyd rhywiol os:

  • oes gennych bartneriaid rhywiol lluosog
  • ydych yn cymryd rhan mewn rhyw grŵp (neu bartïon rhyw)
  • ydych yn ymweld â lleoliadau rhyw (fel sawnau neu ystafelloedd cefn), neu os
  • ydych wedi cael haint bacteriol diweddar fel clamydia neu gonoroea o ganlyniad i ryw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael y brechlyn os ydych chi’n gweithio mewn mannau lle gallai brech M ledaenu. Mae hyn yn cynnwys staff sawna neu rai sy’n trin eitemau neu arwynebau a allai gynnwys hylifau’r corff neu gelloedd croen.

Ni chewch wahoddiad i gael y brechlyn, ond os byddwch yn cysylltu â chlinig iechyd rhywiol neu’n ymweld ag un ac yn bodloni’r meini prawf a restrir uchod, dylech gael cynnig y brechlyn.

I gael rhagor o wybodaeth am ble i gael y brechlyn brech M, ewch i GIG 111 Cymru.

Os ydych chi’n weithiwr gofal iechyd sy’n gymwys i gael y brechlyn brech M, cysylltwch â’ch adran iechyd galwedigaethol i wirio eich statws brechu.

Dydw i ddim yn y grŵp sy’n cael ei argymell ar gyfer y brechlyn brech M – oes angen un arnaf?

Yng Nghymru, rydym yn dilyn cyngor arbenigwyr brechlynnau i gynnig brechiadau brech M i atal brigiad o achosion ac amddiffyn pobl sydd mewn perygl. Os nad ydych chi yn y grŵp a argymhellir ar gyfer y brechlyn brech M, mae’n annhebygol y bydd ei angen arnoch chi ar hyn o bryd.

Ynglŷn â’r brechlyn

Pa frechlyn fydd yn cael ei gynnig i mi?

Byddwch yn cael cynnig y brechlyn Ankara wedi’i Addasu (MVA). Mae’r brechlyn hwn yn helpu i’ch amddiffyn rhag brech M (a’r frech wen).

Mae dau fersiwn o’r brechlyn hwn – Imvanex, a wneir yn Ewrop, a Jynneos, y fersiwn a wneir yn yr Unol Daleithiau. Yr un brechlyn ydyn nhw ond maen nhw’n dod mewn gwahanol becynnau. Bydd y fersiwn a gewch yn dibynnu ar yr hyn sydd ar gael. Mae’r ddau wedi’u cymeradwyo ac yn gweithio’n dda.

Sut mae’r brechlyn yn gweithio?

Mae brechlyn MVA yn cynnwys feirws sydd wedi’i addasu fel na all dyfu yn y corff dynol. Datblygwyd y brechlyn hwn fel ffurf lawer mwy diogel o’r brechlyn brech M a ddefnyddiwyd yn helaeth yn y DU a thramor tan y 1970au.

Ni all y brechlyn MVA achosi brech M na’r frech wen na’u lledaenu.

Gan fod brech M yn cael ei achosi gan feirws fel y frech wen, gall brechlynnau i amddiffyn rhag y frech wen helpu i atal neu leihau’r risg o salwch difrifol o haint brech M.

Ble mae cael fy mrechiad MVA?

Mae’r brechlyn MVA yn cael ei gynnig i’r rhai sy’n gymwys drwy wasanaethau iechyd rhywiol arbenigol.

Mae’r brechlyn ar gael yn y clinigau canlynol yng Nghymru, fesul Bwrdd Iechyd:

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:   

  • Ysbyty Brenhinol Gwent

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:   

  • Adran Iechyd Rhywiol, Ysbyty Brenhinol Caerdydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: 

  • Ysbyty Dewi Sant, Pontypridd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:   

  • Clinig Penlan, Caerfyrddin

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:  

  • Ysbyty Castell-nedd Port Talbot

I weld y rhestr lawn o wasanaethau iechyd rhywiol ledled Cymru, ewch i wefan GIG 111 Cymru.

A allaf dalu am frechlyn MVA yn breifat neu mewn fferyllfa?

Na, dim ond drwy’r GIG y mae’r brechiad MVA ar gael i’r rhai sy’n gymwys. Mae’n frechiad am ddim.

Sut mae’r brechlyn MVA yn cael ei roi?

Fel arfer bydd y brechlyn yn cael ei chwistrellu yn rhan uchaf eich braich.

Os oes gennych ofn nodwyddau, rhowch wybod i’r sawl sy’n rhoi’r brechlyn i chi. Bydd yn eich cefnogi chi.

Beth os oes gen i ofn nodwyddau?

Os oes gennych ofn nodwyddau, rhowch wybod i’r sawl sy’n rhoi’r brechlyn i chi. Bydd yn eich cefnogi chi.

Faint o ddosau sydd eu hangen?

Mae angen dau ddos ar y rhan fwyaf o bobl.

Dylid rhoi’r ail ddos o leiaf 28 diwrnod ar ôl eich dos cyntaf.

Os ydych chi wedi cael eich brechu yn erbyn y frech wen gyda’r hen frechlyn brech wen (byw) o’r blaen, dim ond un dos o’r brechlyn MVA fydd ei angen arnoch chi.

Unwaith y bydd eich cwrs wedi’i gwblhau, nid oes angen brechlynnau pellach arnoch i’ch amddiffyn rhag brech M, oni bai bod gennych system imiwnedd wan iawn a’ch bod wedi cael eich dos olaf fwy na dwy flynedd yn ôl.

Diogelwch ac effeithiolrwydd

Ydy’r brechlyn yn ddiogel?

Ydy, mae’r brechlyn MVA yn ddiogel. Mae’n bodloni’r holl safonau diogelwch. Unwaith y bydd brechlyn yn cael ei ddefnyddio, mae ei ddiogelwch yn parhau i gael ei fonitro.

Ydy’r brechlyn yn gweithio?

Dylai dos cyntaf y brechlyn roi’r lefel uchaf o amddiffyniad i chi tua phedair wythnos ar ôl i chi ei gael.

Efallai na fydd y brechlyn yn atal brech M yn llwyr, ond os byddwch chi’n cael y brechlyn, mae’n debygol y bydd eich symptomau’n ysgafnach.

Mae dau ddos yn rhoi amddiffyniad sy’n para’n hirach, a dyna pam ei bod hi’n bwysig cael y ddau ddos o’r brechlyn.

Ar ôl cael dau ddos o’r brechlyn, mae’r rhan fwyaf o bobl yn datblygu lefel dda o amddiffyniad rhag brech M. Gellir rhoi’r ail ddos o leiaf 28 diwrnod ar ôl eich dos cyntaf.

Hyd yn oed ar ôl dau ddos, dylech barhau i fod yn ymwybodol o risgiau a symptomau brech M gan nad oes yr un brechlyn 100% yn effeithiol. Dylech hefyd barhau i gael profion rheolaidd am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs).

A ddylwn i gael y brechlyn os ydw i eisoes wedi cael brech M?

Gallwch chi gael eich brechu o hyd os ydych chi eisoes wedi cael haint brech M ac wedi gwella o’r haint. Nid yw cael eich heintio â brech M o’r blaen yn golygu na allwch gael eich heintio eto. Os ydych chi’n bodloni’r meini prawf, dylech chi gael cynnig y brechlyn MVA.

Oes unrhyw un na ddylai gael y brechlyn MVA?

Ychydig iawn o bobl na all gael y brechlyn MVA. Ni ddylech gael y brechlyn os ydych wedi cael adwaith difrifol (sy’n peryglu bywyd) i’r canlynol:

  • dos blaenorol o’r un brechlyn, neu
  • gynhwysyn yn y brechlyn.

Mae’r brechlyn yn cynnwys symiau bach iawn o brotein cyw iâr, benzonase, yn ogystal â’r gwrthfiotigau gentamicin a ciprofloxacin.

Siaradwch â’r sawl sy’n rhoi’r brechlyn i chi os ydych wedi cael adwaith alergaidd difrifol i’r brechlyn neu ei gynhwysion yn y gorffennol.

Os ydw i’n sâl, a ddylwn i gael y brechlyn?

Os ydych yn sâl, mae’n well aros nes eich bod wedi gwella cyn cael brechlyn. Nid yw annwyd neu fân salwch arall yn rheswm dros ohirio eich brechlyn.

Os oes gennych dymheredd uchel ac os ydych wedi bod mewn cyswllt agos â rhywun sydd â brech M wedi’i chadarnhau, efallai y bydd angen gwirio am arwyddion cynnar o haint brech M.

Os oes gennych amheuon, trafodwch hyn gyda’r unigolyn sy’n rhoi eich brechiad i chi.

Beth os ydw i’n cymryd meddyginiaethau eraill?

Dywedwch wrth eich meddyg neu nyrs am unrhyw feddyginiaethau rydych yn eu cymryd ar hyn o bryd neu wedi’u cymryd yn ddiweddar. Dylech hefyd ddweud wrthynt am unrhyw frechiadau eraill rydych wedi’u cael yn ddiweddar. Yn y rhan fwyaf o achosion, dylech fod yn iawn i gael y brechlyn.

Mae’r brechlyn yn ddiogel i bobl sy’n byw gyda HIV a’r rhai sy’n cymryd PrEP.  Gallwch hefyd gael y brechlyn ar yr un pryd â brechlynnau pwysig eraill, yn cynnwys y rhai sy’n amddiffyn rhag y Feirws Papiloma Dynol (HPV), hepatitis A, hepatitis B a gonoroea.

Beth yw sgil-effeithiau’r brechlyn MVA?

Fel pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgil-effeithiau. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn ysgafn ac yn rhai tymor byr, ac ni fydd pawb yn eu cael. Dim ond am ychydig ddyddiau y dylai sgil-effeithiau cyffredin o’r brechlyn bara.

Mae sgil-effeithiau cyffredin yn cynnwys:

  • poen, cochni, chwyddo, caledwch neu gosi lle rhoddwyd y pigiad
  • cur pen/pen tost
  • poenau yn y cyhyrau neu boen yn y cymalau
  • teimlo’n sâl
  • blinder
  • teimlo’n oer a thwymyn, a
  • diffyg archwaeth.

Dylech chi aros am 15 munud cyn i chi yrru os ydych chi’n teimlo’n wanllyd ar ôl cael y brechiad.

Os cewch un o’r sgil-effeithiau a restrir uchod, gallwch orffwys a chymryd y dos arferol o barasetamol (dilynwch y cyngor yn y pecyn) i’ch helpu i deimlo’n well. Peidiwch â gyrru na defnyddio peiriannau os ydych yn teimlo’n sâl.

Os yw’r sgil-effeithiau’n para mwy nag ychydig ddyddiau, dylech siarad â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Os oes gennych lid ar y croen atopig (math o ecsema), efallai y byddwch chi’n cael adwaith croen cryfach o’r brechlyn. Gall hyn gynnwys cochni, chwyddo a chosi. Efallai y byddwch hefyd yn cael symptomau cyffredinol eraill, fel pen tost/cur pen, poen yn y cyhyrau, a theimlo’n sâl neu’n flinedig. Gall cyflyrau croen hefyd ail ymddangos neu waethygu.

Gall sgil-effeithiau fod yn fwy cyffredin mewn pobl sydd wedi cael dos o hen frechlyn (byw) y frech wen o’r blaen.

I gael rhagor o wybodaeth am sgîl-effeithiau’r brechlyn:

  • Brechlyn MVA Imvanex

Ewch i wefan Cynhyrchion MHRA (Saesneg yn unig) . Teipiwch ‘Imvanex’ yn y blwch chwilio i ddod o hyd i wybodaeth a darllenwch y daflen wybodaeth i gleifion.

  • Brechlyn MVA Jynneos

Ewch i JYNNEOS | FDA (Saesneg yn unig) i ddod o hyd i wybodaeth a darllenwch y daflen wybodaeth i gleifion ar-lein.

Os oes gennych gwestiynau neu bryderon ynghylch sgîl-effeithiau, gallwch ofyn i’r unigolyn sy’n rhoi’r brechlyn i chi, ymweld â GIG 111 Cymru neu gysylltu â GIG 111 Cymru drwy ffonio 111.

Yn anaml, gall pobl gael adwaith difrifol yn fuan ar ôl cael eu brechu, sy’n achosi anawsterau anadlu a gall beri iddynt lewygu. Gelwir hyn yn adwaith anaffylactig. Gall ddigwydd hefyd gyda meddyginiaethau eraill a bwyd. Mae’r adweithiau hyn yn hynod o brin, ac yn effeithio ar lai nag un mewn miliwn o bobl. Mae staff sy’n rhoi brechiadau wedi’u hyfforddi i reoli’r adweithiau hyn.

Gall pobl sy’n cael adwaith anaffylactig gael eu trin yn llwyddiannus ac fel arfer maent yn gwella o fewn ychydig oriau.

A allaf i ddal i gael brech M os ydw i wedi cael fy mrechu?

Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal salwch difrifol o frech M. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau brech M, hyd yn oed os ydych chi wedi cael eich brechu.

I gael rhagor o wybodaeth am frech M, ewch i

Mae gen i ddermatitis atopig – alla i gael y brechlyn?

Dylech ddweud wrth y meddyg neu’r nyrs os oes gennych ddermatitis atopig, gan y gallai’r risg o sgîl-effeithiau o’r brechlyn MVA fod yn uwch.

Os oes gennych ddermatitis atopig, efallai y byddwch yn cael adweithiau croen cryfach i’r brechlyn, fel cochni, chwyddo a chosi. Efallai y byddwch hefyd yn cael sgîl-effeithiau eraill, fel cur pen/pen tost, poen yn y cyhyrau neu ludded. Gall cyflyrau croen hefyd ail ymddangos neu waethygu.

Rydw i’n HIV positif – alla i gael y brechlyn o hyd?

Gallwch chi gael y brechlyn os ydych chi’n HIV positif. Fodd bynnag, os oes gennych system imiwnedd wan iawn, efallai na fydd y brechlyn yn eich amddiffyn cystal. Rhowch wybod i’ch meddyg neu nyrs eich bod yn HIV positif.

Argymhellir osgoi gweithgaredd rhywiol risg uchel tan ar ôl eich ail ddos.

Beth os ydw i’n feichiog?

Os ydych chi’n feichiog, yn meddwl y gallech chi fod yn feichiog neu’n bwriadu cael baban, siaradwch â’ch meddyg neu nyrs cyn i chi gael y brechiad. Nid yw’r brechlyn MVA yn achosi’r frech wen na brech M, felly ni all ledaenu i faban yn y groth.

Gall brech M fod yn fwy difrifol yn ystod beichiogrwydd, ac mae risg hefyd o drosglwyddo brech M i’ch baban. Bydd eich meddyg neu nyrs yn eich helpu i ddeall manteision y brechlyn ac unrhyw risgiau posibl.

Rwy’n bwydo ar y fron, a ddylwn i gael y brechlyn o hyd?

Gallwch gael y brechlyn os ydych chi’n bwydo ar y fron. Mae’n annhebygol y bydd y brechlyn yn trosglwyddo i laeth eich bron.

Os cewch frech M, mae risg o drosglwyddo’r haint i’ch baban, a gall brech M fod yn fwy difrifol ymhlith babanod bach. Gall eich meddyg neu nyrs helpu i esbonio manteision cael y brechiad.

A ellir rhoi’r brechlyn MVA i blant?

Gall brech M fod yn fwy difrifol ymhlith plant, yn enwedig y rhai dan bump oed, felly argymhellir y brechlyn ar gyfer plant a babanod os ydynt ei angen. Mae’n ymddangos bod brechlynnau sy’n defnyddio’r feirws MVA yn gweithio’n dda iawn. Mae ganddynt hanes diogelwch derbyniol ymhlith plant bach, ac mae sgil-effeithiau tebyg i frechlynnau eraill ar gyfer babanod.

Mae’r brechlyn MVA hefyd wedi’i roi’n ddiogel i nifer o blant yn y DU sydd wedi bod mewn cyswllt â pherson â brech M.

Gellir cynnig y brechlyn i blant ar ôl iddynt gael eu hasesu gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Rwy’n teithio i ardal sydd wedi’i heffeithio gan frech M – oes angen y brechlyn arnaf?

Mae’r risg o ddal brech M yn isel i’r rhan fwyaf o deithwyr. Ar hyn o bryd nid yw brechlyn brech M yn cael ei argymell i’r rhan fwyaf o bobl sy’n teithio i wlad yr effeithir arni gan frech M. Bydd grwpiau sy’n gymwys i gael eu brechu yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf wrth i ragor o wybodaeth ddod ar gael.

Os ydych chi’n teithio i wlad neu ardal sydd wedi’i heffeithio gan frigiad o achosion parhaus o frech M, dylech chi gymryd gofal arbennig i’ch amddiffyn eich hun trwy osgoi cyffwrdd neu gyswllt rhywiol ag unrhyw un sy’n sâl neu sydd â brech. Am ragor o wybodaeth, ewch i NaTHNaC – Brech M (Saesneg yn unig)

I weld y rhestr o wledydd y mae brech M yn effeithio arnynt, ewch i gwefan Travel Health Pro (Saesneg yn unig). Gallwch hefyd wirio tudalen cyngor teithio tramor (Saesneg yn unig) i weld a yw’r  wlad rydych chi’n ymweld â hi yn cael ei heffeithio gan frech M.

Os ydych chi wedi ymweld â gwlad sydd wedi’i heffeithio gan frech M yn ddiweddar, byddwch yn ymwybodol o symptomau brech M. Os byddwch chi’n datblygu smotiau, pothelli neu ddoluriau ymhen 21 diwrnod o ddod adref, arhoswch gartref a ffoniwch GIG 111 Cymru neu’ch meddyg teulu i gael cyngor. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dweud wrthyn nhw am eich hanes teithio diweddar.

A allaf gael y brechlyn brech M ar yr un pryd â brechlynnau eraill?

Gallwch. Gallwch gael y brechlyn brech M ar yr un pryd â brechlynnau pwysig eraill, gan gynnwys y rhai sy’n darparu amddiffyniad rhag HPV, hepatitis A, hepatitis B a gonoroea.

Cyngor brechu ar gyfer cysylltiadau agos 

Rydw i wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd â brech M nawr – oes angen y brechlyn arna i?

Efallai y cynigir y brechlyn i chi os ydych chi wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd â brech M, yn dibynnu ar pryd y cawsoch chi gysylltiad â nhw.

Gall y brechlyn helpu i leihau eich risg o ddatblygu brech M neu gall wneud symptomau’n llai difrifol os byddwch chi’n ei gael.

Os ydych chi’n meddwl y gallech fod mewn perygl, cysylltwch â GIG 111 Cymru drwy ffonio 111, neu cysylltwch â gwasanaeth iechyd rhywiol neu’ch meddyg teulu ar unwaith.

Os cewch gyngor i gael y brechlyn MVA, cynigir dos sengl i chi, yn ddelfrydol ymhen pedwar diwrnod o’r cyswllt agos. Fodd bynnag, gall y bobl ganlynol gael y dos hyd at 14 diwrnod ar ôl cyswllt agos.

  • Plant o dan 5 oed
  • Merched beichiog
  • Pobl â system imiwnedd wan iawn

Byddwch yn cael cynnig y brechlyn Ankara wedi’i Addasu (MVA). Mae’r brechlyn hwn yn helpu i’ch amddiffyn rhag brech M (a’r frech wen).   

Rhagor o wybodaeth

Os hoffech ddysgu rhagor am y brechiad neu’r clefyd y mae’n ei amddiffyn yn ei erbyn, mae ychydig o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu. Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich practis meddyg teulu i gael cyngor os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 23ain Gorffennaf 2025