Neidio i'r cynnwys

Brechlyn dTaP/IPV (4 mewn 1) - Ynglŷn â’r brechlyn 4 mewn 1

Mae’r brechlyn 4-mewn-1 (a elwir hefyd yn y brechlyn dTaP/IPV) yn helpu i amddiffyn rhag pedwar clefyd difrifol: diftheria, tetanws, pertwsis (y pas) a pholio.

Cefndir

Brechu yw un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn eich plentyn rhag salwch difrifol. Mae’r brechlyn 4-mewn-1 yn helpu i amddiffyn rhag:  

Cyn brechlynnau, roedd llawer o blant yn y DU yn dal y clefydau hyn bob blwyddyn. Mae brechu wedi lleihau nifer yr achosion hyn ac wedi achub llawer o fywydau.   

Mae’r brechlyn 4 mewn 1 (a elwir hefyd yn frechlyn dTaP/IPV) yn rhoi hwb i’r amddiffyniad gan y brechlynnau 6 mewn 1 a gawsant pan oeddent yn fabanod (yn cynnwys amddiffyniad rhag difftheria, tetanws, y pas, polio, Haemophilus influenzae math b (Hib) a hepatitis B).  

Gall yr amddiffyniad gan frechiadau babanod bylu dros amser, felly mae’n bwysig bod eich plentyn yn cael ei frechlyn 4 mewn 1.  

Mae’r brechlyn 4 mewn 1 yn helpu i gadw plant yn ddiogel ac yn helpu i amddiffyn cymunedau rhag y clefydau hyn a’r cymhlethdodau iechyd difrifol y gallant eu hachosi. 

Am ragor o wybodaeth am y clefydau hyn, ewch i’r tudalennau pwnc perthnasol.

Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn

Pryd mae’r brechlyn 4-mewn-1 yn cael ei gynnig?

Rhoddir y 4-mewn-1 i blant pan fyddant yn 3 blwydd a 4 mis oed. Mae’r brechlyn hwn yn rhoi hwb i’r amddiffyniad gan y brechlynnau 6-mewn-1 a gawsant fel babanod (a oedd yn cynnwys amddiffyniad rhag difftheria, tetanws, y pas, polio, ffliw Haemophilus math b (Hib) a hepatitis B).

Cynigir y brechlyn ‘4 mewn 1’ hefyd mewn rhai amgylchiadau iechyd galwedigaethol.

Sut byddaf yn gwybod pan fydd angen i’m plentyn gael brechiadau?

Anfonir apwyntiad at blant ar gyfer eu brechiad 4 mewn 1 arferol pan fyddant yn 3 blwydd a 4 mis oed. Mae’r rhan fwyaf o bractisiau meddygon teulu a chanolfannau iechyd yn cynnal clinigau brechu arbennig ar gyfer plant. Os byddwch yn newid eich cyfeiriad, rhowch wybod i’ch practis meddyg teulu.

Beth os byddaf yn colli’r apwyntiad?

Dylech ganslo apwyntiad os na allwch fynd iddo. Os byddwch yn colli’r apwyntiad neu’n gorfod gohirio’r brechiad, gwnewch apwyntiad newydd cyn gynted â phosibl. Gellir rhoi’r brechiad o hyd, ond bydd eich plentyn heb amddiffyniad am fwy o amser.

Cofiwch, mae’n bwysig cael brechiadau a gollwyd. Os yw’ch plentyn wedi colli brechiad ac yn hŷn na’r oedran a argymhellir ar ei gyfer, siaradwch â’ch meddyg teulu, nyrs practis neu ymwelydd iechyd. 

A oes angen brechlyn tetanws ar fy mabi os oes ganddo glwyf oherwydd toriad, brathiad neu anaf tebyg?

Cysylltwch â meddyg teulu neu ewch i’r adran mân anafiadau  neu adran argyfwng  agosaf os ydych yn pryderu am glwyf, yn enwedig os:

  • yw’n glwyf dwfn
  • oes baw neu rywbeth y tu mewn i’r clwyf, neu
  • nad yw eich plentyn wedi’i frechu’n llawn ar gyfer tetanws, neu os nad ydych yn siŵr.

Mae ‘clwyf’ yn cynnwys llosgiadau i’r croen a’r meinwe oddi tano.

Bydd meddyg neu nyrs yn asesu’r clwyf ac yn penderfynu a oes angen brechlyn tetanws ar eich babi.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y brechlyn 4-mewn-1, neu os nad ydych yn siŵr pryd y dylid ei roi, cysylltwch â’ch meddygfa am gyngor.

Ynglŷn â’r brechlyn 4 mewn 1

Beth yw’r brechlyn 4 mewn 1?

Mae’r brechlyn ‘4 mewn 1’ sydd ar gael yn y DU ar hyn o bryd yn cael ei adnabod o dan yr enwau brand Boostrix-IPV (Saesneg yn unig) a REPEVAX (Saesneg yn unig).

Os yw eich plentyn wedi methu apwyntiad ar gyfer y brechiad ‘4 mewn 1’, siaradwch â’ch meddyg teulu neu nyrs y practis i gael cyngor.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am frechiadau eraill yn erbyn difftheria, tetanws, pertwsis a pholio ar y tudalennau canlynol:

Beth sy’n digwydd yn yr apwyntiad?

Bydd y nyrs practis neu’r meddyg teulu yn esbonio’r brechiadau ac yn ateb eich cwestiynau Ar gyfer plant dros 12 mis oed, fel arfer rhoddir pigiadau yn rhan uchaf y fraich.

Ysgrifennwch unrhyw gwestiynau sydd gennych a gofynnwch nhw i’r gweithiwr iechyd proffesiynol yn yr apwyntiad brechu. 

A ellir rhoi’r brechlyn os yw fy mhlentyn yn sâl ar ddiwrnod yr apwyntiad?

Os bydd eich plentyn yn sâl gyda thymheredd uwch (twymyn) ar ddiwrnod y brechiad, gohiriwch yr apwyntiad nes ei fod wedi gwella. Os oes gan eich plentyn fân salwch heb dwymyn, fel annwyd, dylai gael y brechiad yn ôl yr arfer.

A oes unrhyw resymau eraill pam na ddylid rhoi’r brechlyn?

Ychydig iawn o blant na allant gael y brechlyn 6-mewn-1. Ni ddylid rhoi’r brechlyn i blant sydd wedi cael adwaith alergaidd difrifol (sy’n bygwth bywyd) i:

  • unrhyw gynhwysyn yn y brechlyn, neu
  • dos blaenorol o’r brechlyn.

Mynnwch air â’ch meddyg teulu, eich nyrs practis neu ymwelydd iechyd cyn i’ch plentyn gael y brechlyn os yw’ch plentyn:

  • ag anhwylder gwaedu (fel hemoffilia, pan nad yw ei waed yn clotio’n iawn), neu
  • wedi cael trawiad (ffit) erioed na chafodd ei achosi gan dwymyn.

Diogelwch ac effeithiolrwydd

A oes gan y brechlyn unrhyw sgil-effeithiau?

Mae miliynau o ddosau o’r brechlyn wedi’u defnyddio ac mae ganddo hanes da iawn o ddiogelwch.

Fel pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgil-effeithiau. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn ysgafn ac yn rhai tymor byr, ac ni fydd pawb yn eu cael.

Mae sgil-effeithiau’r brechlyn yn fach o’u cymharu â mynd yn ddifrifol wael o’r clefydau.

Mae’r sgil-effeithiau mwyaf cyffredin yn cynnwys:

  • poen, cochni neu chwydd yn safle’r pigiad
  • dolur rhydd
  • blinder
  • twymyn

Mae sgil-effeithiau prin iawn y brechlyn yn cynnwys:  

  • adweithiau alergaidd, megis chwydd ar yr wyneb, y gwefusau, y tafod neu’r gwddf, llosg danadl (brech chwyddedig, sy’n cosi), anhawster anadlu neu lyncu, a theimlo’n benysgafn.

Yn anaml, gall pobl gael adwaith difrifol yn fuan ar ôl cael eu brechu, sy’n achosi anawsterau anadlu a gall beri iddynt lewygu. Gelwir hyn yn adwaith anaffylactig. Gall ddigwydd hefyd gyda meddyginiaethau eraill a bwyd. Mae’r adweithiau hyn yn hynod o brin, ac yn effeithio ar lai nag un mewn miliwn o bobl. Mae staff sy’n rhoi brechiadau wedi’u hyfforddi i reoli’r adweithiau hyn.

 

Gall pobl sy’n cael adwaith anaffylactig gael eu trin yn llwyddiannus ac fel arfer maent yn gwella o fewn ychydig oriau.

Mae adroddiadau am yr holl sgil-effeithiau yn y daflen wybodaeth i gleifion ar gyfer y brechlyn. I gael rhagor o wybodaeth am sgil-effeithiau, ewch i:

Os bydd symptomau eich plentyn yn gwaethygu neu os ydych yn bryderus, cysylltwch â GIG 111 Cymru drwy ffonio 111 neu eich meddygfa. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.

Dylech roi gwybod ar-lein am sgil-effeithiau a amheuir brechlynnau a meddyginiaethau ar Yellow Card (Saesneg yn unig) drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).

Beth ddylwn i ei wneud os bydd fy mhlentyn yn teimlo’n sâl ar ôl y brechiad?

Gall dos o’r cryfder cywir o baracetamol hylif  helpu i leihau twymyn eich plentyn. Darllenwch y cyfarwyddiadau ar y botel yn ofalus iawn a rhowch y dos cywir ar gyfer oedran eich plentyn. Efallai y bydd angen i chi roi dos arall bedair i chwe awr yn ddiweddarach. Nid ydym yn argymell paracetamol hylif cyn brechu i atal twymyn.

Cofiwch – ni ddylai plant o dan 16 oed gymryd meddyginiaethau sy’n cynnwys aspirin.  

Os ydych yn poeni am eich plentyn ar ôl iddo gael y brechlyn, dylech siarad â’ch ymwelydd iechyd, meddyg teulu neu nyrs practis. Gallwch hefyd gysylltu â GIG Cymru drwy ffonio 111. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.

A all fy mhlentyn ddal i gael yr heintiau hyn os caiff ei frechu?

Y brechlyn 4-mewn-1 yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal salwch difrifol o ddifftheria, tetanws, y pas, polio, Hib a hepatitis B. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau’r clefydau hyn, hyd yn oed os ydych chi neu’ch plentyn yn cael eich brechu.

I gael rhagor o wybodaeth am difftheria, tetanws, y pâs a pholio, ewch i wefan GIG 111 Cymru:

Adnoddau

Os hoffech chi ddysgu mwy am y brechlyn neu’r clefydau y mae’n amddiffyn yn eu herbyn, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu. Gallwch chi hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych unrhyw gwestiynau. 

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 21ain Ebrill 2026