Y Gymraeg

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn falch i fod yn sefydliad dwyieithog.

Deddfwriaeth y Gymraeg

O dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, mae dyletswydd statudol ar GIG Cymru i gyflwyno eu gwasanaethau i’r cyhoedd yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae’r ddeddfwriaeth yn rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru, ac mae’n atgyfnerthu’r egwyddor na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

O dan y Mesur dylai unigolion yng Nghymru allu fyw eu bywydau drwy’r Gymraeg, os mai dyna yw eu dewis.

Ers Mai 30 2019, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg, a osodwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg dan Adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Mae’n hysbysiad cydymffurfio’n cynnwys pedwar dosbarth o safonau:

Safonau cyflenwi gwasanaethau

eu bwriad yw hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau a sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Safonau llunio polisi

Dylai swyddogion ystyried pa effaith y bydd eu penderfyniadau yn ei gael ar allu pobl i ddefnyddio’r iaith ac ar beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Safonau gweithredu

Mae’r safonau hyn yn ymdrin â’r defnydd o’r Gymraeg yn fewnol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn hyrwyddo’r cysyniad o weithle dwyieithog, gan roi rhai hawliau ieithyddol i’n gweithwyr wrth iddynt dderbyn eu gwasanaeth Adnoddau Dynol.

Safonau cadw cofnodion

Mae’r safonau hyn yn delio gyda systemau cadw data a chofnodion am rai o’r safonau eraill.

Mwy na geiriau

Mwy na Geiriau yw Fframwaith Strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Ei amcan yw i:

  • sicrhau bod anghenion iaith siaradwyr Cymraeg yn cael eu diwallu
  • darparu gwasanaethau Cymraeg i’r rhai sydd eu hangen
  • dangos bod iaith yn chwarae rhan bwysig yn ansawdd y gofal ac nad yw’n cael ei weld fel “rhywbeth ychwanegol”.

Fel un o gyrff y GIG, mae cyfrifoldeb ar Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi Llywodraeth Cymru i gwrdd â’r amcanion hyn.

Adroddiadau Blynyddol Safonau’r Gymraeg

Dyma ein pumed adroddiad ac mae’n adrodd ar y flwyddyn ariannol rhwng 1/4/2024 a 31/03/2025. Mae copiau o’n hadroddiadau blaenorol ar gael drwy gysylltu â Thîm y Gymraeg ar yr ebost [email protected].

Cwynion

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystyried pob cwyn o ddifrif, ac mae croeso i chi wneud cwyn yn y Gymraeg. Ni fydd eich cwyn yn cael ei thrin yn llai ffafriol na chwyn yn Saesneg.

Gwybodaeth:

Sut i wneud cwyn am ein cydymffurfiaeth â Safonau’r Iaith Gymraeg.

Tîm y Gymraeg Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Tîm y Gymraeg yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rydym yn cynorthwyo’r sefydliad i weithredu’n ddwyieithog ac i gwrdd â deddfwriaeth y Gymraeg.

Mae ein gwaith yn cynnwys cefnogi adrannau i ddatblygu gwasanaethau Cymraeg, cefnogi staff sydd yn dysgu neu yn datblygu eu sgiliau Cymraeg a chefnogi ein timau i sicrhau bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig y gwasanaeth gorau posibl i’r cyhoedd yng Nghymru.

Os oes cwestiynau gennych am y Gymraeg yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae croeso i chi gysylltu â ni: [email protected].

Rhagor o wybodaeth

  • Cynllun ymgynghoriadau clinigol: Diben y ddogfen hon yw nodi amcanion a chamau gweithredu a fydd yn cynyddu gallu Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynnig a chynnal ymgynghoriadau clinigol sgrinio a gwasanaethau arbenigol rhoi’r gorau i ysmygu yn Gymraeg.
  • Polisi defnyddio’r Gymraeg: Mae’r polisi hwn yn berthnasol i hybu a hwyluso’r Gymraeg yng nghyd-destun busnes mewnol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Safon 79). Nid yw cynnwys y polisi hwn yn ymwneud â sut yr ydym yn bodloni’r Safonau; mae’n ymwneud â sut yr ydym yn mynd ati i greu newid diwylliannol o fewn ein sefydliad sy’n normaleiddio defnyddio’r Gymraeg ac yn sicrhau ein bod yn meithrin ethos dwyieithog.
  • Hysbysiad cydymffurfio Iechyd Cyhoeddus Cymru: Mae ein Hysbysiad Cydymffurfio yn ddogfen swyddogol sy’n nodi pa Safonau’r Gymraeg y mae’n rhaid i Iechyd Cyhoeddus Cymru (a Perfformiad a Gwella GIG Cymru) gydymffurfio â nhw.
  • Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018: Mae Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018 yn ddeddfwriaeth sy’n gosod dyletswyddau statudol ar sefydliadau penodol yn y sector iechyd yng Nghymru i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.