Rotafeirws
Haint yw’r rotafeirws sy’n achosi dolur rhydd difrifol a thaflu i fyny mewn babanod a phlant ifanc. Mae’r feirws fel rheol i’w weld yn ystod y gaeaf a dechrau’r gwanwyn.
Mae’r rhan fwyaf o blant yn gwella gartref o fewn wythnos, ond efallai y bydd angen i rai plant weld meddyg. O bryd i’w gilydd mewn achosion difrifol, gall y symptomau arwain at ddadhydradu (colli hylifau’r corff) sy’n gofyn am driniaeth ysbyty.
Dysgwch mwy
Os hoffech chi gael gwybod mwy am y brechlyn, neu’r afiechyd y maent yn eu hamddiffyn yn erbyn, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu.
Tabl cynnwys:
Gwybodaeth bellach
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn