Neidio i'r cynnwys

Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod

Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) yn ddigwyddiadau y gellir eu hosgoi, a allai fod yn drawmatig sy’n digwydd yn ystod plentyndod. Gallant gynnwys dioddef cam-drin geiriol, corfforol a rhywiol; byw mewn cartref lle mae heriau fel trais domestig, camddefnyddio sylweddau a salwch meddwl yn bresennol; a phrofiadau y tu allan i’r cartref fel dod i gysylltiad â bwlio a thrais yn y gymuned.

Beth ydyn ni’n ei wybod am Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod?

Yn 2016, fe wnaethom gyhoeddi ein hastudiaeth gyntaf o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yng Nghymru. Roedd hyn yn mesur naw math o ACE gan ganolbwyntio ar y rhai sy’n digwydd mewn lleoliadau cartref. Nodwyd y canlynol:

Ar y pryd, roedd yr astudiaeth yn dangos:

  • fod 47% o oedolion yng Nghymru wedi cael o leiaf un Profiad Niweidiol yn ystod eu plentyndod
  • bod 14% wedi cael pedwar neu fwy o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod

Gall pobl sy’n dioddef o ACEs fod mewn mwy o berygl o iechyd a llesiant cymdeithasol gwael drwy gydol oes. Po fwyaf o ACEs y mae pobl yn agored iddynt, y mwyaf y gall y risgiau hyn fod.

Mae ACEs yn peri costau sylweddol i unigolion, gwasanaethau cyhoeddus a chymdeithas.

Mae ACEs yn cynyddu risgiau pobl o fabwysiadu ymddygiadau sy’n niweidio iechyd fel ysmygu a defnyddio alcohol a chyffuriau. Maent wedi’u cysylltu’n gryf ag iechyd meddwl a llesiant gwael. Mae ACEs hefyd yn gysylltiedig â datblygu clefydau fel canser a chlefyd y galon. Gall hyn ddigwydd trwy eu heffeithiau ar ymddygiadau sy’n niweidio iechyd a thrwy’r effeithiau y gall straen cronig yn ystod plentyndod eu cael ar systemau biolegol sy’n datblygu. 

Nid yw ACEs yn bryder iechyd yn unig. Gall ACEs rwystro perfformiad addysgol plant ac maent yn gysylltiedig â chyflogaeth a photensial enillion is yn ddiweddarach mewn bywyd. Maent yn cynyddu risgiau unigolion o ymwneud â thrais fel dioddefwr a chyflawnwr. Maent hefyd yn gysylltiedig ag ymwneud â throseddu. Nodir lefelau uchel o ACEs ym mhoblogaeth carchardai Cymru.  Gall effeithiau niweidiol ACEs olygu bod pobl sy’n profi ACEs lluosog fel plant mewn mwy o berygl o amlygu eu plant eu hunain i ACEs. Gall y cylch hwn o adfyd yn ystod plentyndod gloi cenedlaethau o deuluoedd i mewn i iechyd a llesiant cymdeithasol gwael.

Gallwn dorri’r cylch ar unrhyw adeg – ‘dyw hi byth yn rhy hwyr. Bydd atal profiadau niweidiol rhag digwydd, neu leihau eu heffaith, i un genhedlaeth o blant o fudd nid yn unig iddyn nhw ond i genedlaethau i ddod yng Nghymru.

Adverse childhood experiences affect people of all ages and cross every social boundary. However, our research shows that those who live in areas of deprivation are at greater risk of experiencing multiple ACEs. Fodd bynnag, mae ein gwaith ymchwil yn dangos bod y rhai sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd mewn mwy o berygl o gael mwy nag un Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod.

Beth ydyn ni’n ei wneud i fynd i’r afael â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod?

Nod Hyb ACE Cymru yw sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran sicrhau plentyndod sy’n rhydd o brofiadau niweidiol. Ein cenhadaeth yw rhannu syniadau a dysg a herio a newid ffyrdd o weithio. Gyda’n gilydd gallwn dorri’r cylch.

Byddwn yn gwneud hyn trwy:

  • Rannu dealltwriaeth a gwybodaeth er mwyn galluogi cymunedau, plant a theuluoedd i gyd-ddylunio atebion a fydd yn gweithio iddyn nhw.
  • Rhannu tystiolaeth am yr hyn y gall sefydliadau ei wneud yn wahanol er mwyn helpu i atal a lliniaru Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod
  • Datblygu gwybodaeth a sgiliau gweithwyr proffesiynol, gan ddarparu hyfforddiant a fydd yn eu galluogi nhw a’u sefydliadau i ehangu eu rhwydweithiau mewnol ac allanol ac i newid arferion.
  • Casglu gwybodaeth gan unigolion, cymunedau, sefydliadau a’r system ehangach a’i rannu mewn ystod o setiau dysgu gweithredol a chymunedau ymarfer.
  • Gyrru newid a thrawsnewid systemau ar lefelau lleol a chenedlaethol.

Dysgwch fwy am Hyb ACE Cymru.

Cysylltu

Cysylltwch â Hwb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) am ragor o wybodaeth.

Gallwch hefyd gysylltu ag Uned Cydweithredu Iechyd y Cyhoedd am ragor o wybodaeth am ymchwil i ACEs.

Gwybodaeth bellach

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Data

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn