Atal hunanladdiad a gwyliadwriaeth
Atal hunanladdiad
Mae hunanladdiad a hunan-niweidio yn parhau i fod yn faterion iechyd cyhoeddus sylweddol yng Nghymru, sy’n gofyn am ddull cydgysylltiedig, seiliedig ar dystiolaeth ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a phartneriaid ehangach. Mae gwaith cenedlaethol yn y maes hwn yn canolbwyntio ar atal, adnabod yn gynnar, darparu cymorth amserol, a dysgu o ddata a phrofiad byw er mwyn lleihau risg a gwella canlyniadau i unigolion, teuluoedd a chymunedau.
Mae rhagor o wybodaeth am flaenoriaethau cenedlaethol, rhaglenni gwaith a gweithgarwch gwella systemau ar gael ar wefan Perfformiad a Gwella GIG Cymru.
Gwyliadwriaeth hunanladdiad
Mae’r Arolygu Hunanladdiad Tybiedig Amser Real wedi’i sefydlu ar gyfer Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 1 Ebrill 2022.
Un o’r uchelgeisiau yn y strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niwed ‘Beth am siarad â fi’ yng Nghymru (2015-2022) oedd sefydlu systemau gwyliadwriaeth i wella ansawdd data a gwybodaeth i lywio atal. Mae un o’r systemau hyn yn ymwneud â chipio data (tybiedig) mewn amser real, drwy ddulliau cipio data sy’n seiliedig ar yr Heddlu.
Amdanom ni
Mae Gwyliadwriaeth Amser Real Hunanladdiad Tybiedig (RTSSS) yn system arolygu lefel y boblogaeth sydd wedi’i datblygu drwy weithio mewn partneriaeth a chydweithio rhwng arweinwyr polisi grwpiau iechyd meddwl ac agored i niwed yn Llywodraeth Cymru; Uned Gyswllt yr Heddlu yn Llywodraeth Cymru; pedwar llu Heddlu Cymru; Rhaglen Cenedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio sydd wedi’i lleoli yng Ngweithrediaeth GIG Cymru; Prifysgol Abertawe, a Chyfarwyddiaeth Data, Gwybodaeth ac Ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n gweithredu fel gwarcheidwaid cenedlaethol y data ar hunanladdiadau tybiedig. Sefydlwyd y rhaglen gan ddefnyddio systemau a sefydlwyd eisoes gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) a’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
Mae gwybodaeth am niferoedd, cyfraddau, a thueddiadau mewn hunanladdiadau yng Nghymru wedi bod ar gael er 1981 ac mae’n parhau i fod ar gael trwy adroddiadau blynyddol, gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Mae data’r SYG yn ymwneud â marwolaethau drwy hunanladdiad a gadarnhawyd gan grwner cofrestredig yn dilyn cwestau ym mhob blwyddyn, ond mae data’r RTSSS yn ymwneud â hunanladdiadau tybiedig.
Mae’r RTSSS yn ei chamau cynnar o weithredu o hyd, ac mae heriau cynnar yn ymwneud â chasglu, trosglwyddo, glanhau, dehongli ac adrodd data yn brydlon.
Mae’r RTSSS yn casglu gwybodaeth am bobl sy’n marw oherwydd hunanladdiad tybiedig yng Nghymru, a phobl sy’n byw yng Nghymru sy’n marw oherwydd hunanladdiad tybiedig y tu allan i Gymru. Mae hyn er mwyn i ni allu monitro marwolaethau oherwydd hunanladdiad tybiedig a chreu darlun o batrymau a thueddiadau marwolaethau, er mwyn canolbwyntio’n well ar yr ymdrechion i atal hunanladdiadau.
Mae’r wybodaeth a gesglir yn cynnwys gwybodaeth bersonol adnabyddadwy h.y. enw, cyfeiriad, dyddiad geni’r sawl sydd wedi marw, a gwybodaeth am ei amgylchiadau. Y rheswm pam mae angen gwybodaeth adnabyddadwy arnom yw er mwyn cysylltu â ffynonellau gwybodaeth eraill i wella ansawdd yr wybodaeth.
Mae gwybodaeth yn cael ei hanfon at Iechyd Cyhoeddus Cymru gan bedwar llu Heddlu Cymru. Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn derbyn gwybodaeth gan yr Uned Gomisiynu Cydweithredol Genedlaethol, unedau gofal critigol, carchardai, systemau gwyliadwriaeth mewn gwledydd eraill, a’r cyfryngau. Efallai y byddwn wedyn yn casglu gwybodaeth bellach gan wasanaethau iechyd, carchardai a chrwneriaid. Rydym yn gwirio ein gwybodaeth yn erbyn systemau eraill y cesglir gwybodaeth ar eu cyfer: Y Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant, Uned Gyflawni GIG Cymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. Mae’r wybodaeth yn cael ei rhoi ar gronfa ddata ddiogel sy’n hygyrch i aelodau’r tîm RTSSS yn unig.
Y sail gyfreithiol ar gyfer gweithgareddau’r RTSSS yw:
- Paragraff 3(b) o Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009, sef “datblygu a chynnal trefniadau ar gyfer peri bod gwybodaeth ynghylch materion sy’n ymwneud â diogelu a gwella iechyd yng Nghymru ar gael i’r cyhoedd yng Nghymru; gwneud a chomisiynu ymchwil i faterion o’r fath a darparu a datblygu hyfforddiant mewn materion o’r fath”
- Paragraff 3(c) o Orchymyn Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009 sy’n datgan fel un o’i swyddogaethau: “gwneud yn systematig y gwaith o gasglu, dadansoddi a lledaenu gwybodaeth ynghylch iechyd pobl Cymru, gan gynnwys yn enwedig fynychder achosion o gancr, eu marwoldeb a’u goroesiad; a chyffredinolrwydd anghysonderau cynhenid”
- O dan ddyletswydd cyfrinachedd y gyfraith gyffredin, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystyried bod prosesu data personol yn yr RTSSS er budd pennaf y cyhoedd.
- Cymeradwyaeth Adran 251 (Deddf y GIG 2006) ar gyfer prosesu gwybodaeth gyfrinachol am glaf heb ganiatâd.
Nod ac amcanion
Nod yr RTSSS yw gweithredu fel ystorfa genedlaethol ganolog ar gyfer achosion tybiedig o hunanladdiad yng Nghymru a chynhyrchu’r wybodaeth i lywio gweithgarwch atal hunanladdiad ledled Cymru. Bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i fonitro effaith y pandemig yn barhaus ar achosion tybiedig o farwolaethau hunanladdiad.
Amcanion yr RTSSS yw:
- canfod a choladu data ar achosion tybiedig o farwolaethau oherwydd hunanladdiad yng Nghymru a marwolaethau tybiedig o hunanladdiad ymhlith pobl sydd fel arfer yn byw yng Nghymru (a all farw mewn mannau eraill)
- goruchwylio achosion tybiedig o hunanladdiadau gan gynnwys nodi a disgrifio clystyrau hunanladdiad sy’n dod i’r amlwg er mwyn hysbysu grwpiau ymateb lleol
- ymgymryd â gwyliadwriaeth ar achosion tybiedig o hunanladdiadau i nodi patrymau a thueddiadau marwolaethau tybiedig o hunanladdiad er mwyn llywio polisi ac ymarfer
- rhannu’r canfyddiadau drwy ddelweddu data hygyrch, er mwyn llywio camau gweithredu gan wahanol grwpiau a fforymau
- cyfrannu at yr agenda atal hunanladdiad
- cyfrannu at ymchwil i atal hunanladdiad
Rhagor o wybodaeth am atal hunanladdiad a chefnogaeth bellach
- Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru – Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed
- Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio – Cydweithrediad Iechyd GIG Cymru
- SSHP Cymru | Hwb Hyfforddiant
- SSHP Cymru | Cymorth wrth Law
- Cefnogaeth Iechyd Meddwl
Cysylltwch â ni
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â thîm Arolygu Hunanladdiad Tybiedig Amser Real.
Gwybodaeth bellach
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Adnoddau
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Data
-
Marwolaethau oherwydd data hunanladdiad amheuwyddol 2024 i 2025
Mae’r dudalen ddata hon yn darparu’r tablau data sy’n gysylltiedig ag adroddiad blynyddol Gwyliadwriaeth Amser…