Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Llesiant Emosiynol a Meddyliol (WSAEMWB)
Grymuso ysgolion i greu a gwreiddio diwylliant cadarnhaol tuag at iechyd meddwl a lles emosiynol.
Beth yw Fframwaith WSAEMWB?
Pwrpas: Mynd i’r afael ag anghenion lles emosiynol a meddyliol holl ddysgwyr a staff yr ysgol, fel rhan o gymuned yr ysgol gyfan.
Cefndir: Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Fframwaith Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Llesiant Emosiynol a Meddyliol (WSAEMWB) ym mis Ebrill 2021 i bob ysgol a gynhelir gan Awdurdod Lleol gadw ato.
Mae Fframwaith WSAEMWB yn ei gwneud yn ofynnol i gymuned yr ysgol gyfan hunanwerthuso diwylliant eu lles emosiynol a meddyliol eu hunain a datblygu cynlluniau gweithredu sy’n adeiladu ar gryfderau o fewn eu cyd-destunau unigryw. Mae’n annog creu ethos lles ysgol sy’n seiliedig ar dri gwerth:
- Perthyn
- Effeithiolrwydd
- Llais
Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion weithio ochr yn ochr ag eraill a chydnabod pryd i geisio cymorth pan fydd anghenion lles emosiynol a meddyliol yn cael eu nodi. ed.
Beth mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud i gefnogi WSAEMWB?
Grymuso Cymunedau Ysgol : Creu diwylliannau lle mae dysgwyr a staff yn teimlo eu bod yn gallu ymdopi â bywyd dyddiol. Cyflawnir hyn gyda chymorth cydlynwyr ymroddedig ac adnoddau megis yr offeryn hunanwerthuso.
Cefnogi Timau Mewngymorth Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS): Mae 7 Tîm Mewngymorth yng Nghymru, un ym mhob Bwrdd Iechyd. Rydym yn cefnogi’r timau hyn wrth iddynt ddod ochr yn ochr ag ysgolion sy’n cynnig hyfforddiant, ymgynghoriad a chysylltu ysgolion hefo chyngor a gwasanaethau.
Creu Pecyn Cymorth Beth Sy’n Gweithio (WWTK): Crynodebau tystiolaeth i helpu ysgolion i wneud penderfyniadau gwybodus trwy ganfod a yw ymyriadau a dulliau gweithredu yn yr ysgol yn gwneud gwahaniaeth i les emosiynol a meddyliol dysgwyr a staff.
Sut mae WSAEMWB yn cael ei fesur ar gyfer ei effaith?
Mae’n cymryd amser i fesur newid, felly mae sawl dull yn cael ei ddefnyddio i ddeall effaith WSAEMWB:
- Monitro faint o ysgolion sy’n mabwysiadu’r WSAEMWB yn eang.
- Gwerthusiad Annibynnol: Gwerthusiad tair blynedd o ddulliau cymysg ar fframwaith WSAEMWB, sy’n cael ei gynnal gan DECIPHer sy’n rhan o Brifysgol Caerdydd.
- Gwerthusiadau Proses: Pwrpas y gwerthusiadau hyn yw deall sut mae ysgolion wedi bod yn ymwreiddio’r WSAEMWB.
Mae canfyddiadau’r gwerthusiad i’w gweld yn yr Adroddiadau Dysgu isod:- Adroddiad Dysgu 1: Sut mae ysgolion yn ymrweiddio hunanwerthusiad er mwyn deall anghenion a chryfderau cymuned eu hysgol?
- Poster Adroddiad Dysgu 1
- Adroddiad Dysgu 2: Cynllunio a rhoi camau gweithredu ar waith i amddiffyn a hyrwyddo lles emosiynol a meddyliol mewn cymunedau ysgol
Gwybodaeth bellach
Adroddiadau: Gwerthusiad o Raglen Beilot Mewngymorth y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHs)
Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Llesiant Emosiynol a Meddyliol (WSAEMWB) Bwletin ymchwil
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â [email protected]
Gwybodaeth bellach
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn