Neidio i'r cynnwys

Bywyd ACTif

Cynlluniwyd y cwrs rhad ac am ddim hwn i’ch helpu chi i wella eich iechyd meddwl a’ch llesiant. Gall teimlo’n ofidus neu’n bryderus gael effaith fawr ar eich iechyd, a gall bywyd fod yn arbennig o anodd i rai pobl.

Gall y cwrs eich helpu chi i gymryd mwy o reolaeth dros eich gweithredoedd, fel bod bywyd o ddydd i ddydd yn dod yn llai trallodus ac yn fwy pleserus. Byddwch yn dysgu ffyrdd ymarferol ac effeithiol o ddelio â meddyliau a theimladau a all fod yn peri trallod.

Datblygwyd y cwrs ar eich cyfer gan Dr Neil Frude a bydd yn eich helpu chi i ganfod yr hyn sy’n wirioneddol bwysig i chi ac yn rhoi’r sgiliau i chi allu byw eich bywyd gyda mwy o hyder a mwy o ymdeimlad o bwrpas. 

Dechreuwch y cwrs drwy glicio ar fideo ACT 1 isod. Mae pedwar fideo a phob un yn para tua 40 munud. Gallwch gael saib ar unrhyw adeg a dod yn ôl atynt os bydd angen i chi gael hoe. Rydym yn argymell cymryd diwrnod neu ddau rhwng pob fideo er mwyn ymarfer y dysgu. Ar gyfer pob un o’r fideos mae yna ganllaw y gallwch chi ei lawrlwytho, ei argraffu neu gymryd nodiadau arno, a hefyd mae rhai ymarferion sain y gallwch chi wrando arnyn nhw.

Act 1: Nid Chi yw Eich Meddwl

Lawrlwythwch Grynodeb Byr a Chanllaw Gweithgaredd.


Act 2: Wynebu eich bywyd

Lawrlwythwch Grynodeb Byr a Chanllaw Gweithgaredd.


Act 3: Bod yn ystyriol

Lawrlwythwch Grynodeb Byr a Chanllaw Gweithgaredd.

Ymarferwch eich sgiliau gydag Ymarferion Sain:

  1. Dail yn arnofio i lawr yr afon
  2. Gweithgaredd syml a byr sy’n canolbwyntio ar y corff
  3. Gofod anadlu tri cham
  4. Sgan dan arweiniad y corff llawn

Act 4: Byw’n doeth, byw’n dda

Lawrlwythwch Grynodeb Byr a Chanllaw Gweithgaredd.


Gobeithio eich bod wedi gweld y cwrs hwn yn ddefnyddiol. Am gymorth pellach gydag iechyd meddwl – pryder, straen, iselder neu unrhyw beth arall, siaradwch â’ch meddyg teulu.

Baner gyda’r testun ‘Datblygwyd gan Dr. Neil Frude’. I’r dde mae’r testun ‘Cynhyrchwyd gan’ ochr yn ochr â logos Gwelliant Cymru, Improvement Cymru, a GIG Cymru Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Gwybodaeth bellach

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Adroddiadau

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Data

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn