Neidio i'r cynnwys

Paulina Kuczynska

Paulina Kuczynska

Ymunodd Paulina ag Iechyd Cyhoeddus Cymru fel Uwch Arbenigwr Gwyddor Ymddygiad ym mis Mawrth 2023. Bydd Paulina yn arwain y ddarpariaeth o gefnogaeth gwyddor ymddygiad arbenigol i Ddiogelu Iechyd yn y swydd ar y cyd hon rhwng yr Uned Gwyddor Ymddygiad a’r Tîm Hyfforddiant ac Arweiniad Diogelu Iechyd. Cyn hynny, bu Paulina yn gweithio mewn rôl gwyddor ymddygiad i Gyngor Sir Suffolk. Yn y swydd hon datblygodd gwricwlwm gwyddor ymddygiad a dylunio a chyflwyno cyfres o sesiynau dysgu gwyddor ymddygiad i gynyddu gallu staff i ddefnyddio gwyddor ymddygiad yn eu gwaith. Yn ogystal, mabwysiadodd Paulina ddull cydweithredol o ddatblygu offer pwrpasol ar gyfer staff megis sgript sy’n seiliedig ar ymddygiad a Chyfweld Ysgogiadol mewn hyfforddiant petruster brechu ar gyfer y Tîm Cyswllt. Mae gan Paulina brofiad strategol sylweddol yn arwain ar yr agenda diogelu iechyd ym mwrdeistrefi Llundain gan weithio gyda rhanddeiliaid lluosog a chymunedau ethnig amrywiol. Yn ogystal, mae hi wedi cael profiad rheng flaen pwysig yn gweithio ym maes iechyd meddwl acíwt a gwasanaethau cyffuriau ac alcohol mewn carchardai, sy’n ei helpu i ddeall darpariaeth gwasanaethau a phroblemau ymddygiad ‘ar lawr gwlad’. Mae Paulina wrthi’n cwblhau ei Doethuriaeth Broffesiynol mewn Seicoleg Iechyd yn City, University of London, a fydd yn ei harwain i ddod yn Seicolegydd Iechyd Siartredig ar ôl cymhwyso. Mae seicolegwyr iechyd yn arbenigwyr mewn cyfathrebu rhwng cleifion â meddygon, canfyddiad symptomau cleifion, ymddygiad ceisio gofal iechyd, ymlyniad wrth feddyginiaeth, rheoli salwch hirdymor, newidiadau ffordd o fyw ac ati. O bryd i’w gilydd, mae Paulina yn darparu addysgu academaidd ar fodelau newid ymddygiad i staff a myfyrwyr ym maes seicoleg, nyrsio, fferylliaeth, deintyddiaeth, seicoleg ac ati. Pwyles yw Paulina ac er ei bod yn byw yn Lloegr ar hyn o bryd, roedd hi’n arfer byw ac astudio yng Nghaerdydd yn ystod ei hastudiaethau israddedig, felly mae gweithio i Iechyd Cyhoeddus Cymru yn teimlo fel dod yn ôl adref iddi.