Neidio i'r cynnwys

Ynglŷn â sgrinio llygaid diabetig - Eich gwahoddiad i sgrinio llygaid diabetig

Bydd pawb sy’n 12 oed neu’n hŷn sydd wedi derbyn diagnosis o ddiabetes math 1 neu fath 2 ac sydd wedi’u cofrestru gyda meddyg yng Nghymru yn cael cynnig prawf sgrinio llygaid diabetig. Bydd eich meddyg yn rhoi gwybod i ni am eich diagnosis fel y gallwn eich gwahodd. Mae’n bwysig bod gan eich meddyg eich enw cywir, dyddiad geni, cyfeiriad a rhif ffôn, fel arall efallai na fyddwn yn gallu anfon eich llythyr apwyntiad atoch.

Byddwn yn anfon llythyr gwahoddiad atoch gyda dyddiad ac amser ar gyfer apwyntiad bob tro y byddwch yn ddyledus am sgrinio llygaid diabetig. Cysylltwch â ni os hoffech newid amser, dyddiad neu leoliad yr apwyntiad.

Ni fydd pobl â diabetes yn ystod beichiogrwydd, sef cyflwr dros dro yn ystod beichiogrwydd, a phobl â chyn-ddiabetes (a elwir hefyd yn oddefgarwch glwcos amhariad), yn cael eu gwahodd i gael sgrinio.

Efallai na fydd rhai pobl yn gallu cymryd rhan mewn prawf sgrinio llygaid diabetig. Mae’r rhain yn cynnwys pobl sydd:

  • Efallai na allant fynychu a chwblhau apwyntiad mewn lleoliad sgrinio.
  • Yn cael triniaeth ar gyfer retinopathi diabetig. Os ydych yn mynychu apwyntiadau llygaid mewn ysbyty ar gyfer retinopathi diabetig, nid oes angen i chi gael eich sgrinio. Cewch eich gwahodd eto ar ôl i chi gael eich rhyddhau.
  • Efallai na fyddai unrhyw fantais o sgrinio.

Siaradwch â’ch gweithiwr iechyd proffesiynol os ydych yn teimlo na fyddai unrhyw fantais i chi fynd i brawf sgrinio llygaid diabetig. Gall rhai optometryddion ymweld â chi am ddim, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Cysylltwch â’ch optegydd lleol a fydd efallai’n gallu ymweld â’ch cartref.  

Os ydych yn cael eich trin ar gyfer retinopathi diabetig, nid oes angen i chi gael eich sgrinio.  Byddwch yn cael eich ail-wahodd unwaith y byddwch wedi eich rhyddhau.

Gall retinopathi diabetig ddatblygu ar unrhyw adeg. Mae’n bwysig siarad â’ch optegydd neu’ch meddyg os byddwch yn sylwi ar unrhyw newidiadau i’ch golwg, hyd yn oed os ydych wedi bod i gael prawf sgrinio llygaid diabetig yn ddiweddar.

Sut y byddaf yn cael fy ngwahodd?

Os ydych wedi derbyn diagnosis o ddiabetes math 1 neu fath 2 bydd eich meddyg yn rhoi gwybod i ni (Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru). Byddwn yn anfon llythyr gwahoddiad atoch gyda dyddiad ac amser ar gyfer apwyntiad, bob tro y mae’n bryd i chi gael sgrinio llygaid diabetig. Gall eich apwyntiad fod yn unrhyw un o’r canolfannau sgrinio isod. Cysylltwch â ni os ydych am newid amser, dyddiad a lleoliad yr apwyntiad.

Beth os bydd angen cymorth ychwanegol arnaf?

Deall yr wybodaeth

Os ydych chi, neu unigolyn rydych yn ei gynorthwyo angen help i ddeall neu ddarllen yr wybodaeth rydym wedi’i hanfon atoch, cysylltwch â ni cyn yr apwyntiad. Gallwn roi gwybodaeth i chi mewn fformatau gwahanol. I gael rhagor o wybodaeth efallai yr hoffech ymweld â’n tudalen Adnoddau Hygyrch.

Mynd i fy apwyntiad

Os ydych chi, neu unigolyn rydych yn ei gynorthwyo angen cymorth ychwanegol ar gyfer sgrinio, cysylltwch â ni cyn eich apwyntiad os:  

  • Bydd angen cyfieithydd ar y pryd arnoch gan nad Cymraeg na Saesneg yw eich iaith gyntaf.
  • Oes gennych anabledd, fel y gallwn sicrhau ein bod yn cynnig apwyntiad hygyrch i chi.
  • Ydych chi’n meddwl efallai na fyddwch yn gallu eistedd yn y safle iawn wrth ein camerâu 
  • Oes gennych Atwrneiaeth dros iechyd a llesiant yr unigolyn a wahoddir, bydd angen i chi ddod â phrawf adnabod a’r ddogfen Atwrneiaeth i’w apwyntiad.
  • Ydych chi’n gofalu am rywun na all wneud penderfyniadau.

Teithio i fy apwyntiad

Ni fyddwch yn gallu gyrru ar ôl eich apwyntiad oherwydd gallai’r diferion llygaid achosi i’ch golwg fynd yn aneglur am hyd at 6 awr. Bydd angen i chi drefnu lifft neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. 

Os yw eich apwyntiad mewn lleoliad gofal iechyd a’ch bod yn meddwl eich bod yn gymwys i gael cymorth i deithio i’ch apwyntiad, gallwch gysylltu â Gwasanaethau Cludo Cleifion yn eich ysbyty lleol. Mae’n bosibl y byddant yn gallu eich helpu.

Cysylltwch â ni os hoffech newid amser, dyddiad neu leoliad eich apwyntiad. 

Cysylltwch â ni i os na allwch ddod i’ch apwyntiad. Efallai y gallwn gynnig amser, dyddiad neu leoliad mwy cyfleus i chi.

Mae apwyntiadau sgrinio llygaid diabetig yn gyfyngedig. Rhowch wybod i ni os ydych yn bwriadu peidio â dod i’ch apwyntiad; gallwn gynnig eich apwyntiad i rywun arall.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 24ain Mawrth 2026