Ynglŷn â sgrinio llygaid diabetig - Arwyddion a symptomau retinopathi diabetig
Gall retinopathi diabetig achosi nifer o arwyddion a symptomau.
Pethau i gadw llygad amdanynt:
- Newid sydyn neu raddol i’ch golwg.
- Colli eich golwg yn sydyn mewn un llygad neu yn y ddwy.
- Gweld siapiau (brychau) neu oleuadau’n fflachio yn eich maes golwg.
- Mae eich golwg yn mynd yn niwlog heb ddim rheswm.
- Mae gennych boen llygad neu gochni yn y llygad.
Siaradwch â’ch optegydd neu’ch meddyg os byddwch yn sylwi ar unrhyw newidiadau i’ch golwg. Peidiwch ag aros am eich apwyntiad sgrinio llygaid diabetig nesaf.
Pethau y gallwch eu gwneud i gadw’n iach
- Rheoli eich diabetes, gan gynnwys gwirio’ch glwcos yn eich gwaed a chymryd eich meddyginiaeth fel y rhagnodir. Ewch i Rheoli diabetes | gofalu am eich diabetes | Diabetes UK (Saesneg yn unig) i gael gwybodaeth bellach.
- Ewch i’ch apwyntiadau diabetes.
- Ewch i’ch apwyntiadau sgrinio llygaid diabetig pan fyddwch yn derbyn gwahoddiad – mae profion sgrinio llygaid diabetig yn rhan o reoli eich diabetes. Mae modd trin retinopathi diabetig, yn enwedig os bydd yn cael ei ddarganfod yn gynnar.
- Ewch i’ch prawf llygaid gyda’ch optegydd pan fydd yn bryd i chi wneud hynny – mae prawf sgrinio llygaid diabetig yn wahanol i’r prawf llygaid y byddwch yn ei gael gan eich optegydd.
- Siaradwch â’ch optegydd neu’ch meddyg os byddwch yn sylwi ar unrhyw newidiadau i’ch golwg.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 30ain Ionawr 2026