Y Grŵp Gorchwyl a Gorffen
Mae’r Ymddiriedolaeth Garbon yn amcangyfrif bod Ôl Troed Carbon GIG Cymru 2018/19 yn 1,001,378 tunnell o CO2e, a bod 23% o’r ôl troed yn gysylltiedig â chyffuriau a fferylliaeth. Nodwyd bod anadlyddion yn faes pwysig lle dylid gweithredu.
O ganlyniad, roedd Cynllun Cyflawni Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru yn cynnwys mentrau a oedd yn ymwneud â dewis, defnyddio a gwaredu anadlyddion, a gosodwyd targed o ‘gael 80% o anadlyddion yn rhai â llai o botensial cynhesu byd-eang (GWP) erbyn 2025′.
| Edrychwch ar strwythur y grŵp Gorchwyl a Gorffen Anadlyddion | Mae’r ddogfen hon yn amlinellu strwythur y Grŵp Gorchwyl a Gorffen. |
| Darllenwch am Gylch Gorchwyl y Grŵp Gorchwyl a Gorffen (diweddarwyd Mai 2025) | Mae’r ddogfen hon yn amlinellu Cylch Gorchwyl y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Anadlyddion. |
| Darllenwch y strategaeth Datgarboneiddio: Rhagnodi, defnyddio a gwaredu anadlyddion 2023–2030 | Strategaeth genedlaethol i Gymru a gymeradwywyd gan Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan. |