Neidio i'r cynnwys

Pecynnau asedau cyfryngau digidol a chymdeithasol – Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru

Mae’r pecynnau asedau digidol a chyfryngau cymdeithasol sy’n cael eu hamlinellu isod wedi’u dylunio i gefnogi defnyddwyr cofrestredig i hyrwyddo gwaith eu practis o fewn Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru. Gallwch lawrlwytho a chadw’r asedau cyfryngau digidol a chymdeithasol amrywiol sydd yn y pecyn i’w llwytho i wahanol lwyfannau ar-lein.

Mae canllawiau ar sut i ddefnyddio’r adnoddau hyn i’w cael ym mhob un o’r pecynnau cyfryngau cymdeithasol penodol. Bydd defnyddio’r adnoddau hyn yn eich cefnogi i gyflawni camau gweithredu A11 o’r fframwaith:

“Mae’r practis yn cyfathrebu ac yn hyrwyddo (i gleifion, y cyhoedd a’r gymuned leol) cyfranogiad y practis yn Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru.”

Mae’r pecyn yn cynnwys cyfres o ddelweddau llonydd a delweddau sy’n symud (GIFs) i’w lawrlwytho a’u defnyddio ar eich gwefan ac ar eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, ynghyd â rhagor o wybodaeth am lawrlwytho clipiau fideo oddi ar Vimeo.

Nodwch, mae delweddau’r pecyn hwn wedi’u gwahanu’n benodol yn ôl y maint/eglurder mwyaf addas ar gyfer pob un o’r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a amlygwyd er mwyn sicrhau ansawdd gorau posibl wrth lwytho.

Am gyngor ychwanegol, cysylltwch â’n tîm drwy anfon neges i [email protected].