|
Ewch i wefan Asthma and Lung UK (Saesneg yn unig) |
Mae gwefan Asthma and Lung UK yn cynnig ystod eang o adnoddau cymorth ac arweiniad penodol ar gyfer cleifion a/neu weithwyr iechyd proffesiynol. |
|
Gwyliwch y fideo Gwella rhagnodi, defnyddio a gwaredu anadlyddion |
Fideo gwybodaeth i gleifion a ddatblygwyd gan Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan ar wella sut mae anadlyddion yn cael eu rhagnodi, eu defnyddio a’u gwaredu. Crëwyd y fideo gyda mewnbwn gan Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Asthma and Lung UK a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd. |
|
Ewch i wefan GIG 111 Cymru: Asthma |
Tudalen we GIG Cymru 111 sy’n cynnig trosolwg, canllawiau a chefnogaeth ar sut i gefnogi a thrin Asthma. |
|
Ewch i wefan GIG 111 Cymru: Clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) (Saesneg yn unig) |
Tudalen we GIG Cymru 111 sy’n cynnig trosolwg, canllawiau a chefnogaeth ar sut i gefnogi a thrin COPD. |
|
Posteri i annog pobl i fynd â’u hen anadlyddion neu’ch rhai diangen yn ôl i’ch fferyllfa leol i gael eu gwaredu’n ddiogel |
Posteri dwyieithog i annog cleifion i ddychwelyd hen anadlyddion a rhai heb eu defnyddio i’r fferyllfa gymunedol. |
|
Ewch i’r dudalen we Eich Meddyginiaethau Eich Iechyd |
Mae’r dudalen we Eich Meddyginiaethau Eich Iechyd yn canolbwyntio ar ddeunydd hysbysebu a hyrwyddo, sgyrsiau personol a chyflwyniadau, gan ddefnyddio negeseuon syml i helpu pobl i wella eu rheoli meddyginiaethau. |
|
Mynediad at Becyn Cymorth Cyfryngau Cyfathrebu Llywodraeth Cymru (Saesneg yn unig) |
Pecyn Cymorth Cyfryngau Cyfathrebu Llywodraeth Cymru sy’n amlinellu asedau ymgyrchu Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud yn benodol â chyngor, triniaeth a chymorth fferylliaeth gymunedol. |