Neidio i'r cynnwys

Gwybodaeth ynglŷn â phrofion sgrinio cyn geni - Adran 7 – Profion mewnwthiol

Beth yw samplu filws corionig?

Mae prawf samplu filws corionig yn driniaeth pan fo meddyg ysbyty (obstetregydd) yn tynnu swm bach o feinwe o’ch brych yn ystod eich beichiogrwydd. Mae’r celloedd yn y feinwe hon yn cael eu profi yn y labordy i chwilio am y cyflwr y mae gennych siawns uwch ohono. Fel arfer, gallwch gael y prawf samplu filws corionig pan fyddwch wedi bod yn feichiog ers 11 wythnos a chyn 14 wythnos.

Mae cael CVS yn creu risg ychwanegol o gamesgoriad sy’n debygol o fod yn is na 0.5% o feichiogrwydd (tua 1 mewn 200). Mae’r risg ychwanegol o gamesgoriad ar ôl CVS mewn beichiogrwydd gyda gefeilliaid tua 1% (1 mewn 100) o feichiogrwydd.

Beth yw amniosentesis?

Mae amniosentesis yn driniaeth i dynnu tua 15 i 20 mililitr (hynny yw, tair i bedair llwy de) o hylif amniotig o’r ardal o amgylch eich babi yn y groth. Gellir profi’r celloedd o’ch babi sy’n arnofio yn yr hylif hwn yn y labordy i chwilio am y cyflwr y mae gennych siawns uwch ohono. Gellir ei gynnal pan fyddwch wedi bod yn feichiog am 15 wythnos.

Mae cael amniosentesis yn creu risg ychwanegol o gamesgoriad sy’n debygol o fod yn is na 0.5% (tua 1 mewn 200) o feichiogrwydd. Mae’r risg ychwanegol o gamesgoriad ar ôl amniosentesis mewn beichiogrwydd gyda gefeilliaid tua 1% (1 mewn 100) o feichiogrwydd.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 30ain Ebrill 2026