Gwybodaeth ynglŷn â phrofion sgrinio cyn geni - Adran 1 - Cyflwyniad i brofion sgrinio cyn geni
Eich dewisiadau yn ystod beichiogrwydd
Yn ystod eich beichiogrwydd, cewch gynnig nifer o brofion sgrinio gwahanol. Yma cewch wybodaeth am y profion sgrinio, a fydd yn eich helpu i benderfynu a ydych am gael rhai, neu bob un, o’r profion. Byddwch yn cael y cyfle i siarad â’ch bydwraig am y profion.
Mae eich rhif GIG yn unigryw i chi ac mae’r rhif hwn yn eich adnabod ar systemau cyfrifiadurol y GIG. Os oes gennych gopi o’ch rhif GIG, sicrhewch fod y rhif ar gael pan fyddwch yn gweld y fydwraig am y tro cyntaf neu’r tro cyntaf y byddwch yn mynd i’r ysbyty ar gyfer eich gofal mamolaeth.
Mae’r animeiddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am y profion sgrinio a gynigir i chi yn ystod beichiogrwydd i chi a’ch babi.
Beth yw profion sgrinio?
Gall profion sgrinio helpu i ganfod rhai o’r cyflyrau sydd gennych chi neu’ch babi. Maent yn dangos pa siawns sydd bod y cyflwr gennych chi neu’r babi. Nid ydynt yn dangos yn sicr a oes gennych chi neu’r babi y cyflwr a gaiff ei sgrinio. Mae’r profion a gynigir yn cynnwys profion gwaed a sganiau uwchsain. Weithiau, gall y prawf gwaed neu’r sgan uwchsain roi canlyniad aneglur ac efallai y byddwch yn cael cynnig rhagor o brofion.
Os yw canlyniad prawf sgrinio’n dangos ei bod yn fwy tebygol eich bod chi, neu’ch babi, â chyflwr penodol, efallai y cewch gynnig prawf sgrinio arall neu brawf mewnwthiol, er enghraifft amniosentesis. Mae profion mewnwthiol yn rhoi canlyniadau mwy sicr, ond mae siawns fach y gallant achosi camesgoriad. Am y rheswm hwn, dim ond pan fo siawns uwch o gael cyflwr y cynigir y profion hyn. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am brofion mewnwthiol yn adran 7 o’r llyfryn hwn.
Gall profion sgrinio fethu canfod y cyflwr y maent yn sgrinio amdano. Gall y fydwraig ddweud wrthych pa mor aml y gall hyn ddigwydd gyda’r profion.
Pa brofion sydd ar gael?
Caiff y profion sgrinio canlynol eu cynnig i chi.
Penderfynu a ydych am gael y profion
Eich dewis chi yw sgrinio. Gall fod yn anodd penderfynu pa brofion i’w cael. Nid yw rhai menywod am wybod a oes ganddynt unrhyw gyflyrau iechyd a allai effeithio arnyn nhw neu eu babi. Bydd eraill am wybod a oes ganddynt unrhyw gyflyrau iechyd a allai effeithio arnyn nhw neu eu babi er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau ar driniaeth neu, os oes canfyddiadau heb esboniad, i baratoi ar gyfer yr enedigaeth neu ystyried dod â’r beichiogrwydd i ben.
Cymerwch amser i feddwl cyn i chi benderfynu. Gallwch siarad am y profion â’ch bydwraig, a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych. Pan fyddwch wedi dewis pa brofion rydych am eu cael, bydd y fydwraig yn gwneud trefniadau ar eich rhan.
Ble fydd y profion yn cael eu cynnal?
Bydd eich bydwraig yn dweud wrthych lle y gallwch gael y profion.
Canlyniadau
Sut y byddaf yn cael canlyniadau fy mhrofion sgrinio?
Bydd eich bydwraig yn dweud wrthych sut a phryd y byddwch yn cael canlyniadau’ch profion.
A fydd fy nghanlyniadau’n gyfrinachol?
Mae eich rhif GIG yn unigryw i chi ac mae’r rhif hwn yn eich adnabod ar systemau cyfrifiadurol y GIG. Os oes gennych gopi o’ch rhif GIG, sicrhewch fod y rhif ar gael pan fyddwch yn gweld y fydwraig am y tro cyntaf neu’r tro cyntaf y byddwch yn mynd i’r ysbyty ar gyfer eich gofal mamolaeth.
Cofiwch
- Chi sy’n dewis pa brofion rydych am eu cael.
- Ni chaiff prawf ei gynnal oni bai eich bod yn cytuno.
- Efallai na chaiff nodyn atgoffa ei anfon atoch os na fyddwch yn dod am brawf.
Os byddwch yn newid eich meddwl
Gallwch newid eich meddwl am eich dewisiadau. Os penderfynwch gael prawf ac yna newid eich meddwl cyn ei gael, cofiwch ddweud wrth eich bydwraig fel y gall wneud nodyn yn eich cofnodion mamolaeth.
Mae adnoddau hygyrch ar gael ar gyfer yr adran hon.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 12fed Mai 2026