Neidio i'r cynnwys

Gweithlyfrau Atal a Rheoli Heintiau

Mae Llawlyfrau Addysgol wedi’u cynhyrchu’n benodol ar gyfer lleoliadau Cartrefi Gofal a Gofal yn y Cartref. Maent wedi cael eu datblygu ar y cyd gan Dîm Atal a Rheoli Heintiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Harrogate a’r Cylch, ac maent bellach ar gael ar ffurf ddigidol yn unig yn Gymraeg a Saesneg. Diolchwn i’n cydweithwyr yng Nghymru am gefnogi’r astudiaeth beilot a chynghori ar y cynnwys a’r gwaith dosbarthu. Mae’r rhain yn cynnwys Fforwm Gofal Cymru, y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru a Llywodraeth Cymru. Rydym hefyd yn cydnabod pob cartref gofal a darparwr gofal yn y cartref a gymerodd ran yn y cynllun peilot gwreiddiol.

Mae gan y Llawlyfrau hyn 76-80 tudalen A5, a gall pob aelod o staff eu cadw fel rhan o’u portffolio, yn ogystal â’u defnyddio fel pwynt cyfeirio ar gyfer gweithio o ddydd i ddydd. Mae gan y Llawlyfrau amser dysgu dan arweiniad o 3 awr i’w gwblhau; mae cyfle i ‘Brofi eich gwybodaeth’ ar ddiwedd pob adran, a thystysgrif i’r rheolwyr ei llofnodi. Ar ôl cwblhau’r Llawlyfrau, gall gyfrif tuag at y gofyniad Datblygu Proffesiynol Parhaus (DPP) ar gyfer eich proffesiwn a’r gofynion ar gyfer cofrestriad gofal cymdeithasol.

Ar ôl blwyddyn ers dyddiad eich archeb wreiddiol ar gyfer y Llawlyfr ar gyfer staff Cartrefi Gofal/Gofal yn y Cartref, gallwch e-bostio [email protected] i ofyn am gael prynu set newydd o gwestiynau i staff eu defnyddio gyda’u Llawlyfr gwreiddiol. Mae hyn yn helpu i ddarparu dull cost effeithiol o sicrhau bod staff yn cael eu hyfforddiant Atal a Rheoli Heintiau blynyddol am flwyddyn arall. Y gost ar gyfer y set newydd hon o gwestiynau fyddai £1.00 fesul aelod o staff. Byddech yn cael taflen gwestiynau, taflen atebion (ar gyfer rheolwyr) a Thystysgrif newydd. Byddai’r rhain i gyd yn cael eu hanfon trwy e-bost. Bydd y gweithlyfrau’n cael eu hadolygu yn 2027, a bydd unrhyw newidiadau mewn polisi yn cael eu cyhoeddi yn adran diweddariadau’r wefan.

Mae’r Gweithlyfrau’n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau megis:

  • Hylendid dwylo
  • Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)
  • Hylendid Anadlol a Hylendid Pesychu
  • Gwaredu gwastraff yn ddiogel
  • Rheoli gollyngiadau gwaed a hylif y corff yn ddiogel
  • Rheoli offer gofal yn ddiogel
  • Rheoli Llieiniau’n Ddiogel
  • Rheoli’r amgylchedd gofal yn ddiogel
  • Rheoli offer miniog yn ddiogel
  • Casglu sbesimenau
  • Gofal cathetr wrinol
  • Atal haint y llwybr wrinol (UTI)
  • Haint clostridioides difficile
  • MDROs, gan gynnwys Enterobacteriaceae sy’n cynhyrchu Carbapenem (CPE)
  • Staffylococws awrëws sy’n gwrthsefyll Methisilin (MRSA)
  • Salwch anadlol
  • Gastro-enteritis feirysol/Norofeirws

Mae’r llawlyfrau hyn ar gael yn y Gymraeg ar ffurf electronig.

Gweler y ffurflen archebu am ragor o fanylion.

Bydd unrhyw gyngor sy’n archebu’n uniongyrchol yn cael gostyngiad o 10% ar BOB archeb.

Gweithlyfrau Cartrefi Gofal

SAMPL – Llyfr Gwaith Atal Heintiau Cartrefi Gofal (3ydd Argraffiad)

Gweithlyfrau Gofal Cartref

SAMPL – Llyfr Gwaith Atal Heintiau Staff Gofal Cartref (3ydd Argraffiad)

Sut i Archebu

Lawrlwythwch y ffurflen archebu isod a dilynwch y cyfarwyddiadau a nodir.

Ffurflen archebu llyfr gwaith Atal a Rheoli Heintiau

Tystebau

Cartrefi Gofal

“Gofal cathetr – doeddwn i ddim yn gwybod na ddylai bag cathetr gael ei wagio mwy nag sydd ei angen gan y gallai hyn achosi haint” 

“Nid oeddwn wedi clywed am C.difficile o’r blaen. Teimlaf fy mod wedi dysgu beth yw hwn a sut i’w reoli’n ddiogel” 

“Roedd yn weithlyfr da ac addysgiadol iawn y gwnaethom fwynhau ei gwblhau. Mewn gwirionedd, fe helpodd ddod â’r tîm ynghyd a sbardunodd sgyrsiau ynghylch rheoli heintiau na fyddai wedi cael ei drafod heb y gweithlyfr hwn.”

Gofal cartref

“Adnodd gwerthfawr iawn ac mae’n wych cael y wybodaeth wedi’i choladu mewn un lle. Braf teimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi h.y. derbyn yr un wybodaeth / hyfforddiant â chydweithwyr yn y GIG”

“Fe’ch atgoffir o’r canlyniadau os na chaiff y gweithdrefnau hyn o ran atal heintiau hyn eu dilyn. Mae’n ddyletswydd arnom i gadw pawb yn ddiogel drwy ddilyn canllawiau”

Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â [email protected]