Neidio i'r cynnwys

Fframwaith Amlbroffesiynol ar gyfer Gweithio Integredig

Mae’r dudalen we hon wedi’i chynllunio i fod yn adnodd siop un stop ar gyfer unigolion neu dimau, sy’n cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ymgymryd â’r Matrics Datblygu, neu elfen offeryn gwerthuso’r Fframwaith Amlbroffesiynol a chefnogi’r daith i ddeall ble rydych chi nawr a sut i symud i ble yr hoffech fod.   

Ein huchelgais wrth ddatblygu matrics oedd cynhyrchu offeryn y byddai rhanddeiliaid – boed yn arweinwyr, rheolwyr, ymarferwyr ac eraill – yn ei chael yn ddefnyddiol.

Fe’i cynlluniwyd i:

  • Disgrifio’r hyn sy’n digwydd gyda ‘dilysrwydd wyneb’ i’r rhanddeiliaid allweddol;
  • Hwyluso disgrifiad o’r hyn sy’n digwydd mewn ffordd sy’n galluogi trafodaeth rhwng rhanddeiliaid;
  • Dangos sut beth yw ‘da’, gyda chamau i awgrymu a/neu ddangos datblygu; a
  • Galluogi rhanddeiliaid i drafod rhyngddyn nhw a thros eu hunain sut maen nhw’n gweld eu hamgylchiadau presennol a chytuno ar y camau nesaf i’w cymryd, gan mai dyma sut mae offer o’r fath yn gweithio orau.

Nod y Fframwaith

Nod y Fframwaith Amlbroffesiynol yw cefnogi sefydliadau i ddarparu gwasanaethau cymunedol cydgysylltiedig, sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth, trwy fodel gweithio gofal amlbroffesiynol sy’n seiliedig ar le.

Mae cydweithio trwy systemau gofal seiliedig ar le yn cynnig y cyfle gorau i ddiwallu anghenion cyfannol unigolion a’r boblogaeth leol. Bydd hyn yn herio rhai o’r ffiniau traddodiadol rhwng proffesiynau a rhwng gwasanaethau. 

Cefndir

Uchelgais y Seilwaith Cymunedol yw diffinio’r seilwaith sylfaenol sydd ei angen i ddarparu model cymunedol integredig, amlbroffesiynol 24/7 sy’n seiliedig ar le. Gan gydnabod bod llawer o waith cadarnhaol iawn wedi’i wneud yn y maes hwn, ond ei fod yn aml wedi sefyll ar ei ben ei hun ac na fu gweithredu arno, mae’r rhaglen hon yn rhoi’r cyfle i adeiladu ar y gwaith hwn, ei gydlynu a chodi ei broffil. Darllenwch fwy am y Rhaglen Seilwaith Cymunedol.

Y Fframwaith Amlbroffesiynol yw’r llinyn allweddol ar draws holl flaenoriaethau rhaglenni seilwaith cymunedol a’r camau nesaf. Mae’n cefnogi’r canolbwynt ar weithio amlbroffesiynol i ddarparu gofal a chymorth di-dor, cydgysylltiedig, effeithiol, effeithlon, amserol, integredig, sy’n seiliedig ar werth ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn nes at y cartref.

Datblygwyd y Fframwaith Amlbroffesiynol ar gyfer Gweithio Integredig mewn partneriaeth â’r Athro Mark Llewellyn a’r Athro Carolyn Wallace o Brifysgol De Cymru i gefnogi’r gwaith hwn. Fe wnaethant helpu i adeiladu sylfaen dystiolaeth mewn perthynas â’r gwaith hwn – trwy adolygiad cwmpasu o’r llenyddiaeth ac ymarfer meithrin consensws ar-lein – cyn ymchwil gweithredu cydweithredol gydag ymarferwyr i gyd-ddylunio’r Matrics Datblygu.

Darllenwch adolygiad cwmpasu Gweithio Amlbroffesiynol yn y Gymuned (Saesneg yn unig).

Mae’r Fframwaith Amlbroffesiynol yn cynnwys:    

  • Fframwaith y cytunwyd arno yn genedlaethol ar gyfer gweithio Amlbroffesiynol gan gynnwys Diffiniad a Safonau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol gyda Datganiadau Ansawdd sy’n sail iddynt.
  • Profi i ddangos prawf o gysyniad.
  • Set o fesurau canlyniadau y cytunwyd arnynt i ddangos cyflawni’r fframwaith yn llwyddiannus. 

Datblygu Fframwaith Amlbroffesiynol i Gymru:

  • Mae’n creu gweithio cydweithredol ar draws proffesiynau cymunedol.
  • Mae’n canolbwyntio ar gysondeb, yn lleihau amrywiad, ac yn adeiladu ar arferion da.
  • Mae’n defnyddio data i ddangos gwerth ac effaith er mwyn canolbwyntio sylw ac adnoddau.

Fframwaith Amlbroffesiynol

Mae papur gweithio’r Fframwaith Amlbroffesiynol ar gyfer gwaith integredig yn amlinellu’r diffiniad, y safonau a’r offeryn gwerthuso’r cytunwyd arnynt yn genedlaethol, ar gyfer model Amlbroffesiynol o ofal a chymorth integredig – byddem yn argymell darllen y papur hwn (y papur llawn neu’r papur crynhoi byrrach) i roi cefndir yr offeryn gwerthuso a’r ddealltwriaeth ohono i chi: 

Y Matrics Datblygu

Nod y Matrics Datblygu, neu elfen offeryn gwerthuso’r Fframwaith Amlbroffesiynol yw cefnogi gweithio amlbroffesiynol cydweithredol trwy ddarparu ffordd o ddisgrifio’r hyn sy’n digwydd gyda ‘dilysrwydd wyneb’ mewn ffordd sydd hefyd yn galluogi trafodaeth rhwng rhanddeiliaid. Mae’n dangos sut beth yw ‘da’, gyda chamau i awgrymu a/neu ddangos datblygu a chytuno ar y camau nesaf i’w cymryd.

Mae’n bwysig cydnabod nad offeryn rheoli perfformiad yw hwn – dim ond os ydych chi’n onest ynglŷn â sefyllfa bresennol chi/eich gwasanaeth y ceir gwerth go iawn ohono.

Nid yw’n ras i gyflawni datganiad 5.

Bwrwch olwg ar y Matrics Datblygu ar gyfer Gweithio Amlbroffesiwn.

Bellach ar gael: Lawrlwythiad Excel rhyngweithiol o’r Matrics Datblygu.

Adnoddau defnyddiol

Fideos byr

Bydd y dolenni isod yn mynd â chi at fideos ategol byr, gyda phob un ond yn para rhwng tua 3 a 4 munud. Cawsant eu datblygu i gefnogi defnyddio’r matrics datblygu.

Ewch i Sianel YouTube y Matrics Datblygu ar gyfer Gweithio Amlbroffesiynol

Dolenni defnyddiol eraill

Adolygiad Cwmpasu

Cynhaliwyd adolygiad llenyddiaeth yn ystyried rôl a gwerthoedd, manteision a heriau allweddol gweithio amlbroffesiynol yn y gymuned. Roedd yr adolygiad wedi’i strwythuro i ateb chwe chwestiwn craidd sy’n mynd i’r afael â diffiniadau, modelau gweithlu presennol, manteision, heriau, profiadau cleifion ac economeg iechyd gweithio amlbroffesiynol yn y gymuned.

Darllenwch adolygiad cwmpasu Gweithio Amlbroffesiynol yn y Gymuned (Saesneg yn unig).

Mapio Cysyniad Grŵp

Fe wnaeth yr ymarfer creu consensws ar-lein hwn helpu i gynhyrchu set ddata gyffredin ar gyfer seilwaith cymunedol.

Darllenwch Ganfyddiadau’r Mapio Cysyniad Grŵp (Saesneg yn unig). 

Pecyn Cymorth Seilwaith Cymunedol

Mae’r Rhaglen Seilwaith Cymunedol yn ceisio diffinio’r seilwaith sylfaenol sydd ei angen i ddarparu model cymunedol amlbroffesiynol integredig 24/7 yn seiliedig ar le. Gan adeiladu ar yr egwyddorion a amlinellir ym model Gofal Sylfaenol i Gymru, mae’n canolbwyntio ar sut mae gwasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol yn gweithio’n gydweithredol â’i gilydd, i ddarparu gofal di-dor, wedi’i ddarparu ar lefel leol. Mae gweithio amlbroffesiynol yn ganolog i’r rhaglen Seilwaith Cymunedol ac mae’n sail i uchelgais y Model Gofal Sylfaenol i Gymru.

Cewch fynediad at becyn cymorth y Rhaglen Seilwaith Cymunedol yma.

Enghreifftiau o Weithio Amlbroffesiynol

Crynodeb o Rolau a Modelau Gofal Sylfaenol a Chymunedol. Gwefan Unwaith i Gymru sy’n cynnwys astudiaethau achos o fodelau gofal sy’n ‘fyw’ yng Nghymru ar hyn o bryd sy’n arddangos gwaith amlbroffesiynol integredig i ddarparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn nes at y cartref. Mae pob astudiaeth achos yn cynnwys dolenni i adnoddau cysylltiedig, megis cyrff rheoleiddio a gwybodaeth am yrfaoedd.