Neidio i'r cynnwys

Edrych ar degwch iechyd o safbwynt economeg, polisi, a heriau iechyd byd-eang - Polisi

Cenedl fach yw Cymru, ond mae ganddi hanes balch o edrych tuag allan ac o fod yn flaengar, ac o ymrwymo i sicrhau datblygiad cynaliadwy a ffyniant i bawb o fewn a thu hwnt i’w ffiniau. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ddeddf arloesol sy’n cael ei gweithredu mewn cyfuniad â nifer o gyfreithiau modern Cymru, ac yn rhoi Cymru ar flaen y gad o ran yr agenda cynaliadwyedd ac yn galluogi gwaith trawsnewidiol a thraws-sectorol sydd o fudd i’r bobl, yr economi a’r blaned. Mae’n ymrwymo cyrff cyhoeddus i greu Cymru iachach a mwy cyfartal. Yn fwy diweddar, mae’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol 2020 yn cadarnhau ymrwymiad i ddiogelu cydraddoldeb a hawliau dynol, a gosod datrys anghydraddoldeb wrth galon y broses o wneud penderfyniadau.

Mae’r cysyniad o Iechyd ym Mhob Polisi (HiAP) (Saesneg yn unig) yn cael ei dderbyn fwyfwy gan lywodraethau a’r gymuned wyddonol fel rhag-amod pwysig ar gyfer gwell iechyd y boblogaeth a chymdeithas decach a mwy cydlynol yn gyffredinol. Mae HiAP yn golygu cydweithio ar draws sectorau i ystyried goblygiadau iechyd penderfyniadau, gyda’r nod o osgoi niwed i iechyd ac i ail-gydbwyso tegwch cymdeithasol ac iechyd. Er mwyn cyflymu’r cynnydd a wneir wrth gyrraedd y rhai sy’n cael eu gadael ar ôl oherwydd iechyd gwael, ac i atal eraill rhag cael eu gadael, mae angen gweithredoedd polisi sy’n cyrraedd y rhai mwyaf agored i niwed yn ogystal â’r rhai sydd mewn perygl anghymesur, y gellir ei osgoi, o iechyd gwael.

Mae menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru a’r dudalen we datrysiadau ar gyfer tegwch iechyd yn dod â pholisïau iechyd a thegwch yng Nghymru a thu hwnt ynghyd, ac mae’n darparu ffordd i gefnogi polisïau, cynlluniau ac adnoddau blaenoriaethu buddsoddiadau ar draws gwahanol sectorau a rhanddeiliaid allweddol, er mwyn cyflymu gweithredu, i gau’r bwlch iechyd, ac i sicrhau bywydau iach a llewyrchus.

Darllenwch ddeunyddiau sy’n ymwneud â pholisi.

Yn ôl i’r dudalen bwnc tegwch iechyd

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 20fed Mawrth 2026