Edrych ar degwch iechyd o safbwynt economeg, polisi, a heriau iechyd byd-eang - Bregusrwydd ac anghenion sydd ddim yn cael eu bodloni
Mae’r gwahaniaethau sy’n creu bylchau iechyd yn tanseilio tegwch iechyd. Maen nhw’n deillio o ystod o ffactorau (Saesneg yn unig), gan gynnwys amgylchiadau ein geni a’n bywydau – e.e. ein tai, ein haddysg a’n gwaith. Yn aml, maent yn cael eu gwaethygu gan wahaniaethu, stereoteipio, a rhagfarn yn seiliedig ar ffactorau ar lefel unigol, gyda llawer ohonynt yn nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys rhyw, hil, rhywedd neu oedran. Gall pob un o’r ffactorau hyn yn unigol arwain at fylchau iechyd, ond gallant orgyffwrdd hefyd, a chreu nifer o anfanteision a dyfnhau anghydraddoldebau iechyd.
Rydym yn gwybod ers tro am y cysylltiadau rhwng anghydraddoldebau iechyd a phrosesau ac amodau sy’n cyfyngu ar grwpiau poblogaeth mewn ffyrdd systematig, ac yn eu hatal rhag cael cynhwysiant economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol. Yn fwy diweddar, mae pandemig COVID-19 wedi gwaethygu anghydraddoldebau iechyd oedd eisoes yn bodoli, gan dynnu sylw pellach at anfantais a gwahaniaethu strwythurol. Mae’r pandemig hefyd wedi arwain at fylchau newydd mewn meysydd fel y gallu i weithio gartref a mynediad digidol, gan greu ffactorau newydd sy’n achosi bregusrwydd ac anghenion heb eu bodloni. Yn ogystal, mae pwysau costau byw yn cael effeithiau sylweddol a all danseilio anghydraddoldeb iechyd, yn enwedig ar yr aelwydydd tlotaf yng Nghymru.
Darllenwch ddeunyddiau sy’n ymwneud â bregusrwydd ac anghenion sydd ddim wedi’u bodloni.
Yn ôl i’r dudalen bwnc tegwch iechyd
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 20fed Mawrth 2026