Neidio i'r cynnwys

Edrych ar degwch iechyd o safbwynt economeg, polisi, a heriau iechyd byd-eang - Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru a thu hwnt

Mae anghydraddoldebau iechyd yn parhau i fod yn her barhaus yng Nghymru, fel ag y maent ledled Ewrop ac yn fyd-eang.

Ymrwymiadau byd-eang

Mae Agenda 2030 y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Datblygu Cynaliadwy (Saesneg yn unig) yn gosod 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDGs), ac mae Nod 10 yn canolbwyntio’n benodol ar leihau anghydraddoldebau.

Mae llawer o nodau eraill, megis Nod 1 (Dim tlodi) (Saesneg yn unig), Nod 2 (Dim Newyn) (Saesneg yn unig), Nod 3 (Iechyd a Llesiant Da) (Saesneg yn unig), Nod 4 (Addysg o Ansawdd) (Saesneg yn unig), Nod 5 (Cydraddoldeb Rhywedd) (Saesneg yn unig) a Nod 8 (Gwaith Teg a Thwf Economaidd) (Saesneg yn unig), sy’n dylanwadu’n uniongyrchol ar iechyd a thegwch. Mae cynnydd tuag at y nodau hyn wedi’i atal gan bandemig COVID-19, gan wneud gweithredu’n fwy brys nag erioed.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu arweinyddiaeth ac yn cydlynu er mwyn gwella cyrhaeddiad ac effaith gweithgarwch iechyd byd-eang a rhyngwladol drwy ei Strategaeth Iechyd Ryngwladol, sy’n galluogi Strategaeth Hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Gallwch ddarllen mwy am y Strategaeth Iechyd Ryngwladol yn ein tudalennau gwybodaeth bellach.

Gwaith Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar degwch iechyd

Mae Pedwaredd Rhaglen Waith Gyffredinol WHO (2025–2028) (Saesneg yn unig) yn cyd-fynd â’r Nodau Datblygu Cynaliadwy, a’i nod yw sicrhau bywydau iach a lles i bawb. Er mwyn cefnogi hyn, lansiodd Swyddfa Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Iechyd a Datblygu (Saesneg yn unig) fenter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd (HESRi) (Saesneg yn unig). Mae HESRi yn darparu tystiolaeth, offer ac opsiynau polisi er mwyn:

  • Dymchwel rhwystrau sy’n dal pobl yn ôl mewn iechyd a bywyd
  • Creu amodau i bawb ffynnu a bod yn llewyrchus

Arweiniodd y gwaith hwn at Benderfyniad Rhanbarth Ewrop WHO i gyflymu’r cynnydd tuag at iechyd, tegwch a gadael neb ar ôl (Saesneg yn unig).

Dylanwad Byd-eang Cymru

Mae gan Gymru hanes o gydweithio â Sefydliad Iechyd y Byd, gan gryfhau gallu a phartneriaethau rhyngwladol er mwyn gwella llesiant a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Mae Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant (WHO CC) o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio’n agos gyda Swyddfa Ranbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd a’r Swyddfa Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddi ar gyfer Iechyd a Datblygu er mwyn:

  • Gyrru buddsoddiad cynaliadwy yn llesiant a thegwch iechyd y boblogaeth .
  • Sefydlu Cymru fel safle arloesi byw ar gyfer tegwch iechyd.
  • Rhannu arfer gorau yn rhyngwladol a dysgu gan arbenigedd byd-eang.

International Health Insights

Mae International Health Insights yn tynnu ar brofiad byd-eang i ddarparu gwybodaeth ac arweiniad gweithredadwy, gan gryfhau iechyd y cyhoedd a’r system gofal iechyd yng Nghymru. Cafodd ei lansio’n wreiddiol mewn ymateb i’r pandemig COVID-19 yn 2020, ac mae’r gyfres o adroddiadau wedi cefnogi ymateb iechyd cyhoeddus deinamig a chynlluniau adfer Cymru. Ers 2022, mae’r cwmpas wedi ehangu i gynnwys ystod eang o bynciau iechyd cyhoeddus newydd a blaenllaw.

Mae deunyddiau sy’n ymwneud â chynyddu tegwch iechyd yng Nghymru, y DU neu ryngwladol ar gael yma.

Yn ôl i’r dudalen bwnc tegwch iechyd

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 20fed Mawrth 2026