Edrych ar degwch iechyd o safbwynt economeg, polisi, a heriau iechyd byd-eang - Datrysiadau
Mae anghydraddoldebau iechyd yn deillio o amrywiaeth o ffactorau, ac yn aml mae’r ffactorau hynny y tu hwnt i reolaeth uniongyrchol pobl. Nid yw’n ddigon i nodi pa faterion mawr sydd angen cael eu datrys, rhaid mynd ati i nodi’r offer, y camau gweithredu, y buddsoddiadau, y polisïau a’r datrysiadau ymarferol sy’n angenrheidiol ar gyfer gwella iechyd a llesiant ac i leihau anghydraddoldebau.
Nid yw anghydraddoldebau iechyd yn anochel; gellir eu lleihau neu eu hatal yn gyfan gwbl. Mae angen datrysiadau sy’n bodloni anghenion poblogaethau sydd yn agored i niwed o ganlyniad i annhegwch systemig. Gallwn gael buddion iechyd gwirioneddol am gost fforddiadwy ac o fewn cyfyngiadau adnoddau os mabwysiadwn strategaethau effeithiol.
Ni all gofal iechyd ar ei ben ei hun gau’r bwlch anghydraddoldeb iechyd. Mae anghydraddoldebau iechyd yn amlochrog, ac yn aml yn adlewyrchu cydblethiad nifer o ffactorau, yn enwedig anghydraddoldebau cymdeithasol y gellir eu hosgoi mewn ffactorau megis ble rydym yn byw, enillion ein cartref, a’n cyfleoedd am waith da.
Mae’r cymhlethdod hwn yn golygu nad oes datrysiad syml ‘addas i bawb’ i leihau anghydraddoldebau iechyd. Yn hytrach, mae angen ar ymdrechion i leihau anghydraddoldebau iechyd weithredu ar holl benderfynyddion cymdeithasol iechyd – y pum amod hanfodol – ar draws cwrs bywyd. Felly, mae gweithredoedd ym mhob maes o bolisi’r llywodraeth yn effeithio ar iechyd.
Gall gweithredu polisi cydgysylltiedig ar benderfynyddion iechyd, ynghyd â dulliau llywodraethu a pholisïau sydd wedi’u cynllunio a’u gweithredu’n dda, gael effaith ar: 1) leihau’r bwlch iechyd; 2) gwella iechyd a llesiant cyffredinol y boblogaeth; a 3) cyflawni twf economaidd cynhwysol a chynaliadwy a chynaliadwy a ffyniant i bawb.
Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i ‘weithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math‘. Mae sefydlu’r achos ac yn eirioli dros fuddsoddi mewn llesiant a thegwch iechyd gan eu bod yn hanfodol i alluogi polisi a gweithredu teg a chynaliadwy ac wedi’i seilio ar dystiolaeth er budd pobl, cymunedau, cymdeithasau, yr economi a’r blaned. Mae graddfa a natur yr her yn galw am ymateb cydgysylltiedig, sector cyfan, gan wneud achos cryf dros ddulliau cymunedol-ganolog o iechyd y cyhoedd a dulliau system gyfan o gydraddoldeb iechyd.
Bydd sut mae polisi cyhoeddus a phenderfyniadau yn ymateb i heriau parhaus a newydd mewn cyfnodau o ansicrwydd yn dibynnu’n fawr ar y gallu i lunio ymatebion i dueddiadau yn y dyfodol. Yr her yw gwybod sut i weithredu newid ar draws system gymhleth er mwyn sicrhau ei fod yn para dros amser (Saesneg yn unig).
Mae gwaith dyfodol yn ymwneud â meddwl a chynllunio ar gyfer y tymor hir. Gall helpu wrth ystyried yr heriau yr ydym yn debygol o’u hwynebu yng Nghymru a allai ddylanwadu ar y dyfodol a’i siapio, yn ogystal â’r heriau sy’n annisgwyl neu’n ansicr, a hynny gan gefnogi datblygiad polisïau neu strategaethau a fydd yn gadarn mewn sawl dyfodol posibl. Gall Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol: 2021 a’r Pecyn Tystiolaeth cysylltiedig gefnogi’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ddeall dyfodol Cymru yn well ac i wneud penderfyniadau mwy gwybodus ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Gall y Pecyn Cymorth Tri Gorwel hefyd helpu cyrff cyhoeddus i feddwl ac i gynllunio ar gyfer y tymor hwy. Gall ymdrechion i ystyried yr anghydraddoldebau a allai fodoli yng Nghymru yn y dyfodol gael eu cefnogi gan y fframwaith a sefydlwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n ein gorfodi i feddwl yn wahanol am ein hagwedd tuag at anghydraddoldebau iechyd. Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wedi nodi astudiaethau achos a syniadau mawr o Gymru a thu hwnt ar yr hyn y mae unigolion, cymunedau a chyrff cyhoeddus yn ei wneud i gyflawni’r nodau llesiant.
Mae adnoddau sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau ac sy’n anelu at wella tegwch iechyd yng Nghymru, y DU neu ryngwladol ar gael yma.
Yn ôl i’r dudalen bwnc tegwch iechyd
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 20fed Mawrth 2026