Cynhyrchion atal y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (SPPC)
- Deall presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru: astudiaeth dulliau cymysg 2021– Mae sawl model o weithio presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru gyda rolau ymarferwyr wedi’u lleoli mewn lleoedd megis awdurdodau lleol, y trydydd sector, tai, addysg uwch, a gofal sylfaenol; ac mae gweithgareddau presgripsiynu cymdeithasol yn digwydd yn fwyaf cyffredin mewn mannau cymunedol a’r trydydd sector. Nod y gwaith hwn yw deall tirwedd gweithgarwch presgripsiynu cymdeithasol ledled Cymru, a lle bo’n bosibl, meintioli a disgrifio ei swyddogaethau
- Deall Ymddygiad gan y Gweithlu Gofal Sylfaenol ar Gefnogi Rheoli Pwysau: Crynodeb 2021 – Deall ymddygiad gan y gweithlu gofal sylfaenol ar gefnogi rheoli pwysau – adroddiad sy’n tynnu sylw at ganfyddiadau arolwg deall ymddygiad a grwpiau ffocws i ddeall safbwyntiau’r rheng flaen wrth gefnogi rheoli pwysau.
- Anghenion gofal sylfaenol pobl sy’n byw gyda gorbwysau a gordewdra yng Nghymru (crynodeb) 2021 – mae’r asesiad hwn o anghenion gofal iechyd yn rhoi trosolwg o anghenion gofal iechyd sylfaenol a chymunedol oedolion o oedran gweithio (rhwng 18 a 64 oed) yng Nghymru sy’n byw gyda gorbwysau neu ordewdra.
- Datblygu’r Ymyrraeth ar gyfer Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan 2022 – Y penderfyniadau allweddol a wnaed wrth ddylunio’r ymyrraeth ar gyfer Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan a’r sail resymegol dros y penderfyniadau hyn.
- Cynllun Gweithredu Atal Gordewdra Gofal Sylfaenol 2022-2024 – Mae’r cynllun gweithredu dwy flynedd cychwynnol hwn, sy’n cwmpasu Ebrill 2022 – Mawrth 2024, wedi’i gynllunio i gefnogi gweithredu elfennau gofal sylfaenol a chymunedol Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan, yn unol â Chynllun Cyflawni Pwysau Iach Cymru Iach 2022-24.
- Protocol Ymyrraeth Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan 2022 – Mae Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan (AWDPP), dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cynnig cymorth wedi’i dargedu i bobl sydd mewn mwy o risg o ddiabetes math 2, gyda’r nod o’u hatal rhag datblygu’r cyflwr hwn. Mae’r ddogfen hon yn cefnogi gweithredu’r AWDPP mewn modd cyson.
- Rhyngwynebau Presgripsiynu Cymdeithasol 2022 – Drwy ddeall y rhyngwynebau penodol rhwng presgripsiynu cymdeithasol, gwasanaethau iechyd a gofal, a gweithgareddau llesiant ac asedau cymunedol, nod y papur hwn yw llywio cyfeiriad strategol a datblygu polisi Rhyngwynebau Presgripsiynu Cymdeithasol 5, er mwyn cefnogi a gwella llesiant cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.
- Adroddiad Diweddaru’r Gyfraith Gofal Gwrthgyfartal 2022 – Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys adolygiad o’r dystiolaeth ryngwladol a gyhoeddwyd ar gyfer rhaglenni archwiliad iechyd Clefyd Cardiofasgwlaidd; Dadansoddiad o ddata rhaglenni rhwng 2013-2019 sydd wedi’i gadw ym Manc data SAIL lle mae ar gael ar gyfer BIP Aneurin Bevan, BIP Cwm Taf Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr; Myfyrio ar Raglen y Gyfraith Gofal Gwrthgyfartal gan y ddau BIP; Pwyntiau dysgu allweddol a chasgliadau.
- Buddion a Chanlyniadau Prosiectau Atal Gordewdra 2022 Cronfa SPPC 2022-2023 – Pwrpas y papur hwn yw tynnu sylw at y buddion a’r canlyniadau a ragwelir o’r prosiectau atal gordewdra. Mae deg prosiect i fynd i’r afael ag atal gordewdra yn cael eu datblygu ar draws y 7 bwrdd iechyd.
- Rhagnodi Cymdeithasol – Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno pedair ar ddeg enghraifft o astudiaethau achos ledled Cymru mewn perthynas â phresgripsiynu cymdeithasol.