Neidio i'r cynnwys

Cydweithrediadau Proffesiynau Perthynol i Iechyd

Datblygu Clwstwr Carlam yw elfen Gofal Sylfaenol Gofal Seiliedig ar Le, a ddarperir trwy Gydweithrediadau a Chlystyrau Proffesiynol.

Cydweithrediadau Proffesiynol yw’r mecanweithiau a ddefnyddir er mwyn i Broffesiynau Perthynol i Iechyd ac eraill ddod ynghyd o fewn eu grwpiau proffesiwn-benodol ar draws ôl troed clwstwr, i ystyried sut maent yn ymateb i Asesiadau o Anghenion y Boblogaeth Rhanbarthol (RPNAs); ystyried ansawdd eu cynnig gwasanaeth, ac edrych ar sut maent yn ymateb i strategaeth genedlaethol ar gyfer eu priod broffesiwn gan ddylunio atebion lleol yn seiliedig ar eu gwybodaeth fanwl a’u harbenigedd.

Mae Cydweithrediadau Proffesiynol AHP yn darparu’r fframwaith i archwilio a datblygu cynlluniau gweithlu sy’n darparu’r gwasanaethau gwerth uchel o ansawdd uchel sydd eu hangen i ddarparu gofal di-dor a chefnogi anghenion y boblogaeth trwy:

  • Sicrhau arweinyddiaeth AHP gydgysylltiedig a gref ar bob lefel gweithredu daearyddol o lefel clwstwr a thraws-glwstwr/ardal, hyd at y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.
  • Dwyn Proffesiynau Perthynol i Iechyd ynghyd i edrych ar anghenion eu poblogaeth leol, dylanwadu ar lwybrau clinigol a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau
  • Cefnogi canolbwynt ar sut rydym yn edrych ar ein gweithlu AHP yn ei gyfanrwydd, sut rydym yn gwneud y defnydd gorau ohono yn erbyn blaenoriaethau ar sail gwybodaeth ac a gytunwyd arnynt, a chefnogi’r rhain o safbwynt AHP cydweithredol.
  • Darparu dealltwriaeth o’r arbenigedd, y gwerth a’r effaith y mae Proffesiynau Perthynol i Iechyd yn eu cynnig, ac ar y cyd â Chydweithrediadau Proffesiynol eraill, dylanwadu ar sut maen nhw a gweithwyr proffesiynol eraill yn gweithio’n gydweithredol, dros yr unigolyn, ei deulu, a’r gymuned leol.

Mae Cydweithrediadau Proffesiynol AHP yn croesi ffiniau o fewn sefydliadau a phob sector sy’n gysylltiedig ag iechyd a llesiant. Er mwyn gwneud hyn, mae angen gweledigaeth gyffredin o ran yr hyn mae Cydweithrediad Proffesiynol AHP yn ei gynrychioli a pha gefnogaeth sydd ei hangen i droi’r cysyniad yn grŵp gweithredol.

Yn dilyn gweithdai fel rhan o Ddigwyddiad Lansio Datblygu Clwstwr Carlam Cenedlaethol y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol, ym mid Mehefin 2022 cynhaliwyd gweithdy Cydweithrediad Proffesiynol AHP Cenedlaethol i gytuno ar weledigaeth gyffredin a chytuno ar lefel genedlaethol ar sut y bydd y Cydweithrediadau Proffesiynol AHP yn gweithredu. 

Yn dilyn y gweithdy Cydweithrediad Proffesiynol AHP Cenedlaethol, cytunwyd y byddai 7 gweithdy rhanbarthol yn cael eu cynnal ym mhob ardal bwrdd iechyd i ddatblygu’r meddwl ynghylch cyflwyno Cydweithrediadau Proffesiynol AHP. Pwrpas cytunedig y gweithdai oedd:

  • Adeiladu ar drafodaethau yn y gweithdy cenedlaethol a llywio’r darlun cenedlaethol ymhellach.
  • Cefnogi gweithredu lleol y Cydweithrediad Proffesiynol AHP ym mhob ardal bwrdd iechyd.
  • Cytuno ar gynllun a chamau nesaf er mwyn rhoi ar waith y Cydweithrediad Proffesiynol AHP, a nodi sut y bydd y proffesiwn AHP yn bwydo mewn i’r Clystyrau a’r Grwpiau Cynllunio Traws-glwstwr.

Themâu allweddol o weithdy Cydweithrediad Proffesiynol AHP Cenedlaethol:

  • Dylanwadu: ar y ffordd y mae gwasanaethau yn cael eu cynllunio a’u darparu a phwysigrwydd gallu tynnu sylw at y sgiliau a’r rolau a gwmpesir gan Broffesiynau Perthynol i Iechyd a sut y gall y rhain gyfrannu at ganlyniadau gwell i’n poblogaeth.
  • Cydweithio: Ar draws y 13 proffesiwn yn ogystal â chydweithio â phroffesiynau gofal sylfaenol eraill. Ailgydbwyso fel nad oes un proffesiwn yn dominyddu  
  • Cydnabod: mantais dwyn Proffesiynau Perthynol i Iechyd ynghyd a sicrhau eu bod yn cael eu hystyried yn bartner cyfartal gan bawb ar lefel clwstwr.
  • Ymgysylltu:  o fewn y teulu AHP, ac ar draws y proffesiynau gofal sylfaenol eraill. Gan nodi y gall fod seilos AHP proffesiynol, ac weithiau diffyg deall rolau ei gilydd o ran gwerth ac effaith. Hefyd, ystyried cynnwys proffesiynau ehangach h.y. awdioleg, swyddogion adsefydlu amhariad ar y golwg a’r clyw
  • Llais cyfartal: Mae angen gweithio ar un llais AHP ac ystyried yr angen i ehangu nifer yr arweinwyr AHP generig i ddarparu cynrychiolaeth ledled Cymru.

Gofynion allweddol a nodwyd o’r gweithdy cenedlaethol:

  • Cyfarfodydd gyda Phwrpas
  • Strwythur clir, gyda chanlyniadau clir a chyflawnadwy o ganlyniad i gydweithio
  • Cyfathrebu agored a gonest yn seiliedig ar weledigaeth ac amcanion cyffredin
  • Gwaith yn seiliedig ar asesiadau o anghenion y boblogaeth, gyda gofal cydweithredol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth ei wraidd
  • Ymyriadau a gwasanaethau wedi’u hategu gan sylfaen dystiolaeth a’r effaith y maent yn ei chael
  • Cael ei glywed a dylanwadu fel grŵp proffesiynol gyda llais a chyfraniad cyfartal
  • Cynrychiolaeth gynhwysol – gyda datblygu arweinyddiaeth a chymorth gan gymheiriaid yn sail iddi
  • Cyfle i gydweithrediadau AHP ledled Cymru gael rhywfaint o gysondeb yn y meysydd allweddol y dylent ganolbwyntio arnynt e.e. atal, lleihau anghydraddoldebau a chadw/boddhad Proffesiynau Perthynol i Iechyd sy’n gweithio’n lleol
  • Gweithlu datblygedig a medrus i gymryd rhan yn nhrafodaethau’r cydweithrediadau a’r clystyrau
  • Cynyddu dealltwriaeth y Proffesiynau Perthynol i Iechyd o’r hyn y mae cydweithrediad proffesiynol yn ei gynrychioli, er mwyn iddynt ddeall gwerth y cydweithrediad a’r cyfleoedd y mae’n eu cynnig

Grŵp Cymheiriaid Cyfarwyddwyr Gweithredol Therapïau a Gwyddorau Iechyd (DoTHS) oedd y pwynt cyswllt ar gyfer aelodau pob gweithdy AHP rhanbarthol, a gofynnwyd am enwebiadau am Arweinwyr AHP ar draws cyfarwyddiaethau a sefydliadau, a fydd yn cefnogi gweithredu Cydweithrediadau Proffesiynol AHP y rhanbarthau. Cydnabod bod y Cydweithrediad Proffesiynol AHP yn ehangach na chynnwys AHP Byrddau Iechyd.

Darparwyd canllawiau ynghylch ystyriaeth sylfaenol cynnwys yr 13 AHP a reoleiddir gan Gyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC), ond y byddai hyblygrwydd o ran cynnwys proffesiynau ychwanegol yn seiliedig ar angen lleol a’r hyn sy’n gwneud synnwyr, yn briodol, gyda gweithdai rhanbarthol yn cynnig y cyfle i archwilio hyn.

Cysylltwyd â Chadeiryddion Grŵp Penaethiaid Gwasanaethau i Oedolion Cymru Gyfan (AWASH) a Grŵp Penaethiaid Gwasanaethau Plant Cymru Gyfan (AWHOCS) i godi ymwybyddiaeth, ymgysylltu a chefnogaeth ymhlith eu priod aelodau. Gan gydnabod eu bod yn rhanddeiliaid allweddol o ran adnoddau a gweithgarwch AHP, a bod eu cyfraniad at ddatblygu a gweithredu Cydweithrediadau Proffesiynol AHP rhanbarthol yn hanfodol bwysig, wrth eu galluogi i lywio gwneud penderfyniadau a chynnig yr atebion AHP mwyaf effeithiol ar gyfer y cyd-destun lleol.

Gwahoddwyd cynrychiolwyr Gofal Sylfaenol Rhanbarthol sy’n gyfrifol am gydgysylltu gweithredu Datblygu Clwstwr Carlam, a gweithredu’r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol ym mhob un o’r Byrddau Iechyd.

Yn ogystal â chynrychiolydd o Dîm Fframwaith Addysg a Datblygu Gofal Sylfaenol a Chymunedol Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Er mwyn sicrhau cynnwys anghenion dysgu a datblygu AHP a nodwyd yn y rhaglen Fframwaith Addysg Gofal Sylfaenol sy’n cael ei datblygu a’r Adnoddau Arweinyddiaeth Gwella sydd wedi’u casglu’n benodol i gefnogi Datblygu Clwstwr Carlam. 

Darllenwch adroddiad Trosolwg Cenedlaethol o’r Gweithdai Cydweithrediadau Proffesiynol AHP.

Cydnabyddir y bydd pob ardal yn symud ymlaen tuag at yr un nod terfynol ond ar gyflymder gwahanol, gyda gwybodaeth a phrofiad lleol yn llywio’r gwaith hwn i gyflawni’r atebion mwyaf effeithiol.