Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau cyffredin Sgrinio Serfigol - Feirws Papiloma Dynol (HPV)

Darganfuwyd HPV yn fy sampl serfigol, a yw hyn yn golygu y byddaf yn datblygu canser ceg y groth?

Nac ydy. Bydd pedwar o bob pump (80%) ohonom yn cael rhyw fath o HPV yn ystod ein bywydau. Ni fydd y rhan fwyaf ohonom byth yn gwybod ein bod wedi’i gael. Mae tua 90% o heintiau HPV yn gwella o fewn 2 flynedd.

Fel arfer, bydd y corff ei hun yn gwaredu’r HPV heb driniaeth. I nifer fach o unigolion, ni fydd eu cyrff yn gallu cael gwared ar HPV. Pan fo haint HPV gan bobl ers amser hir gall hyn achosi i gelloedd ceg y groth newid.

Fel arfer, mae’n cymryd blynyddoedd lawer i ganser ceg y groth ddatblygu o unrhyw newidiadau i’r celloedd a allai ddigwydd yng ngheg y groth.  Gall sgrinio bob pum mlynedd sylwi ar y newidiadau hyn cyn iddynt ddatblygu’n ganser.

Rwyf wedi cael y brechlyn HPV (Feirws Papiloma Dynol). A oes angen i fi gael fy sgrinio?

Oes. Mae’r brechlyn HPV yn amddiffyn rhag y ddau fath o HPV (16 a 18) sy’n achosi 70% o’r achosion o ganser ceg y groth. Nid yw’r brechlyn yn amddiffyn rhag pob math o HPV a all achosi canser ceg y groth, felly mae’n bwysig cael prawf sgrinio serfigol pan fyddwch yn derbyn gwahoddiad.

Dangosodd fy mhrawf sgrinio serfigol (ceg y groth) fod HPV gen i. A ddylai fy mhartner/gwraig gael prawf?

Na ddylai. Nid oes angen i’ch partner/gwraig gael prawf. Mae HPV yn gyffredin iawn, ac nid ydym yn gwybod pa mor hir y mae wedi bod gennych chi. Mae eich partner hefyd yn debygol o fod wedi cael HPV, ac mae’n bosibl ei fod yn dal i fod ganddo, neu efallai bod ei gorff wedi cael gwared arno.

Nid yw’n achosi unrhyw symptomau fel arfer ac nid ydym yn profi dynion amdano. Os ydych mewn perthynas â phartner o’r un rhyw â chi, byddem bob amser yn cynghori eich partner/gwraig i gael prawf sgrinio serfigol (prawf ceg y groth) pan ddisgwylir iddi gael ei sgrinio.

Mae fy mhrawf sgrinio serfigol (ceg y groth) yn dangos bod gen i HPV. Rwyf wedi bod gyda’r un partner ers blynyddoedd lawer. Sut mae HPV gen i?

Gall HPV fod yn segur yn ein cyrff am flynyddoedd lawer ac mae’n bosibl na fydd byth yn achosi unrhyw newidiadau i’r celloedd. Os caiff ei ddarganfod ar brawf sgrinio serfigol (ceg y groth), ni fyddwn yn gallu dweud pa mor hir y mae wedi bod yno. Mae’n bosibl na fydd rhai pobl byth yn cael gwared arno.

Rydyn ni’n gwybod y gall darganfod bod gennych chi HPV yn sydyn nawr achosi i rai pobl boeni am eu partneriaid. Mae’n bwysig bod yn ymwybodol y gall y feirws fod yn bresennol am flynyddoedd lawer heb achosi unrhyw broblemau i’r naill bartner na’r llall.

Gall y feirws achosi newidiadau i’r celloedd flynyddoedd lawer yn ddiweddarach. Dyma pam ei bod yn bwysig parhau i gael eich sgrinio pan fyddwch chi’n cael eich gwahodd, hyd yn oed os yw’ch profion bob amser wedi bod yn normal.

Dangosodd canlyniadau fy mhrawf sgrinio serfigol (ceg y groth) fod HPV gen i. A allaf gael rhyw o hyd ac a ddylem ddefnyddio condomau?

Gallwch. Gallwch gael rhyw o hyd ac nid oes angen i chi ddechrau defnyddio condomau os nad ydych wedi eu defnyddio o’r blaen.

Os ydych mewn perthynas newydd, mae bob amser yn bwysig meddwl am ddefnyddio condomau a chael archwiliad iechyd rhywiol, gan fod heintiau eraill yn bodoli a all achosi problemau.

Dangosodd canlyniadau fy mhrawf sgrinio serfigol (ceg y groth) fod HPV gen i. A allaf ei drosglwyddo i’m plentyn heb ei eni?

Mae HPV fel arfer yn cael ei drosglwyddo o berson i berson trwy gyswllt rhywiol. Mae siawns fach iawn o drosglwyddo HPV i faban wrth roi genedigaeth, ond mae’n ymddangos bod hyn yn digwydd mewn achosion prin.

Os bydd fy nghorff yn cael gwared ar HPV, a allaf gael y brechlyn HPV?

Os ydych eisoes wedi dod i gysylltiad â’r mathau o HPV y mae’r brechlyn yn eu cynnwys, mae’n bosibl na fyddai’n rhoi mwy o amddiffyniad i chi rhag cael eich heintio eto. Fodd bynnag, nid ydym yn gwybod yn union pa fath o HPV a allai fod gennych yn awr, neu a oedd gennych yn y gorffennol. Mae hyn yn golygu y gallai’r brechlyn gynnig ychydig o fudd i rai pobl.

Mae’n frechlyn diogel iawn. Mae’n cael ei gynnig i ferched a bechgyn 12-13 oed, dynion sy’n cael rhyw gyda dynion a rhai pobl drawsryweddol.

Os ydych chi am gael y brechlyn, mae hyn yn golygu y byddai angen i chi dalu amdano. Bydd rhai practisiau meddygon teulu a fferyllwyr yn cynnig y gwasanaeth hwn.

Os ydych o dan 25 oed a heb gael y brechlyn pan oeddech yn iau, gallwch ei gael am ddim gan eich meddyg.

Mae canlyniadau fy mhrawf sgrinio serfigol (ceg y groth) yn dweud bod HPV gen i. A ddylai fy mhlentyn gael ei frechu?

Bydd eich plentyn yn cael cynnig y brechlyn pan fydd ym mlwyddyn 8 yn yr ysgol. Nid oes angen iddo/iddi ei gael cyn hynny.

Mae’r brechlyn yn ddiogel iawn, felly mae’n bwysig ei gael os bydd yn cael ei gynnig.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 17eg Chwefror 2026