Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau cyffredin Sgrinio Serfigol - Cwestiynau cyffredinol

Beth yw’r prawf sgrinio serfigol (ceg y groth)?

Roedd y prawf sgrinio serfigol yn arfer cael ei alw’n brawf ceg y groth.

Cymerir sampl o gelloedd o’r serfics (ceg y groth, ar ben y fagina) gan ddefnyddio brwsh meddal. Profir y sampl yn gyntaf am fathau risg uchel o Feirws Papiloma Dynol. Mae hyn oherwydd bod y newidiadau i’r celloedd sy’n arwain at bron pob achos o ganser ceg y groth yn cael eu hachosi gan HPV risg uchel.

Os na chaiff HPV risg uchel ei ddarganfod yn y sampl, ni fydd angen edrych ar y celloedd. Mae hyn yn digwydd mewn bron i 9 o bob 10 sampl.

Os bydd HPV risg uchel yn cael ei ddarganfod yn y sampl, bydd sgriniwr yn edrych ar y celloedd yn y sampl o dan ficrosgop i chwilio am unrhyw newidiadau.

Os bydd y celloedd yn normal, cynhelir ail brawf sgrinio serfigol ar ôl 12 mis i weld a yw’r HPV risg uchel yn dal i fod yn bresennol. Os yw’n dal i fod yno, bydd y celloedd yn cael eu harchwilio eto.

Os bydd newidiadau i’r celloedd, bydd angen gwneud archwiliadau pellach.

Pa mor ddibynadwy yw sgrinio serfigol?

Mae sgrinio serfigol yn brawf da iawn ar gyfer darganfod newidiadau i’r celloedd a all arwain at ganser ceg y groth, ond nid yw’n berffaith.

Er ei fod yn brin, efallai na fydd y prawf sgrinio yn darganfod newidiadau i’r celloedd, na chanser hyd yn oed.

Hyd yn oed os na ddarganfuwyd HPV risg uchel gan eich prawf sgrinio neu os ydych wedi cael profion sgrinio arferol yn y gorffennol, mae’n bwysig iawn rhoi gwybod i’ch meddyg am unrhyw symptomau newydd. Mae’r symptomau hyn yn cynnwys:

  • Gwaedu ar ôl rhyw.
  • Gwaedu rhwng eich mislif.
  • Gwaedu ar ôl y menopos.
  • Rhedlif o’r wain sy’n anarferol i chi – gall fod ag arogl, edrychiad neu drwch gwahanol (er enghraifft, gall fod yn fwy trwchus).
  • Poen yn ystod neu ar ôl rhyw.
  • Poenau yng ngwaelod y cefn neu yn y bol.
A yw canser ceg y groth yn rhedeg mewn teuluoedd?

Nid oes tystiolaeth bod canser ceg y groth yn rhedeg mewn teuluoedd.

Mae gen i hanes teuluol o ganser. A ddylwn i gael fy sgrinio’n amlach neu’n gynt?

Na. Yn wahanol i rai mathau eraill o ganser, nid oes unrhyw gysylltiad teuluol hysbys mewn canser serfigol (ceg y groth), felly ni fydd angen i chi gael eich profi’n amlach.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 17eg Chwefror 2026