Cwestiynau cyffredin sgrinio llygaid diabetig - Sgrinio llygaid diabetig wedi newid
Os nad oedd eich dau sgrinio llygaid diabetig diwethaf wedi canfod unrhyw arwydd o glefyd llygaid diabetig, byddwch bellach yn cael eich sgrinio’n ddiogel bob dwy flynedd yn hytrach na bob blwyddyn. Bydd pawb arall yn cael eu sgrinio fel arfer.
Beth sydd wedi newid i bobl sy’n wynebu risg isel o glefyd llygaid diabetig?
Bydd pobl sy’n wynebu risg isel o glefyd llygaid diabetig bellach yn cael eu gwahodd i gael eu sgrinio bob dwy flynedd yn hytrach na bob blwyddyn.
Pam mae’r newid hwn wedi’i wneud?
Mae’r dystiolaeth yn dangos ei bod yn ddiogel i bobl heb glefyd llygaid diabetig gael eu sgrinio bob dwy flynedd.
Mae’r newid hwn wedi’i argymell gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU a Phwyllgor Sgrinio Cymru. Mae eisoes wedi’i wneud yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Bydd y newid hwn hefyd yn ein helpu i wella ein gwasanaeth drwy weld pobl sy’n wynebu risg uwch o glefyd llygaid diabetig yn gynt. Drwy sgrinio pobl sy’n wynebu risg isel yn llai aml, bydd gennym fwy o gapasiti i sgrinio pawb arall. Mae hyn yn arbennig o bwysig oherwydd bod nifer y bobl sy’n cael diagnosis o ddiabetes, ac y mae angen sgrinio llygaid arnynt yn cynyddu bob blwyddyn.
Beth yw ystyr ‘risg isel o glefyd llygaid diabetig’?
Rydych yn wynebu risg isel os nad oedd eich dau sgrinio llygaid diabetig diwethaf wedi canfod unrhyw arwydd o glefyd llygaid diabetig.
Os nad wyf yn ‘risg isel’ a yw hyn yn golygu fy mod yn wynebu ‘risg uchel’ o glefyd llygaid diabetig?
Dim ond pobl nad oedd eu dau sgrinio diwethaf wedi canfod unrhyw arwydd o glefyd llygaid diabetig fydd yn cael eu sgrinio bob dwy flynedd.
Os nad yw’r newid yn berthnasol i chi nawr, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu eich bod yn wynebu risg uchel. Yn dibynnu ar ganlyniadau eich profion sgrinio yn y dyfodol, efallai y byddwch yn cael eich gwahodd i gael eich sgrinio bob dwy flynedd yn y dyfodol.
Os ydych yn byw gyda diabetes, gallwch leihau eich risg o ddatblygu clefyd llygaid diabetig drwy’r canlynol:
- Rheoli eich diabetes, gan gynnwys gwirio eich glwcos gwaed a chymryd eich meddyginiaeth fel y mae’n cael ei rhagnodi
- Mynd i’ch apwyntiadau diabetes
- Mynd i’ch apwyntiadau sgrinio llygaid diabetig pan gewch eich gwahodd. Mae sgrinio llygaid diabetig yn rhan o reoli eich diabetes
- Ewch i gael eich prawf llygaid gyda’ch optometrydd pan fydd hynny’n ofynnol. Mae sgrinio llygaid diabetig yn wahanol i’r prawf llygaid a gewch gyda’r optometrydd
- Siaradwch â’ch optometrydd os byddwch yn sylwi ar unrhyw newidiadau i’ch golwg
Pwy sy’n gymwys?
Byddwch yn cael eich gwahodd i gael eich sgrinio bob dwy flynedd os yw’r canlynol yn wir:
- rydych yn 12 oed neu drosodd ac mae gennych ddiabetes math 1 neu fath 2
ac
- nid oedd eich dau sgrinio diwethaf wedi canfod unrhyw arwydd o glefyd llygaid diabetig
Beth sy’n digwydd os ydw i’n feichiog?
Os ydych yn feichiog, byddwch yn cael eich sgrinio’n amlach. Mae hyn oherwydd eich bod yn wynebu risg uwch o glefyd llygaid diabetig yn ystod beichiogrwydd.
A yw’r newid yn berthnasol i bobl â diabetes math 1 a math 2?
Ydy, mae’r newid yn berthnasol p’un a oes diabetes math 1 neu fath 2 gennych.
A yw’r newid yn berthnasol i blant?
Ydy, mae’r newid yn berthnasol i unrhyw un 12 oed neu drosodd nad oedd eu dau sgrinio diwethaf wedi canfod unrhyw arwydd o glefyd llygaid diabetig.
A fyddaf bob amser yn cael fy ngalw bob dwy flynedd?
Byddwch yn cael eich gwahodd i gael eich sgrinio bob dwy flynedd ar yr amod na chanfyddir unrhyw newidiadau yn eich apwyntiadau sgrinio. Os canfyddir newidiadau, byddwch yn cael eich sgrinio’n amlach.
Beth os na allaf ddod i fy apwyntiad?
Os na allwch ddod i’ch apwyntiad sgrinio, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl. Efallai y byddwn yn gallu cynnig eich apwyntiad i rywun arall. Gallwch ein ffonio i newid amser, dyddiad a lleoliad eich apwyntiad.
Beth os byddaf yn datblygu clefyd llygaid rhwng apwyntiadau sgrinio?
Mae’r dystiolaeth yn dangos os nad oes clefyd llygaid diabetig yn cael ei ganfod, ei bod yn ddiogel cael eich sgrinio bob dwy flynedd. Os bydd clefyd llygaid diabetig yn datblygu yn y ddwy flynedd rhwng eich apwyntiadau sgrinio, bydd yn cael ei ganfod ar gam cynnar, pan fydd gennych y siawns orau o driniaeth lwyddiannus.
Beth os byddaf yn sylwi ar unrhyw newidiadau i’m golwg neu os ydw i’n poeni am fy ngolwg rhwng apwyntiadau sgrinio?
Os byddwch yn sylwi ar unrhyw newidiadau i’ch golwg, cysylltwch â’ch practis optometreg lleol ar unwaith. Peidiwch ag aros am eich apwyntiad sgrinio nesaf.
A fydd hyn yn newid mor aml rwy’n cael prawf llygaid gyda’r optometrydd?
Na fydd. Mae sgrinio llygaid diabetig yn wahanol i’r profion llygaid a gewch gyda’r optometrydd. I gadw eich llygaid yn iach, mae’n bwysig eich bod yn gweld optometrydd yn rheolaidd yn ogystal â chael sgrinio llygaid diabetig.
Pa dystiolaeth sydd ar gael i ddangos bod y newid yn ddiogel?
Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (UK NSC) yw’r pwyllgor gwyddonol annibynnol sy’n gwneud argymhellion sgrinio i weinidogion y DU a’r GIG. Yn 2016, argymhellodd Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU newid y bwlch sgrinio o bob blwyddyn i bob dwy flynedd ar gyfer pobl sy’n wynebu risg isel o glefyd llygaid diabetig. Roedd hyn oherwydd bod astudiaeth fawr wedi dangos ei bod yn ddiogel gwahodd pobl yn y grŵp risg isel hwn bob dwy flynedd yn hytrach na phob blwyddyn. Roedd argymhelliad Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynwyd yn y ddogfen hon:
Rwyf wedi cael diagnosis o ddiabetes yn ddiweddar. Pa mor aml y byddaf yn cael fy sgrinio?
I ddechrau, byddwn yn eich gwahodd i gael eich sgrinio bob blwyddyn. Os byddwch yn cael dau apwyntiad sgrinio yn olynol nad ydynt yn dod o hyd i dystiolaeth o glefyd llygaid diabetig, byddwn yn gallu eich gwahodd bob dwy flynedd yn y dyfodol.
Hoffwn siarad â rhywun am y newid. Â phwy y dylwn gysylltu?
Gallwch gysylltu â Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru.
Gallwch gysylltu â ni yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd yn cymryd yr un faint o amser i’ch ateb, pa bynnag iaith rydych yn ei dewis.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 24ain Mawrth 2026