Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau cyffredin sgrinio llygaid diabetig - Cwestiynau ynglŷn â chael fy ngwahodd i sgrinio llygaid diabetig

Ble y byddaf yn cael fy sgrinio?

Cynhelir sgrinio mewn ysbytai, canolfannau iechyd, practisiau meddygon teulu, rhai lleoliadau cymunedol ac unedau symudol.

Ein nod yw eich gwahodd i’r lleoliad sydd agosaf at eich cartref, o fewn taith 45 munud.  Bydd hyn yn dibynnu ar y lleoliad a’r apwyntiadau sydd ar gael.

Pa mor aml y byddaf yn cael gwahoddiad?

Bydd pawb sy’n 12 oed neu’n hŷn sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes math 1 neu fath 2 ac sydd wedi’u cofrestru gyda meddyg yng Nghymru yn cael cynnig prawf sgrinio llygaid diabetig am ddim bob blwyddyn i ddwy flynedd.

Efallai y bydd rhai pobl yn cael eu gwahodd yn amlach, yn dibynnu ar ganlyniadau eu hapwyntiad sgrinio diwethaf, neu os byddant yn beichiogi.

Cysylltwch â’ch optegydd neu eich meddyg os byddwch yn sylwi ar unrhyw newidiadau i’ch golwg.  Peidiwch ag aros am eich apwyntiad sgrinio nesaf.

Sut mae cael apwyntiad?

Os ydych wedi cael diagnosis o ddiabetes Math 1 neu Fath 2, bydd eich meddyg yn rhoi gwybod i’r gwasanaeth sgrinio llygaid diabetig. Byddwn yn anfon llythyr gwahoddiad atoch bob tro y byddwch yn ddyledus am sgrinio llygaid diabetig.

Mae’n bwysig bod gan eich meddyg eich enw a’ch cyfeiriad cywir, fel arall efallai na fyddwn yn gallu anfon eich llythyr apwyntiad atoch.

A allaf newid fy apwyntiad?

Gallwch, cysylltwch â ni os ydych am newid amser, dyddiad neu leoliad eich apwyntiad, neu os na allwch fynd.

Rwyf wedi cael diagnosis o ddiabetes yn ddiweddar, a fyddaf yn cael apwyntiad?

Byddwch.  Os ydych wedi cael diagnosis o ddiabetes Math 1 neu Fath 2 yn ddiweddar bydd eich meddyg yn rhoi gwybod i’r gwasanaeth sgrinio llygaid diabetig.  Byddwn yn anfon llythyr gwahoddiad atoch gyda dyddiad ac amser ar gyfer eich apwyntiad.

Os nad ydych wedi cael llythyr yn eich gwahodd ar ôl 12 wythnos, cysylltwch â’ch practis meddyg teulu i roi gwybod iddynt.

Rwyf wedi bod i weld fy optegydd yn ddiweddar, a oes angen i mi ddod i fy apwyntiad ar gyfer sgrinio llygaid diabetig o hyd?

Oes, mae sgrinio llygaid diabetig yn wahanol i brawf llygaid gyda’ch optegydd.  Er mwyn cadw’ch llygaid yn iach mae’n bwysig eich bod yn mynd am eich prawf llygaid a’ch prawf sgrinio llygaid diabetig yn rheolaidd.

Rwy’n cael fy ngweld gan Wasanaeth Llygaid yr Ysbyty, a oes angen i mi ddod i’m hapwyntiad?

Cysylltwch â ni i drafod a oes angen i chi ddod i’ch apwyntiad a gallwn siarad â chi am eich opsiynau.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 24ain Mawrth 2026