Neidio i'r cynnwys

Compendiwm Rolau a Modelau Gofal Sylfaenol a Chymunedol (PCCC)

Beth yw e?

Mae hwn yn blatfform Unwaith i Gymru ar gyfer rhannu modelau arloesol ac unigryw o ddarpariaeth gofal sylfaenol a chymunedol. Fe’i cynhyrchwyd ar ran y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (SPPC) mewn cydweithrediad ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). 

Mae pob astudiaeth achos yn arddangos gweithio amlbroffesiynol integredig i ddarparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn nes at y cartref, ac ategu modelau gofal presennol. Mae’r sawl sy’n cymryd rhan yn weithwyr proffesiynol â phrofiad bywyd, sy’n gweithio yng Nghymru ar frig eu trwydded, mewn ffyrdd newydd neu arloesol. Mae dolenni ar bob tudalen i adnoddau ategol. 

Sut gellir ei ddefnyddio?

Gall unrhyw un sy’n datblygu gwasanaethau gofal iechyd ei ddefnyddio i nodi dulliau newydd o ddiwallu anghenion iechyd y boblogaeth. Gall gweithgarwch ymchwil a datblygu dynnu ar ddysgu o’r astudiaethau achos cyn comisiynu gwasanaethau newydd i wneud y mwyaf o’r effaith ar ofal cleifion. 

Wrth i ofal sylfaenol a chymunedol esblygu, gellir rhannu astudiaethau achos newydd drwy’r botwm Cyflwyno Astudiaeth Achos ar y dudalen Hafan ac Astudiaethau Achos. 

Gellir defnyddio’r adnodd hwn ar y cyd â 

  • Tregyrfa – platfform ar-lein arloesol, cwbl ddwyieithog sy’n arddangos yr amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru
  • HyfforddiGweithioByw Cymru – gwefan sy’n darparu gwybodaeth am amrywiaeth eang o raglenni hyfforddi arbenigol gyda chefnogaeth bwrpasol i gynorthwyo eich datblygiad proffesiynol ochr yn ochr â chydbwysedd bywyd a gwaith gwych
  • Fframwaith Amlbroffesiynol ar gyfer Gweithio Integredig – adnodd ar gyfer unigolion neu dimau, i’w ddefnyddio i ddatblygu arferion gweithio amlbroffesiynol y tîm. Adnodd ar gyfer unigolion neu dimau, i’w ddefnyddio i dynnu sylw at fanteision gweithio ym maes gofal iechyd yng Nghymru a cheisio’n rhagweithiol wella nodau gyrfa personol a gwasanaethau iechyd i bobl Cymru. 

I ymweld â’r platfform defnyddiwch y dolenni canlynol: