Neidio i'r cynnwys

Canllaw technegol mynychder canser y croen nad yw’n felanoma

Cyflwyniad

Swyddogaeth graidd Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru (UGGCC) yw cyflawni un o ddyletswyddau statudol Iechyd Cyhoeddus Cymru: “I gasglu, dadansoddi a lledaenu gwybodaeth am iechyd pobl Cymru, yn systematig, yn arbennig mynychder, marwolaethau a chyfraddau goroesi canser…”

Mae llunio cofrestrfa genedlaethol canser Cymru yn barhaus a chreu ystadegau swyddogol blynyddol cyfreithiol ar fynychder a goroesi canser yn hanfodol i’r ddyletswydd hon, yn ogystal ag adrodd ar farwolaethau canser yn y boblogaeth sydd yn preswylio yng Nghymru.

Mae cofrestrfa genedlaethol canser Cymru yn gronfa ddata fyw a deinamig o ddata mynychder canser o 1972 ymlaen, gyda thua 20,000 o gleifion yn cael diagnosis bob blwyddyn yng Nghymru (ac eithrio canser y croen nad yw’n felanoma).  Mae UGGCC wedi bod yn gyfrifol am gyhoeddi mynychder, marwolaethau a chyfraddau goroesi canser yng Nghymru er 1997.  Cyn hyn roedd ffigurau mynychder canser yn cael eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Cymru a Lloegr.  Yn 2009, daeth UGGCC yn rhan o Is-adran Gwybodaeth Iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) oedd newydd ei sefydlu, ac yn fwy diweddar, daeth yr Is-adran Gwybodaeth Iechyd yn rhan o’r Gyfarwyddiaeth Wybodaeth newydd yn ICC (1 Ebrill 2019).

Yn hanesyddol, mae ystadegau swyddogol gan UGGCC wedi cael eu cyhoeddi ar ddangosfwrdd rhyngweithiol, sydd yn galluogi defnyddwyr i wneud dewisiadau yn seiliedig ar eu gofynion.  Fodd bynnag, mae galluogrwydd dadansoddwyr wedi cael ei gyfyngu yn sgîl blaenoriaethu’r ymateb i Covid-19 yn ICC.  O ganlyniad, mae’r cyhoeddiad penodol hwn yn cael ei gyhoeddi ar ffurf tabl mewn gweithlyfr Microsoft Excel yn unig.

Cynhyrchir y cyhoeddiad hwn gan ddefnyddio cipolwg ar gronfa ddata ddeinamig cofrestru canser, sydd yn cael ei llenwi a’i sicrhau o ran ansawdd gan ddarparwyr data lluosog o Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau Cymru y GIG, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, Public Health England, a mannau eraill yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, fel ei Is-adran Sgrinio.

Cynhyrchir ein hystadegau i safon broffesiynol uchel a nodir yn y Côd Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol. Maent yn cael adolygiadau sicrhau ansawdd rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni anghenion cwsmeriaid. Cânt eu cynhyrchu heb unrhyw amharu gwleidyddol o gwbl.

Mae’r ddogfen hon yn rhoi trosolwg o’r broses o gasglu data, ansawdd y data a’r fethodoleg a ddefnyddiwyd.  Mae hefyd yn rhoi diffiniadau, nodiadau ar gyfer dehongli, a manylion ynghylch ble i gael mwy o wybodaeth am ystadegau canser yng Nghymru.

Methodoleg

Trosolwg o ganser y croen nad yw’n felanoma

Gellir gwahanu canser y croen yn ddau brif fath: melanoma a chanser y croen nad yw’n felanoma (CCNF).  Gellir dod o hyd i ystadegau swyddogol ar gyfer canser melanoma y croen yng nghyhoeddiad diweddaraf digwyddedd yr UCCGG a gedwir yn yr adroddiad mynychder canser yng Nghymru.

Mae sawl is-fath o ganser y croen wedi eu categoreiddio fel CCNF yn cynnwys canserau ceratinocyt (KC) a mathau prin eraill o ganser y croen. Gellir gwahanu KC ymhellach i garsinoma celloedd gwaelodol (BCC) a charsinoma celloedd cennog croenol (cSCC). Mae KC yn ffurfio’r rhan fwyaf o achosion CCNF; BCC ~80% a cSCC ~20%. Mae canserau’r croen prin yn ffurfio <1% o achosion yng Nghymru ac yn cynnwys mathau fel carsinoma celloedd Merkel a sarcoma croenol.

Gellir nodi tiwmorau CCNF gan unrhyw god C44 yn unol â 10fed diwygiad Dosbarthiad Rhyngwladol Clefydau (ICD-10) gyda’r 4ydd digid yn dynodi lleoliad y tiwmor ar y corff. Defnyddir codau morffoleg wedyn o Ddosbarthiad Rhyngwladol Clefydau ar gyfer Oncoleg, Trydydd Rhifyn (ICD-O-3) i bennu is-fath NMSC (BCC, cSCC neu brin). Gweler y map math o ganser a’r tabl cyfeiriadau morffoleg yn Atodiad A am fwy o wybodaeth am y ffordd y caiff NMSC ei bennu.

Cyfrifir digwyddedd CCNF yn wahanol i fathau eraill o ganser oherwydd y niferoedd uchel o diwmorau KC newydd ac i roi cyfrif am luosedd tiwmorau fesul claf. Mae dau ddull cydnabyddedig o gyfrif KC: y “dull cyntaf erioed” a’r “dull cyntaf fesul person y flwyddyn (PPPA)”. Mae’r cyhoeddiad hwn yn defnyddio’r “dull PPPA cyntaf” ar gyfer cyfrif KC yn lle’r “dull cyntaf erioed” am ei fod yn rhoi amcangyfrifiad mwy cywir o fynychder KC blynyddol yng Nghymru. Mae’r “dull PPPA cyntaf” hefyd yn adlewyrchu’r baich ar adnoddau gofal iechyd yn well o ran trin tiwmorau KC ac yn rhoi darlun mwy cyflawn o faich canser yng Nghymru. Mae’r “dull cyntaf erioed” o gyfrif KC wedi cael ei ddefnyddio’n draddodiadol gan y rhan fwyaf o gofrestrfeydd canser y DU. Fodd bynnag, mae cyfrif KC gan ddefnyddio’r “dull cyntaf erioed” yn arwain at amcangyfrif yn rhy isel y cyfrif gwirioneddol o diwmorau gan amcangyfrifiad o 50%.

Yn ogystal â chyfrif KC, mae’r cyhoeddiad hwn hefyd yn cyfrif canserau’r croen nad ydynt yn felanoma prin. Fodd bynnag, oherwydd niferoedd bach, mae CCNF yn cael eu cynnwys yng nghyfanswm digwyddedd CCNF yn unig (‘pob canser y croen nad yw’n felanoma’). Mae pob tiwmor ar gyfer canserau’r croen prin yn cael eu cofrestru’n llawn, felly mae digwyddedd canser y croen nad yw’n felanoma prin yn cyfrif pob tiwmor cofrestredig ac nid y PPPA cyntaf yn unig. Mae cyfanswm digwyddedd NMSC yn cynnwys y digwyddiad cyntaf ym mhob blwyddyn o ganserau ceratinocyt (BCC/cSCC) a phob tiwmor cofrestredig o ganserau’r croen prin. Mae’n bosibl i berson gael digwyddiad cyntaf o BCC a cSCC yn yr un flwyddyn; yn yr achos hwn, byddai’r ddau ddigwyddiad yn cael eu cyfrif.

Cyflwynir data i’r UGGCC o amrywiaeth o ddarparwyr gofal iechyd a gwasanaethau eraill (er enghraifft, labordai patholeg, cyfarfodydd tîm aml-ddisgyblaethol, data gweithgaredd cleifion mewnol, radioleg, data radiotherapi, tystysgrifau marwolaeth, a chofrestrfeydd canser eraill yn y DU). Gan fod y data’n dod o ffynonellau gwahanol, gallai ansawdd a chywirdeb y data a gyflwynir amrywio. Cafodd cofrestru digwyddiad cyntaf o unrhyw diwmor CCNF ei wneud yn orfodol o 2016 yng Nghymru felly mae cyflawnder data tiwmorau CCNF cyn 2016 yn wael. Gan i gofrestru ond cael ei wneud yn orfodol yn 2016, mae’n bosibl na chafodd y tiwmor cyntaf erioed ei gofnodi. Yn yr achos hwn bydd y tiwmor cofrestredig cyntaf fesul claf yn cael ei gofnodi fel y tiwmor cyntaf erioed.

Mae UGGCC yn cydgrynhoi ac yn dilysu’r data ar gyfer pob claf, wedi ei ddiffinio fel isafswm set ddata cofrestru canser. Mae isafswm set ddata cofrestru canser wedi cael ei ddefnyddio i nodi’r tiwmor cyntaf erioed neu gofrestredig cyntaf fesul claf. Mae data adroddiad patholeg wedi cael ei ddefnyddio i nodi tiwmorau CCNF dilynol. Mae data ar gael ar gyfer Cymru o 2016 i’r flwyddyn gofrestru fwyaf diweddar 2020.

Cymerwyd y cipolwg o’r gronfa ddata cofrestru canser ar gyfer y cyhoeddiad hwn yn  Chwefror 2024 ar gyfer cleifion gafodd ddiagnosis o’r flwyddyn 2016 i’r flwyddyn gyfrestru fwyaf diweddar, 2020.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynhoeddi digwyddedd canser y croen nad yw’n felanoma yn ôl cyfnodau unigol a chyfnodau treigl o dair blynedd ar gyfer dynion, menywod a phersonau o 2016 i 2020 ar gyfer:

  • Cymru
  • Byrddau iechyd
  • Awdurdodau lleol
  • Pumedau amddifadedd ardal

Cyflwynir cyfrifon, cyfraddau crai a chyfraddau wedi’u safoni yn ôl oed Ewropeaidd (EASR) ar gyfer bob un o’r dadansoddiadau uchod ar gyfer pob canser y croen nad yw’n felanoma (Pob CCNF), ynghyd â dau is-fath CCNF wedi eu dosbarthu yn ôl neoplasmau malaen: carsinoma celloedd gwaelodol (BCC) a charsinoma celloedd cennog croenol (cSCC).

Yn wahanol i fathau eraill o ganser, gall CCNF ddatblygu ar unrhyw safle ar y corff. Cyflwynir digwyddedd CCNF yn ôl lleoliad tiwmor (grŵp safle) o 2016-2020 ar gyfer Cymru ar gyfer dynion a menywod yn ôl band oedran blwyddyn unigol a phum mlynedd.

Cyflwynir cyfrifon ar gyfer yr uchod ar gyfer pob canser y croen nad yw’n felanoma, ac is-fathau BCC a cSCC.

Ceir rhestr o fathau o ganser y croen nad yw’n felanoma yn y cyhoeddiad hwn ynghyd â chodau a dadansoddiadau ICD-10 yn Atodiad A. Mae rhestr bellach o is-fathau CCNF, gyda chodau morffoleg ategol hefyd ar gael yn Atodiad A.

Nodweddion a nodir

Ardal ddaearyddol

Mae dadansoddiad a gyflwynir yn ôl ardal ddaearyddol, sef awdurdod lleol, bwrdd iechyd ac ar lefel Cymru gyfan, yn seiliedig ar yr ardal y mae unigolyn yn preswylio ar adeg diagnosis.

Ceir saith bwrdd iechyd yng Nghymru.  O 1 Ebrill 2019, mae’r rhain fel a ganlyn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Cyn 1 Ebrill 2019, roedd y saith bwrdd iechyd fel a ganlyn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Ar 1 Ebrill 2019, cafodd y cyfrifoldeb dros wasanaethau gofal iechyd yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ei drosglwyddo i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf (bellach wedi ei ailenwi’n Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg) o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (bellach wedi ei ailenwi’n Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe), gyda ffin y bwrdd iechyd yn symud yn unol â hynny.

Yn hyn o beth, newidiodd enwau’r byrddau iechyd i adlewyrchu’r ffiniau daearyddol newydd.

Nodir pob dadansoddiad yn y cyhoeddiad hwn gan ddefnyddio ffiniau presennol y byrddau iechyd, yn cynnwys y blynyddoedd cyn 1 Ebrill 2019.

Mae 22 ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Cawsant eu sefydlu ym 1996 ac maent o fewn ardaloedd y byrddau iechyd.

Amddifadedd ardal

Mae dadansoddiad yn ôl amddifadedd yn cael ei gyflwyno yn ôl pumedau amddifadedd.  Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw mesur swyddogol amddifadedd perthynol ar lefel ardal fach yng Nghymru. Mae MALlC yn cynnwys wyth maes amddifadedd ar wahân: incwm; cyflogaeth; iechyd; addysg; tai; mynediad at wasanaethau; amgylchedd; a diogelwch cymunedol.

Defnyddir MALlC i roi gradd amddifadedd gyffredinol ar gyfer pob un o’r 1,909 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOA) yng Nghymru ac i roi graddau ar gyfer y meysydd amddifadedd ar wahân ar gyfer pob un o’r LSOA.

Cyfrifir graddau amddifadedd ar gyfer pob LSOA yng Nghymru.  Mae gan un ardal radd amddifadedd uwch nag un arall os yw cyfran y bobl sydd yn byw yno sydd wedi eu nodi’n ddifreintiedig yn uwch.  Mae’r ardal fwyaf difreintiedig yn cael gradd un a’r ardal leiaf difreintiedig yn cael gradd 1,909.  Mae MALlC yn mesur ecolegol lle gall unigolion mewn ardal (LSOA yn yr achos hwn) amrywio.  Nid yw pawb sydd yn byw mewn ardal ddifreintiedig yn ddifreintiedig ac nid yw pob person difreintiedig yn byw mewn ardaloedd difreintiedig.  Nid yw ardal ei hun yn ddifreintiedig, amgylchiadau a ffordd o fyw pobl sydd yn byw yno sydd yn effeithio ar ei raddau amddifadedd.

Mae pob un o’r wyth maes yn seiliedig ar ystod o ddangosyddion gwahanol.  Mae mynegeion y meysydd wedi eu pwysoli a’u cyfuno mewn mynegai cyffredinol o amddifadedd lluosog.

Defnyddir y ‘sgôr cyffredinol’ (pob maes) ar gyfer holl gyhoeddiadau Ystadegau Swyddogol UGGCC. Mae’r pumedau amddifadedd (1 = lleiaf difreintiedig; 5 = mwyaf difreintiedig) yn seiliedig ar y boblogaeth, gyda nifer gyfartal o breswylwyr ym mhob pumed, yn hytrach na nifer gyfartal o LSOA ym mhob pumed.   Mae’r cyhoeddiad hwn yn defnyddio amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn 2014 i neilltuo nifer gyfartal o breswylwyr ym mhob pumed, gyda graddau amddifadedd LSOA o MALlC 2019.

Mae mwy o fanylion am MALlC ar gael ym mynegai amddifadedd lluosog Cymru 2019.

Mesurau a nodir

Cyfrif

Yn y cyhoeddiad hwn, mae hyn yn cyfeirio at nifer y diagnosis o ganser dros gyfnod penodol o amser.  Mae achosion o ganser yn cael eu cyfrifo ar gyfer pob tiwmor sylfaenol ar wahân; gall un person gael diagnosis o fwy nag un tiwmor sylfaenol, fyddai wedyn yn ymddangos ddwywaith yn yr ystadegau mynychder; nid yw tiwmorau eilaidd a chanser blaenorol yn dychwelyd yn cael eu cyfrif fel achosion newydd.

Cyfraddau crai

Cyfradd fras yw nifer y digwyddiadau mewn poblogaeth dros gyfnod penodol o amser, wedi ei mynegi’n aml fel nifer y digwyddiadau fesul 100,000 o’r boblogaeth.  Mae’r rhifiadur (nifer y digwyddiadau) a’r enwadur (amcangyfrif poblogaeth canol-blwyddyn) yn seiliedig ar yr un ardal ddaearyddol a’r un cyfnod o amser.

Diffinnir y gyfradd fras fel cyfanswm y cofrestriadau fesul 100,000 o’r boblogaeth, neu:

Cyfanswm y cofrestriadauCyfanswm y boblogaeth×100,000\frac{\text{Cyfanswm y cofrestriadau}}{\text{Cyfanswm y boblogaeth}} \times 100{,}000

Ni chafodd y cyfraddau crai eu cyfrifo os oedd llai na thri digwyddiad.

Cyfraddau wedi eu safoni yn ôl oed

Mae mynychder canser yn amrywio’n fawr gydag oed.  Mae angen rheoli gwahaniaethau yn strwythur oed poblogaethau rhwng ardaloedd daearyddol neu dros amser felly i roi cymariaethau diduedd o fynychder.  Mae safoni yn ôl oed yn caniatáu cymharu cyfraddau ar draws poblogaethau gwahanol tra’n rhoi cyfrif am strwythurau oed gwahanol y poblogaethau hynny.

Cyflawnir hyn trwy gymhwyso cyfraddau mynychder sy’n benodol i oed a rhyw a arsylwir ar gyfer pob poblogaeth i boblogaeth safonol.  Caiff y rhain wedyn eu cyfansymio i roi cyfradd gyffredinol fesul 100,000 o’r boblogaeth.  Y boblogaeth safonol a ddefnyddir yma yw’r Boblogaeth Safonol Ewropeaidd (ESP).  Cyflwynwyd y fersiwn gyntaf o’r ESP ym 1976, a’r ail fersiwn yn 2013. Mae’r cyhoeddiad hwn, ynghyd â holl gyhoeddiadau UGGCC ers mis Mehefin 2014 wedi defnyddio ESP 2013.  Ni ellir cymharu cyfraddau wedi eu safoni yn ôl oed gan ddefnyddio poblogaethau safonol gwahanol.

Er bod gan ESP 2013 gategorïau ar wahân ar gyfer 90-94 a 95+, mae UGGCC yn cyfuno’r rhain mewn un categori ar gyfer 90+.  Mae hyn am nad yw data poblogaeth ar gael yn gyson ar gyfer grŵp oedran 95+ ar gyfer bob blwyddyn a daearyddiaeth.  Cynhaliodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) astudiaeth yn edrych ar effaith defnyddio terfyn oed uchaf o 85+, 90+ neu 95+ ar gyfer cyfrifo cyfraddau marwolaethau wedi eu safoni yn ôl oed ac ni chanfuwyd unrhyw wahaniaethau arwyddocaol rhwng y cyfraddau a gyfrifwyd gyda therfynau oed uchaf o 90+ a 95+.  Gan nad yw amcangyfrifon poblogaeth ar gael yn eang ar gyfer grŵp 95+ ar hyn o bryd, maent yn argymell defnyddio’r terfyn oed uchaf o 90+ ar gyfer ESP 2013.

Defnyddir terfyn oed isaf o 0-4 oed ar gyfer yr holl gyfraddau Ewropeaidd wedi eu safoni yn ôl oed yn y cyhoeddiad hwn.  Mae hyn yn unol â’r cofrestrfeydd canser eraill yn y DU ac Iwerddon.

Ni chafodd cyfraddau wedi eu safoni yn ôl oed eu cyfrifo os oedd llai na 10 digwyddiad. Felly, rhoddir y gyfradd mynychder wedi ei safoni yn uniongyrchol gan ddefnyddio’r Boblogaeth Safonol Ewropeaidd trwy:

IASRE=kASRk×PkPk\text{I}\frac{\text{ASR}}{E} = \frac{\sum^{k} \text{ASR}_k \,\times P_k} {\sum P_k}

gyda:

  • ASRk=rkpk×100,000\text{ASR}_k = \frac{r_k}{p_k} \times 100{,}000 – y gyfradd mynychder a arsylwir yn grŵp oedran k
  • rkr_k = cofrestriadau yn grŵp oedran k
  • pkp_k = poblogaeth yn grŵp oedran k
  • kk = 0-4, 5-9, … , 85-89, a 90 ac yn hŷn
  • PkP_k = poblogaeth safonol Ewropeaidd yn grŵp oedran k

Mae dosbarthiad Poblogaeth Safonol Ewropeaidd 2013 ar gael yn Atodiad B.

Cyfyngau hyder

Cynhyrchir cyfyngau hyder ar y cyd ag EASRs ar gyfer dadansoddiad daearyddol ac amddifadedd, ac ynghyd â chyfraddau crai ar gyfer dadansoddi oed.

Mae cyfyngau hyder yn arwydd o’r amrywiad naturiol a ddisgwylir ynghylch amcangyfrif a dylid eu hystyried wrth asesu neu ddehongli amcangyfrif.  Mae maint y cyfwng hyder yn dibynnu ar nifer y digwyddiadau a maint y boblogaeth y deilliodd y digwyddiadau ohoni.  Yn gyffredinol, mae amcangyfrifon yn seiliedig ar nifer fach o ddigwyddiadau a phoblogaethau bach yn debygol o fod â chyfyngau hyder ehangach.  I’r gwrthwyneb, mae amcangyfrifon yn seiliedig ar boblogaethau mawr yn debygol o fod â chyfyngau hyder mwy cul.

Yn y cyhoeddiad hwn, rydym yn cyfrifo cyfyngau hyder o 95 y cant.  Mae hyn yn cynrychioli ystod o werthoedd y gallwn fod 95 y cant yn hyderus eu bod yn cynnwys yr amcangyfrif sylfaenol ‘gwirioneddol’.

Mae cyfyngau hyder a gyfrifir ynghyd ag EASR yn defnyddio’r dull dosbarthu gama wedi ei addasu gan Tiwari et al. (2006). Mae hwn yn addasiad o’r fformiwla ar gyfer terfyn hyder uchaf y cyfyngau hyder gwreiddiol ar gyfer cyfraddau wedi eu safoni’n uniongyrchol yn seiliedig ar y dosbarthiad gama, fel y cynigir gan Fay a Feuer (1997). Mae cyfyngau hyder sydd yn cael eu cyfrifo ar y cyd â CRs yn defnyddio dull Byar pan mae’r rhifiadur (cyfrif) yn ddeg o leiaf a’r dull chi-sgwâr (Armitage a Berry, 2002) pan fydd y rhifiadur yn llai na 10.

Gwneir cymariaethau yn aml rhwng dau amcangyfrif neu fwy, er enghraifft rhwng ardaloedd neu gyfnodau amser gwahanol.  Weithiau mewn achosion o’r fath cynhelir profion ystadegol trwy gymharu cyfyngau hyder yr amcangyfrifon i weld a ydynt yn gorgyffwrdd.  Mae cyfyngau hyder nad ydynt yn gorgyffwrdd yn cael eu hystyried yn arwyddocaol wahanol yn ystadegol. Er ei fod yn ddiogel cymryd bod cyfyngau hyder nad ydynt yn gorgyffwrdd yn dangos gwahaniaeth arwyddocaol yn ystadegol, nid yw bob amser yn wir nad yw cyfyngau hyder sydd yn gorgyffwrdd yn gwneud hynny. Ymagwedd mwy union gywir yw cyfrifo cymhareb y ddau amcangyfrif, neu’r gwahaniaeth rhyngddynt, a llunio prawf neu cyfwng hyder yn seiliedig ar yr ystadegyn hwnnw. Nid yw dulliau o’r fath wedi eu cynnwys yn y canllaw technegol hwn, ond gellir dod o hyd iddynt mewn gwerslyfr safonol.

Mae dadansoddiad daearyddol yn y cyhoeddiad hwn yn dangos a yw’r EASR yn arwyddocaol wahanol o’i gymharu â chyfradd Cymru ar gyfer yr ardal, safle’r canser a’r cyfnod o amser.  Yn yr achos hwn, nodir gwahaniaeth arwyddocaol o ran a yw’r cyfyngau hyder ar gyfer yr ardal benodol yn gorgyffwrdd â’r cyfyngau hyder yn ymwneud ag amcangyfrif Cymru ar gyfer safle’r canser a’r cyfnod o amser neu beidio. 

Ystyrir cyfyngau hyder nad ydynt yn gorgyffwrdd yn ystadegol arwyddocaol. Nid yw gorgyffwrdd cyfyngau hyder bob amser yn dangos gwahaniaeth nad yw'n ystadegol arwyddocaol.

Poblogaethau

Defnyddir amcangyfrifon poblogaethau canol-blwyddyn SYG o’r cyfnodau amser perthnasol fel yr enwadur ar gyfer cyfrifiadau cyfraddau. Mae canllawiau llawn ar y fethodoleg a ddefnyddir gan y SYG i gyfrifo amcangyfrifon poblogaeth ar gael yma.

Nid oedd amcangyfrifon canol-blwyddyn ar gyfer 2021 ar gael adeg y dadansoddiad. Defnyddiwyd poblogaethau 2020 i ddirprwyo dros boblogaethau 2021.

Nodyn: Defnyddir amcangyfrifon poblogaeth wedi’u hailsylfaenu fesul awdurdod lleol o ganol 2012 i ganol 2020 yn enwadur ar gyfer y dadansoddiad daearyddol i gyd-fynd â chyfrifiad 2021. Gellir cael manylion am ail-sylfaenu’r amcangyfrifon canol blwyddyn yn y fan hon.

Nid oedd amcangyfrifon poblogaeth wedi’u hailsylfaenu yn ôl ardaloedd cynnyrch ehangach is o ganol 2011 i ganol 2020 ar gael adeg cynnal y dadansoddiad. Mae’r dadansoddiad amddifadedd ar gyfer y cyfnod hwn felly’n defnyddio enwadur gwahanol ar gyfer cyfrifiadau cyfraddau, gan gynhyrchu amcangyfrif ar gyfer Cymru sy’n wahanol i’r dadansoddiad daearyddol.

Perthnasedd

Awdurdodir rhyddhau ystadegau swyddogol gan UGGCC yn ôl y gyfraith trwy:

  • Orchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol Cyn eu Rhyddhau (Cymru) 2009
  • Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2013 a wnaed o dan adran 65(7) o Ddeddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007

Rydym yn credu mai prif ddefnyddwyr ystadegau yn ymwneud â mynychder canser yw:

  • Y cyhoedd a grwpiau cymunedol
  • GIG Cymru yn gyffredinol, a Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau, a Grŵp Gweithredu ar Ganser Cymru y GIG a Rhwydwaith Canser Cymru, yn ogystal â thimau eraill yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a chyrff cyhoeddus cenedlaethol a lleol eraill
  • Cyrff proffesiynol, meddygol o bob disgyblaeth, a gwneuthurwyr polisïau
  • Ysgrifennydd y Cabinet, Gweinidogion a’u gweision sifil
  • Adrannau eraill y llywodraeth
  • Aelodau’r Senedd a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau
  • Y trydydd sector ac elusennau
  • Y Cyfryngau
  • Myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion – i ddarparu data cyfeirio gwerthfawr ar gyfer academyddion ac ymchwilwyr i ymgysylltu ag ymchwil yn ymwneud â chanser, yn cynnwys cyfranogiad uniongyrchol UGGCC mewn cydweithrediadau ymchwil
  • Y sector preifat

Rydym yn annog defnyddwyr yr ystadegau i gysylltu â ni i roi gwybod i ni sut maent yn defnyddio’r data, gweler y manylion cyswllt ar frig y dudalen hon. Dylid cydnabod Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru os ydych yn atgynhyrchu deunydd yn y ddogfen hon neu gynnyrch ategol.

Cywirdeb

Cofrestru canser

Mae cofrestru achosion o ganser yn broses ddeinamig o ran bod y gronfa ddata bob amser ar agor ac yn newid.  Mae’r gronfa ddata yn ddeinamig mewn nifer o ffyrdd:

  • bydd achosion newydd o ganser yn cael eu cofrestru: gall hyn gynnwys cofrestriadau “hwyr” newydd, lle mae achos yn cael ei gofrestru ar ôl i’r gofrestrfa ganser gyhoeddi’r hyn yr oeddent yn credu ar y pryd oedd y canlyniadau cymharol gyflawn ar gyfer blwyddyn benodol
  • gellir diwygio cofnodion canser: er enghraifft byddai côd y safle’n cael ei addasu os oes gwybodaeth ddiweddarach, mwy cywir yn dod ar gael
  • gellir dileu cofnodion canser, er bod hyn yn gymharol anarferol

Yn debyg i gofrestrfeydd canser mewn gwledydd eraill, gall cofrestriadau canser yng Nghymru gymryd hyd at bum mlynedd ar ôl diwedd blwyddyn galendr benodol i gyrraedd cyflawnder o 100%, oherwydd croniad parhaus cofrestriadau hwyr, diwygiadau a dileu.

Rhoddodd Gymru system cofrestru canser newydd o’r enw CATRIN ar waith yn 2015.  Mae hon yr un peth â system ENCORE a ddefnyddir yn Public Health England, sydd â systemau dilysu cofrestriadau cynwysedig.  Mae’r rhaglen foderneiddio hon wedi gwella rhannu data ar draws ffiniau yn arbennig.  Rhoddodd y broses symud data bwyslais penodol ar leihau dyblygu cofrestriadau oedd yn bodoli yng nghronfeydd data cofrestrfeydd Cymru a Lloegr.  Cynhaliwyd ymarfer sicrhau ansawdd a dad-ddyblygu i resymoli’r cofrestriadau canser ar draws y ddwy wlad.  Felly, gallai hyn ddangos gostyngiad mewn mynychder.

Mae cofrestriadau canser yn cydymffurfio â fframwaith sicrwydd ansawdd sydd yn cynnwys cyfres o wiriadau ansawdd a gynhelir ar adegau amrywiol yn ystod y flwyddyn gofrestru e.e. gwiriadau chwarterol a diwedd blwyddyn.  Mae’r rhain yn gwirio cysondeb data y safle canser, rhyw a histoleg cysylltiedig yn ogystal â gwiriadau dilysrwydd dyddiadau, er enghraifft, i wirio cyfuniadau annilys ar gyfer ymddygiad a safle/histoleg; sicrhau nad yw dyddiad mynychder ar ôl dyddiad y farwolaeth.  Mae’r gwiriadau hyn yn cyd-fynd â’r rheiny a gyhoeddwyd yn 2018 gan y Rhwydwaith Cofrestrfeydd Canser Ewropeaidd (ENCR).

Mae ein holl gynnyrch yn cynnwys gwybodaeth am gwmpas, amseru a daearyddiaeth.

Ar gyfer y cynnyrch hwn, mae canserau’n cael eu codio gan ddefnyddio ICD-10 o 1 Ionawr 2001 i 30 Mehefin 2012 a’u codio gan ddefnyddio ICD-10v4 wedi hynny.  Mae codio ICD-10 ar gyfer canser yn seiliedig ar natur a safle anatomegol y canser.

Unwaith y mae’r cofnodion canser disgwyliedig ar gyfer unrhyw flwyddyn gofrestru wedi cael eu dilysu, cymerir cipolwg o’r data er mwyn sicrhau bod set gyson o ddata y tu ôl i’r ystadegau swyddogol am gyfnod o 12 mis.  Cymerir cipolwg dilynol o’r data yn fisol a gellir ei ddefnyddio mewn cyhoeddiadau canser pellach, ymholiadau a chwestiynau seneddol.

Pan fydd UGGCC yn cyflwyno cofrestriadau ar gyfer y flwyddyn adrodd nesaf, gallant hefyd gyflwyno “cofrestriadau hwyr” ar gyfer blynyddoedd blaenorol.  Os yw unrhyw gofrestriadau “hwyr” ar gyfer blynyddoedd cynharach wedi llwyddo yn yr holl wiriadau ansawdd, byddent yn cael eu cynnwys yn y set ddata ddiwygiedig o ganlyniad.  Mae hyn yn arwain at wahaniaethau bach yn nifer sylfaenol y cofrestriadau canser ar gyfer adroddiadau blaenorol, er nad yw’r newidiadau hyn yn debygol o gael effaith ystyrlon ar fynychder canser.

Cymerwyd y cipolwg o’r gronfa ddata cofrestru canser ar gyfer y cyhoeddiad hwn ym mis Chwefror 2024.

Os yw data anghywir yn cael ei gyhoeddi, ac mae hynny’n annhebygol, byddai diwygiadau’n cael eu gwneud a’r defnyddwyr yn cael eu hysbysu yn unol â’r Côd Ymarfer.

Amseroldeb a phrydlondeb

Yn hanesyddol, mae UGGCC wedi cyhoeddi data fel mater o drefn ar ddiagnosis newydd o ganser (mynychder) o fewn 18 mis o ddiwedd y flwyddyn galendr.  Mae’r treigl amser rhwng cwblhau’r data a’r data’n dod ar gael, yr amser a gymerir i brosesu ac uno’r holl gofrestriadau canser ar gyfer y cleifion hynny sy’n preswylio yng Nghymru yn un cofnod ar gyfer bob tiwmor gan ddefnyddio’r ffynonellau data a ddarperir i UGGCC, yn unol â rheolau rhyngwladol caeth codio, dosbarthu a nodi cam adeg diagnosis.

Mae’r cyhoeddiad penodol hwn wedi’i ohirio wrth i’r timau cofrestru a dadansoddi yn UGGCC gael eu heffeithio gan COVID-19 gydag adnoddau wedi’u hadleoli i gefnogi ymateb PHW i’r pandemig.

Mae’r holl gynnyrch yn cydymffurfio â’r Côd Ymarfer trwy gyhoeddi’r dyddiad cyhoeddi ymlaen llaw trwy’r calendr o ddigwyddiadau i ddod ar dudalen Ystadegau ac ymchwil Llywodraeth Cymru.  Yn ogystal, os oes angen gohirio cyhoeddiad bydd hyn yn cael ei ddatgan a’r rheswm dros y newid yn cael ei esbonio’n llawn, fel y nodir yn y Côd Ymarfer.

Hygyrchedd ac eglurder

Bydd yr ystadegau’n cael eu cyhoeddi mewn ffordd hygyrch, drefnus, wedi ei chyhoeddi ymlaen llaw ar wefan Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru am 9:30am ar y dyddiad cyhoeddi.  Byddwn hefyd yn cyhoeddi’r cynnyrch ar Twitter a Facebook ac i’n rhanddeiliaid ar ebost.  Mae’r holl gynnyrch ar gael ac am ddim i’w lawrlwytho.

Anfonir yr Ystadegau Swyddogol ar gyfer “Mynychder canser y croen nad yw’n felanoma yng Nghymru, 2016 i 2020” at nifer o bobl unigol ar y rhestr cyn cyhoeddi bum diwrnod gwaith cyn y datganiad yn unol â Gorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol Cyn eu Rhyddhau (Cymru) 2009. Mae’r unigolion ar y rhestr cyn cyhoeddi ar dudalen y cyhoeddiad ar y we.

Ein nod yw defnyddio Saesneg/Cymraeg clir yn ein cynnyrch a’u bod yn cydymffurfio â pholisi hygyrchedd Iechyd Cyhoeddus Cymru.  Yn ogystal, mae’r ystadegau i gyd yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg.  Mae mwy o wybodaeth yn ymwneud â’r ystadegau ar gael trwy ebostio [email protected].

Cymharedd a chysondeb

Gan fod dulliau gwahanol o gyfrif CCNF (digwyddiad cyntaf erioed a digwyddiad cyntaf y berson y flwyddyn), efallai na fydd modd cymharu’r cyhoeddiad hwn â data o Gogledd Iwerddon, Lloegr a’r Alban ar achosion o ganser y croen nad yw’n felanoma.

Er nad yw UGGCC yn dal data achosion canser am drigolion yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr, gellir lleoli data ar gyfer CCNF o’r canlynol:

Mae manylion cofrestrfeydd canser yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon ar gael ar wefan Cymdeithas Cofrestrfeydd Canser y Deyrnas Unedig ac Iwerddon

Am ddata mynychder cymharol mae’r cymariaethau rhyngwladol diweddaraf ar gael yn Cancer in Five Continents.

Mae UGGCC ar hyn o bryd yn llunio dangosyddion perfformiad 2021 UKIACR.  Ceir mwy o wybodaeth yn ymwneud â chyflawnder data ac ansawdd data cofrestru canser yn adroddiadau dangosyddion perfformiad UKIACR.

Deddfwriaeth

Mae UGGCC yn cydymffurfio â chanllawiau canser ENCR ar gyfer cofrestru diagnosis o ganser ymysg preswylwyr Cymru.

Yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data, mae prosesu data cleifion/defnyddwyr gwasanaeth yn gyfreithlon at ddibenion ar wahân i’r hyn sydd yn angenrheidiol ar gyfer darparu gofal yn uniongyrchol yn gofyn am fodloni’r amodau canlynol:

  • Cydsyniad penodol y claf/defnyddiwr y gwasanaeth ar gyfer prosesu
  • Awdurdodiad penodol yn ôl statud
  • Cymeradwyaeth yn unol ag Adran 251 o Ddeddf y GIG 2006

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal nifer o weithgareddau na ellir eu dosbarthu fel gofal uniongyrchol, ond lle byddai cael cydsyniad penodol yn anymarferol neu byddai’n peryglu integredd y gweithgaredd perthnasol.  Mae enghreifftiau yn cynnwys:

  • Gwerthuso rhaglenni sgrinio
  • Cofrestru canser
  • Cofrestru anomaleddau cynhenid

Yr hyn a elwir yn gymeradwyaeth ‘Adran 251’, felly, yw’r dull mwyaf priodol o hyd o sicrhau bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data wrth gynnal prosesu o’r fath.  Mae angen cael cymeradwyaeth o’r fath ar gyfer gweithgareddau newydd a’i hadnewyddu’n flynyddol ar gyfer gweithgareddau presennol.

Cafodd Adran 251 ei sefydlu i roi sylfaen gyfreithiol ddiogel ar gyfer datgelu a phrosesu gwybodaeth gyfrinachol yn y GIG lle nad yw’n bosibl defnyddio gwybodaeth ddi-enw na chael cydsyniad penodol.  Sefydlwyd dull o alluogi’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd i ymarfer pwerau cymeradwyo yn unol ag Adran 251, gyda chyngor y Bwrdd Llywodraethu Gwybodaeth Cenedlaethol (NIGB) a’i Bwyllgor Moeseg a Chyfrinachedd (ECC).  Mae’r dulliau a weithredwyd gan NIGB a’i ECC hefyd yn berthnasol i Gymru.

Yn unol â’r Rheoleiddiad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), rydym yn dilyn:

  • Erthygl 6 (1) e – mae prosesu yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth ymarfer awdurdod swyddogol a roddir i’r rheolwr
  • Erthygl 9 (2) h – mae prosesu yn angenrheidiol at ddibenion meddyginiaeth ataliol neu alwedigaethol, ar gyfer asesu gallu’r cyflogai i weithio, diagnosis meddygol, darparu gofal iechyd neu gymdeithasol neu drin neu reoli systemau a gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol ar sail cyfraith Undeb neu Aelod-wladwriaeth neu yn unol â chontract gyda gweithiwr iechyd proffesiynol ac yn gaeth i’r amodau a’r amddiffyniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff 3.

Mae’r prif bolisi ar ganser yng Nghymru wedi ei nodi yng Nghynllun Cyflawni ar gyfer Canser 2016-2020 Llywodraeth Cymru.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.  Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant ar gyfer Cymru.  Mae’r rhain ar gyfer Cymru fwy cyfartal, ffyniannus, cydnerth, iachach a mwy cyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.  Yn unol ag adran (10) (1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru:

  • gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso at y diben o fesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau Llesiant
  • cyflwyno copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.  Nodwyd y 46 dangosydd cenedlaethol ym mis Mawrth 2016

Gwybodaeth am ddangosyddion a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig – Sut ydych yn mesur cynnydd cenedl? – Dangosyddion Cenedlaethol

Mwy o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi eu cynnwys yn y cyhoeddiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Mae UGGCC yn cydymffurfio â chanllawiau niferoedd bach ar gyfer mynychder canser Cymdeithas Cofrestrfeydd Canser y Deyrnas Unedig ac Iwerddon (UKIACR); h.y. os yw’r cyfrifiad mynychder canser o lai na phump yn cael ei arsylwi mewn unrhyw gell gyda’r boblogaeth mewn perygl o fod yn llai na 1,000, yna mae’r gwerth yn cael ei atal.  Mae UGGCC hefyd yn cydymffurfio â chanllawiau rheoli datgeliad y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer ystadegau marwolaethau.

Mwy o fanylion

Mae digwyddedd canser y croen nad yw’n felanoma yn gyhoeddiad ystadegau swyddogol newydd a gynhyrchir gan UGGCC. Gall y cyhoeddiad hwn gael ei gyhoeddi ar y cyd â chyhoeddiadau ystadegau swyddogol digwyddedd canser gan UGGCC yn y dyfodol.

Mynychder canser yw un o’r tri cyhoeddiad ystadegau swyddogol sydd yn cael eu cynhyrchu’n rheolaidd gan UGGCC, ynghyd â goroeiad canser a marwolaethau canser.

Atodiad A

Map o fathau o ganser CCNF

Map o fathau o ganser NMSC

Disgrifiad cod ICD-10

Disgrifiad cod ICD-10

Atodiad B

Poblogaeth Safonol Ewropeaidd 2013

Poblogaeth Safonol Ewropeaidd 2013