Canllaw technegol anghydraddoldebau mewn cyfraddau canser yng Nghymru yn ôl nodweddion cymdeithasol-ddemograffig, 2011-2020
Mae’r canllawiau hyn yn gysylltiedig â:
Cyflwyniad
Mae’r ddogfen hon yn rhoi trosolwg o’r broses casglu data, ansawdd y data a’r fethodoleg a ddefnyddiwyd wrth ddatblygu’r dadansoddiad o anghydraddoldebau a chanser. Mae hefyd yn rhoi diffiniadau, nodiadau ar gyfer dehongli, a manylion am ble i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ystadegau canser yng Nghymru.
Cafodd y gwaith hwn ei wneud gan Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru (UGGCC) Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cafodd y dadansoddi ei wneud drwy ddefnyddio Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) sydd wedi’i leoli ym Mhrifysgol Abertawe i gysylltu mynychder canser a data Cyfrifiad y SYG. Dadansoddodd y gwaith hwn ‘bob canser gyda’i gilydd ac eithrio canser y croen nad yw’n felanoma (CCNF)’ a phedwar prif fath o ganser: y fron fenywaidd, y colon a’r rhefr (y coluddyn), y prostad a’r ysgyfaint. Mae ‘mathau eraill o ganser’ yn cyfeirio at bob math o ganser ac eithrio CCNF a’r rhai yr adroddir arnynt ar wahân (h.y. canserau’r fron fenywaidd, yr ysgyfaint, y prostad, a’r colon a’r rhefr).
Cafodd y dadansoddiad newydd hwn ei wneud i gysylltu data canser a data’r Cyfrifiad gyda’i gilydd er mwyn nodi a dadansoddi ystod o newidynnau nad oeddent ar gael o’r blaen wrth adrodd ar ddata canser yng Nghymru. Nod y gwaith oedd adnabod anghydraddoldebau ymhlith cleifion canser yng Nghymru sydd â gwahanol nodweddion cymdeithasol-ddemograffig gan gynnwys ethnigrwydd, galwedigaeth, deiliadaeth yr aelwyd a gorlenwi mewn aelwydydd. Mae ymchwilio i wahanol nodweddion a allai arwain at anghydraddoldebau rhwng cleifion canser yng Nghymru yn bwysig, yn enwedig gan fod cyfraddau uwch o ganser i’w gweld mewn ardaloedd mwy difreintiedig yng Nghymru.
Ffynonellau data
Data Cofrestru Canser UGGCC
Yn unol ag un o ddyletswyddau statudol Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), prif swyddogaeth yr UGGCC yw ‘ymgymryd â gwaith casglu, dadansoddi a lledaenu gwybodaeth yn systematig am iechyd pobl Cymru, yn enwedig mynychder canser, marwolaethau a goroesiad’. Un peth sy’n hanfodol ar gyfer y ddyletswydd hon yw llunio cofrestrfa canser genedlaethol Cymru yn barhaus a chynhyrchu ystadegau swyddogol blynyddol ar mynychder canser, marwolaethau a goroesiad ym mhoblogaeth breswyl Cymru.
Mae’r gofrestrfa canser genedlaethol yn gronfa ddata fyw a deinamig lle mae data’n cael ei gyflwyno i’r UGGCC gan amrywiaeth o ddarparwyr gofal iechyd a gwasanaethau cysylltiedig. Mae’r UGGCC yn coladu ac yn dilysu’r data ar gyfer pob claf, a ddiffinnir fel set ddata ofynnol cofrestru canser.
Mynychder canser
Achos digwyddiadol o ganser yw achos sydd newydd ei ddiagnosio o neoplasm malaen: canserau a ddisgrifir gan Ddosbarthiad Rhyngwladol Clefydau (ICD) Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) fel codau ICD-10 C00 i C97 ac eithrio C44.
Nodyn: Ni chyfrifir tiwmorau eilaidd ac ailddigwyddiadau canser blaenorol fel achosion digwyddiadol newydd.
Cyflwynir allbynnau fesul cyfnod sengl (2020) neu gyfnodau deng mlynedd (2011-2020) ar gyfer dynion, menywod a phersonau a gafodd ddiagnosis rhwng 2011 a 2020 ar gyfer pob canser ac eithrio CCNF ar gyfer Cymru gyfan.
Gellir gweld rhestr o’r mathau o ganser, ynghyd â’r codau ICD-10 cysylltiedig, yr adroddir arnynt yn y cyhoeddiad hwn, yn yr Atodiad.
Camau canser
Mae camau breision wedi’u gwneud i wella cyflawnrwydd data am gamu canser, gan ganiatáu i ganser yn ôl cam yng Nghymru gael ei gyflwyno o 2011 ymlaen.
Mae’r cam adeg y diagnosis yn cyfeirio at faint y tiwmor a pha mor bell y mae wedi lledu o’r man lle tarddodd. Mesurir camau o 1 i 4; mae cam 1 yn dynodi bod y canser yn fach ac nad yw wedi lledu i unman, tra bo cam 4 yn dynodi bod y canser wedi lledu i o leiaf un organ arall yn y corff. Fel arfer, cyfeirir at gam 1 a cham 2 fel camau cynnar, tra bo cam 3 a cham 4 yn cael eu galw’n gamau hwyr adeg y diagnosis. Gall achosion o ganser a gofnodir ar y gofrestrfa canser fod â cham anhysbys am lawer o resymau. Yn gyntaf, does dim modd adnabod y cam ym mhob math o ganser ar gam (lleiafrif). O’r safleoedd canser hynny lle y gellir adnabod y cam, efallai na fydd y cam adeg y diagnosis yn hysbys am rai o’r rhesymau canlynol: gall y cleifion fod yn rhy sâl neu wrthod profion diagnostig i ganiatáu i’r cam clinigol gael ei nodi. Hefyd, efallai nad oes digon o ddata clinigol wedi’i sicrhau i allu nodi’r cam yn y gofrestr ganser.
Mae’r camau yn yr adroddiad hwn yn cael eu grwpio drwy gyfeirio at grwpiau camau cyffredinol TNM . O 2018 ymlaen, mae camau’r mwyafrif o fathau o ganser wedi’u nodi yn TNM fersiwn 8. Mae canser y llwybr cenhedlu benywaidd hefyd yn defnyddio camau FIGO sydd fel arfer yn gallu cael eu mapio’n uniongyrchol i gamau TNM. Gall newid yn fersiwn TNM arwain at ailddosbarthiad amlwg rhwng grwpiau’r camau ar gyfer rhai safleoedd tiwmor, er enghraifft, cyflwynwyd fersiwn 7 o TNM yn 2016 a arweiniodd at gynnydd yng ngham 1 a gostyngiad yng ngham 2 ar gyfer canserau’r prostad.
Ym mis Mawrth 2024, rhoddwyd newidiadau ar waith yn y gronfa ddata genedlaethol cofrestru canser i wella’r modd yr ymdrinnir â meysydd sy’n ymwneud â chamau. Y diweddariad allweddol oedd cyfuno’r meysydd STAGE_BEST a STAGE_PI_DETAIL yn un maes ar gyfer diagnosisau o 2013 ymlaen. I sicrhau cysondeb wrth adrodd ar y camau ar draws cyhoeddiadau’r DU, dim ond gwerthoedd cam ar gyfer tiwmorau y bernir bod modd adnabod eu cam drwy Ddangosyddion Perfformiad (PIs) Cymdeithas Cofrestrfeydd Canser y Deyrnas Unedig ac Iwerddon (UKIACR) y mae STAGE_BEST yn eu cynnwys erbyn hyn. O ganlyniad i’r newidiadau hyn, mae’n bosibl y bydd nifer fach o achosion a ymddangosodd yn y grwpiau cam 1-4 cyn hyn bellach yn ymddangos fel cam anhysbys.
Setiau data a dadansoddiad
Mae darn o’r data sy’n cael ei gadw gan y UGGCC yn cael ei anfon bob blwyddyn i fanc data SAIL er mwyn i ymchwilwyr gael defnyddio’r data ar ffurf ddienw. Roedd y darn a ddefnyddiwyd i nodi achosion o ganser ar gyfer y dadansoddiad hwn yn cynnwys diagnosisau canser a wnaed hyd at ac yn cynnwys 2020.
Newidiadau yn system godio ICD-10
Mae system godio ICD-10 ar gyfer canser wedi’i seilio ar natur a safle anatomegol y canser. Roedd cyhoeddiadau Ystadegau Swyddogol blaenorol UGGCC yn cael eu mapio a’u hadrodd ar sail ICD-10v0 ar gyfer pob blwyddyn diagnosio. Ond bydd cyhoeddiadau o 2022 ymlaen yn adrodd ar sail ICD-10v0 wrth ddiagnosio blynyddoedd 2001 i 2012, ac ar sail ICD-10v4 o 2013 ymlaen.
Dylid hefyd ystyried y newid mewn adroddiadau ar sail ICD-10 o 2013 ymlaen wrth archwilio data.
Cronfa ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL)
Mae cronfa ddata SAIL yn amgylchedd ymchwil dibynadwy (TRE) sy’n cael ei letya gan Brifysgol Abertawe. Cafodd ei sefydlu yn 2007, ac mae’n amgylchedd diogel a sicr i ddefnyddwyr gael mynediad at ddata dienw a chysylltadwy ar gyfer ymchwil er budd y cyhoedd. Mae data o SAIL yn mynd trwy broses gymeradwyo drylwyr i sicrhau bod y data’n cael ei drin yn ddiogel ac mae cronfa ddata SAIL yn cadw at Fframwaith y Pum Diogelwch ar gyfer TRE a gydnabyddir yn rhyngwladol (gweler adran deddfwriaeth i gael rhagor o wybodaeth).
Yn ogystal â chadw data am iechyd, fel yr hyn sy’n cael ei ddarparu gan y UGGCC, mae SAIL yn cynnwys data gweinyddol ar lefel leol ac ar lefel Cymru gyfan. Adeg y dadansoddiad hwn, y data Cyfrifiad diweddaraf oedd ar gael o fewn SAIL oedd data Cyfrifiad 2011.
Mae cronfa ddata SAIL yn caniatáu inni gysylltu nifer o setiau data drwy ddefnyddio’r maes cysylltu dienw (ALF). Dyma ddynodwr unigryw person sy’n cael ei ddyrannu i unigolion o fewn setiau data. Mae’r dynodwr hwn yn fodd i gysylltu cofnodion yn ddiogel ac yn ddienw ar draws nifer o setiau data.
Meingefn ethnigrwydd SAIL
Cafodd meingefn ethnigrwydd Cymru ei greu mewn astudiaeth dan arweiniad yr adran Gwyddor Data Poblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n dabl data sy’n defnyddio nifer o ffynonellau i sicrhau dibynadwyedd a dangoswyd ei fod yn debyg i adroddiadau Cyfrifiad 2011. Mae tabl meingefn ethnigrwydd SAIL yn cynnwys yr ALF sy’n caniatáu iddo gysylltu â data arall a ddygir i mewn i SAIL megis data cofrestru canser UGGCC.
SYG
Cyfrifiad
Cynhelir y Cyfrifiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) bob 10 mlynedd ac mae’n rhoi darlun o’r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr. Mae’r Cyfrifiad yn gofyn cwestiynau am bobl, eu haelwyd a’u cartref. Wrth wneud hynny, mae’n helpu i adeiladu ciplun manwl o’r gymdeithas.
Adeg y dadansoddiad, Cyfrifiad 2011 oedd yr un diweddaraf oedd ar gael o fewn cronfa ddata SAIL a chafodd ei ddefnyddio i gyflawni’r dadansoddiad hwn. Defnyddiwyd Cyfrifiad 2021 i gyfrifo dadansoddiadau poblogaeth yn ôl oedran a rhyw ar gyfer pob nodwedd (lle roedd modd) i gyfrifo cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran (ASRs), gan ddefnyddio poblogaethau Ewropeaidd safonol (gweler yr Atodiad), ar gyfer cleifion canser a gafodd ddiagnosis yn 2020.
Cysylltedd data
Cafodd y gwaith hwn ei wneud drwy gysylltu data cofrestrfa canser UGGCC yn ddienw â data Cyfrifiad 2011 (SYG) ar lefel unigol o fewn cronfa ddata SAIL ym Mhrifysgol Abertawe. Cysylltwyd y setiau data hyn drwy ddefnyddio’r ALF (gweler adran cronfa ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL)) i gael rhagor o wybodaeth).
Defnyddiwyd nifer o dablau o UGGCC ac SYG a’u cysylltu â’i gilydd i gyflawni’r dadansoddiad hwn. Defnyddiwyd data cofrestrfa canser UGGCC i nodi achosion o ganser sylfaenol malaen yng Nghymru rhwng 2011 a 2020. Defnyddiwyd data Cyfrifiad 2011 i nodi ethnigrwydd, deiliadaeth yr aelwyd, nifer yr ystafelloedd gwely fesul aelwyd a gwybodaeth am alwedigaethau. Defnyddiwyd meingefn ethnigrwydd SAIL i gysylltu ymhellach â data ethnigrwydd ar gyfer unrhyw achosion Cyfrifiad cychwynnol oedd heb eu cyfateb neu ar goll ar ôl cysylltu’n gyntaf â data Cyfrifiad 2011. Rhestrir y tablau a ddefnyddiwyd o bob un o’r ffynonellau hyn isod:
UGGCC
- SAIL1540V.C19_COHORT_WCSU_ALF
- SAIL1540V.C19_COHORT_WCSU_NEOPLASM
Cyfrifiad 2011
- SAIL1540V.CENW_CENSUS_WALES_ALF_2011_20200610
- SAIL1540.CENW_CENSUS_PER_HH_FAM_WALES_2011
Meingefn ethnigrwydd SAIL
- SAILW1540V.RRDA_ETHN
Unwaith yr oedd y cysylltiad data rhwng y tablau hyn wedi’i gwblhau, roedd 85% o’r achosion canser wedi’u cyfateb â data Cyfrifiad 2011 (Ffigur 1). Lle’r oedd cyfatebiaethau dyblyg, cafodd y cofnod mwyaf cyflawn o Gyfrifiad 2011 ei ddewis ar sail y newidynnau a ddadansoddwyd. Cafodd unrhyw achosion oedd heb eu cyfateb o ran deiliadaeth yr aelwyd, galwedigaeth neu orlenwi eu dyrannu i’r categori heb ei gyfateb/anhysbys. Roedd cyfanswm o 165,588 o achosion canser yng Nghymru yn cyfateb i ddata Cyfrifiad 2011 gan ddefnyddio’r ALF, a doedd dim modd cyfateb 28,058.
Ffigur 1: Proses cysylltu data o uno data mynychder canser WCISU â data Cyfrifiad 2011 SYG drwy ddefnyddio’r ALF, a’r nifer cyfatebol o achosion wedi’u cyfateb a heb eu cyfateb

Cysylltedd meingefn ethnig SAIL
O ran ethnigrwydd, roedd rhagor o wybodaeth am achosion oedd heb eu cyfateb ar yr adeg hon yn y dadansoddiad ar gael hefyd o fewn meingefn ethnigrwydd SAIL (gweler adran meingefn ethnigrwydd SAIL i gael rhagor o wybodaeth am y meingefn ethnigrwydd), felly rhoddwyd cynnig ar ragor o gyfateb (Ffigur 2). Defnyddiwyd yr ethnigrwydd a nodwyd yng Nghyfrifiad 2011 yn gyntaf ac yna cafodd unrhyw achosion oedd yn anhysbys neu heb eu mapio eu cysylltu â’r meingefn ethnig ar ALFs a chafodd yr ethnigrwydd o’r fan honno ei ddefnyddio. Mae Ffigur 2 yn dangos sut y digwyddodd cysylltedd ar gyfer pob ffactor (ethnigrwydd, deiliadaeth yr aelwyd, gorlenwi a galwedigaeth), ac yna’r cysylltedd ethnigrwydd ychwanegol a gafwyd drwy ddefnyddio meingefn ethnigrwydd SAIL.
Defnyddiwyd yr ALF i gysylltu’r data canser â’r meingefn ethnig gyda llwyddiant da. Roedd 85% o’r achosion canser wedi’u mapio i gofnod yng Nghyfrifiad 2011 ar gyfer ethnigrwydd a 97.8% wedi’u mapio i’r meingefn ethnigrwydd, gan arwain at ddim ond 4,181 o achosion (2%) heb unrhyw ethnigrwydd wedi’i gofnodi. Yn ein dadansoddiad ni, defnyddiwyd tabl y meingefn ethnigrwydd ar gyfer y 12.4% o achosion canser lle nad oedd ethnigrwydd wedi’i gofnodi yn nata Cyfrifiad 2011 neu lle nad oedd yr achos yn mapio i gofnod yng Nghyfrifiad 2011.
Canfuwyd rhai camgyfatebiadau rhwng data’r Cyfrifiad a thabl y meingefn ethnigrwydd, o bosibl am fod pobl yn uniaethu â mathau gwahanol o ethnigrwydd ar wahanol adegau yn eu bywydau. Canfuwyd hefyd fod gan rai cleifion nifer o achosion yn y Cyfrifiad yn gysylltiedig â nhw drwy ddefnyddio’r ALF felly defnyddiwyd yr achos â data mwyaf cyflawn ar gyfer y cleifion hynny pan oedd hyn yn digwydd. Gan hynny, digwyddodd rhai camgyfatebiadau oedran a rhyw hefyd rhwng data’r gofrestrfa canser a data’r Cyfrifiad.
Ffigur 2: Proses cysylltedd data ychwanegol ar gyfer cysylltedd ethnigrwydd â data digwydded canser UGGCC gan ddefnyddio meingefn ethnigrwydd SAIL, a’r nifer cyfatebol o achosion terfynol wedi’u cyfateb a heb eu cyfateb

Meysydd data
Dyma’r meysydd yng Nghyfrifiad 2011 a ddefnyddiwyd o fewn amgylchedd SAIL i gysylltu data’r Cyfrifiad â data mynychder canser:
| Dangosydd | Maes Cyfrifiad 2011 |
|---|---|
| Ethnigrwydd |
ETHPUK11 ETHN_EC_ONS_DATE_LATEST_DESC (Meingefn ethnigrwydd) |
| Gorlenwi |
RESIDENCE_TYPE = “H” PPBROOMHEW11 |
| Daliadaeth yr aelwyd |
RESIDENCE_TYPE = “H” TENHUK11 |
| Galwedigaeth |
ECOPUK11 OCCPUK113 |
Cafodd y meysydd gorlenwi a deiliadaeth yr aelwyd eu hidlo i hepgor y rhai oedd yn byw mewn sefydliadau cymunedol, megis neuaddau preswyl myfyrwyr, cartrefi gofal, carchardai, ysbytai a sefydliadau’r lluoedd arfog. Yn achos gorlenwi, defnyddiwyd y maes PPBROOMHEW11 i hidlo ar gyfer y gwahanol nifer o ystafelloedd gwely o fewn aelwydydd a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2011. O ran deiliadaeth yr aelwyd, cafodd y maes TENHUK11 ei hidlo wedyn i gynnwys gwahanol fathau o ddeiliadaeth aelwyd.
Cafodd y maes galwedigaeth ei hidlo i hepgor myfyrwyr a chafodd ei rannu rhwng y rhai a oedd yn economaidd weithredol a’r rhai oedd wedi ymddeol gan ddefnyddio’r maes ECOPUK11.
Defnyddiwyd Cyfrifiad 2021 i bennu’r enwadur wrth gyfrifo cyfraddau. O ran deiliadaeth aelwydydd, roedd categorïau Cyfrifiad 2021 wedi newid ychydig felly cafodd y mathau o ddeiliadaeth aelwyd eu hailgrwpio yn bedwar categori ehangach i ganiatáu i gyfraddau ar gyfer y dangosydd hwn gael eu cyfrifo. Yna cafodd galwedigaeth ei gategoreiddio drwy ddefnyddio’r maes OCCPUK113.
Categoreiddio nodweddion cymdeithasol-ddemograffig
Ethnigrwydd
Diffinnir ethnigrwydd fel nodwedd neu ffaith perthyn i boblogaeth neu is-grŵp sy’n cynnwys pobl sy’n rhannu tarddiad neu gefndir diwylliannol cyffredin. O fewn y Cyfrifiad, mae’r dangosydd ethnigrwydd yn dosbarthu pobl yn ôl eu grŵp ethnig a’u cefndir diwylliannol yn ôl eu canfyddiad nhw eu hunain.
Gellir gweld y categorïau ethnig a gofnodwyd gan y Cyfrifiad yn y tabl isod. Defnyddiwyd y categorïau hyn i adnabod a chreu chwe grŵp ethnig bras ar gyfer ein dadansoddiad ni:
| Dosbarthiad ethnigrwydd yr SYG | Grwpiau ethnig bras ICC |
|---|---|
|
Seisnig/Cymreig/Albanaidd/Gogledd Iwerddon/Prydeinig Gwyddelig Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig Gwyn Arall |
Gwyn |
|
Gwyn a Du Caribïaidd Gwyn a Du Affricanaidd Gwyn ac Asiaidd Cymysg Arall |
Grwpiau cymysg/aml-ethnig |
|
Indiaidd Pacistanaidd Bangladeshaidd Tsieinïaidd Asiaidd arall |
Asiaidd/Asiaidd Prydeinig |
|
Affricanaidd Caribïaidd Du Arall |
Du/Affricanaidd/Caribïaidd/Du Prydeinig |
|
Arabaidd Grŵp Ethnig Arall |
Grwpiau Ethnig Eraill |
| – | Ethnigrwydd anhysbys/heb eu cyfateb |
Ystadegau
Rhestrir yma’r amrywiol ystadegau a gyfrifwyd ar gyfer y dangosydd hwn.
Niferoedd
Cyfrifwyd niferoedd ar gyfer yr holl ystadegau isod. Cyfrifwyd niferoedd hefyd ar gyfer mynychder canser yn ôl rhyw, grŵp ethnig a math o ganser ar gyfer oedrannau:
- Llai na 35 oed
- 36-49 oed
- 50-64 oed
- 65+ oed
Cyfraddau bras
Cyfrifwyd cyfraddau bras ar gyfer pob grŵp ethnig eang yn ôl pob canser a ddadansoddwyd h.y. pob canser ac eithrio NMSC, canser y fron fenywaidd, y colon a’r rhefr, yr ysgyfaint a’r prostad, ar gyfer pobl o bob oed ar lefel Cymru gyfan ar gyfer y flwyddyn 2020.
Cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran
Cyfrifwyd cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran a’r cyfyngau hyder 95% cyfatebol ar gyfer pob grŵp ethnig eang yn ôl pob canser a ddadansoddwyd ar gyfer personau o bob oed ar lefel Cymru gyfan ar gyfer y flwyddyn 2020. Defnyddiwyd pwysoliadau oedran safonedig Ewropeaidd (gweler yr Atodiad).
Cyfrannau
Cyfrifwyd nifer o gyfrannau (%) a’u cyfyngau hyder 95% cyfatebol ar gyfer gwahanol ddadansoddiadau o’r data. Cyfrifwyd pob cyfran ar gyfer y cyfnod deng mlynedd 2011-2020.
Rhifiadur ac enwadur ethnigrwydd
Y rhifiadur a ddefnyddiwyd i gyfrifo cyfrannau ar gyfer ethnigrwydd oedd nifer y bobl a gafodd ddiagnosis o ganser rhwng 2011 a 2020 mewn grŵp ethnig penodol a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2011.
Y rhifiadur a ddefnyddiwyd ar gyfer cyfrifo cyfraddau ar gyfer ethnigrwydd oedd nifer y bobl a gafodd ddiagnosis o ganser yn 2020 mewn grŵp ethnig penodol a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2011.
Yr enwadur a ddefnyddiwyd ar gyfer cyfrifo cyfrannau ar gyfer ethnigrwydd oedd nifer y bobl a gafodd ddiagnosis o ganser rhwng 2011 a 2020.
Yr enwadur a ddefnyddiwyd ar gyfer cyfrifo cyfraddau ar gyfer ethnigrwydd oedd nifer y bobl mewn grŵp ethnig penodol a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2021.
Lle cafodd rhagor o ddadansoddiadau eu gwneud ar gyfer cyfrannau, er enghraifft yn ôl oedran neu fath o ganser, y rhifiadur oedd nifer y bobl mewn grŵp ethnig penodol â’r nodwedd ychwanegol honno (e.e. 50-64 oed neu wedi cael diagnosis o ganser y colon a’r rhefr) a’r enwadur oedd cyfanswm y bobl yn y grŵp ethnig hwnnw.
Gorlenwi yn ôl nifer yr ystafelloedd gwely
Diffinnir gorlenwi fel presenoldeb mwy o bobl mewn lle nag sy’n gyffyrddus, yn ddiogel, neu’n cael ei ganiatáu. Mae’r Cyfrifiad yn cofnodi nifer y bobl fesul ystafell wely mewn aelwyd a’r dangosydd hwn a ddefnyddiwyd yn y gwaith hwn i ddadansoddi gorlenwi mewn aelwydydd yng Nghymru. Mae’r Cyfrifiad yn diffinio nifer y personau fesul ystafell wely mewn aelwyd fel a ganlyn:
Mae nifer y personau fesul ystafell wely yn hafal i nifer y preswylwyr arferol mewn aelwyd wedi’i rannu â nifer yr ystafelloedd gwely yn llety’r aelwyd honno. Diffinnir ystafell wely fel unrhyw ystafell a fwriadwyd i’w defnyddio fel ystafell wely pan adeiladwyd yr eiddo, neu unrhyw ystafell sydd wedi’i throsi’n barhaol i’w defnyddio fel ystafell wely. Mae hefyd yn cynnwys pob ystafell a fwriadwyd i’w defnyddio fel ystafell wely hyd yn oed os nad ydynt yn cael eu defnyddio fel ystafell wely adeg y Cyfrifiad.
Mesurwyd gorlenwi drwy edrych ar gymhareb nifer y bobl mewn aelwyd i nifer yr ystafelloedd gwely yn y breswylfa honno.
Roedd dosbarthiadau Cyfrifiad 2011 a’r dosbarthiadau dilynol gan WCISU ar gyfer gorlenwi fel a ganlyn:
| Dosbarthiad SYG | Grwpiau gorlenwi ICC |
|---|---|
| Hyd at 0.5 o bersonau fesul ystafell wely | Dwy neu fwy o ystafelloedd gwely sbâr |
| Dros 0.5 a hyd at 1.0 o bersonau fesul ystafell wely | Un ystafell wely sbâr |
| Dros 1.0 a hyd at 1.5 o bersonau fesul ystafell wely | Nifer safonol o ystafelloedd gwely |
| Dros 1.5 o bersonau fesul ystafell wely | Llai o ystafelloedd gwely nag sydd eu hangen |
| – | Anhysbys/Heb eu cyfateb |
Cafodd y rhai sy’n byw mewn sefydliadau cymunedol fel cartrefi gofal eu hepgor.
Ystadegau
Rhestrir yma’r amrywiol ystadegau a gyfrifwyd ar gyfer y dangosydd hwn.
Niferoedd
Cyfrifwyd niferoedd ar gyfer yr holl ystadegau isod. Cyfrifwyd niferoedd hefyd ar gyfer achosion o ganser yn ôl rhyw, nifer yr ystafelloedd gwely a math o ganser ar gyfer oedrannau:
- Llai no 25 oed
- 26-34 oed
- 35-49 oed
- 50-64 oed
- 65+ oed
Cyfraddau bras
Cyfrifwyd cyfraddau bras a chyfyngau hyder 95% cyfatebol ar gyfer pob grŵp gorlenwi yn ôl pob canser a ddadansoddwyd ar gyfer dynion, menywod a phersonau o bob oed ar lefel Cymru gyfan ar gyfer y flwyddyn 2020.
Cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran
Cyfrifwyd cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran a’r cyfyngau hyder 95% cyfatebol ar gyfer pob grŵp gorlenwi yn ôl pob canser a ddadansoddwyd ar gyfer dynion, menywod a phersonau o bob oed ar lefel Cymru gyfan ar gyfer y flwyddyn 2020. Defnyddiwyd pwysoliadau oedran safonedig Ewropeaidd.
Cyfrannau
Cyfrifwyd nifer o gyfrannau (%) a’u cyfyngau hyder 95% cyfatebol ar gyfer gwahanol ddadansoddiadau o’r data. Cyfrifwyd pob cyfran ar gyfer y cyfnod deng mlynedd 2011-2020.
Rhifiadur ac enwadur gorlenwi
Y rhifiadur a ddefnyddiwyd i gyfrifo cyfrannau ar gyfer gorlenwi oedd nifer y bobl a gafodd ddiagnosis o ganser rhwng 2011 a 2020 mewn grŵp gorlenwi penodol.
Y rhifiadur a ddefnyddiwyd ar gyfer cyfrifo cyfraddau ar gyfer gorlenwi oedd nifer y bobl a gafodd ddiagnosis o ganser yn 2020 mewn grŵp gorlenwi penodol.
Dyrannwyd y grwpiau gorlenwi drwy edrych ar gymhareb rhwng nifer y bobl mewn aelwyd i nifer yr ystafelloedd gwely fel y’u cofnodwyd yn y Cyfrifiad.
Yr enwadur a ddefnyddiwyd ar gyfer cyfrifo cyfrannau ar gyfer gorlenwi oedd nifer y bobl a gafodd ddiagnosis o ganser rhwng 2011 a 2020.
Yr enwadur a ddefnyddiwyd ar gyfer cyfrifo cyfraddau ar gyfer gorlenwi oedd nifer y bobl mewn grŵp gorlenwi penodol a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2021.
Lle gwnaed rhagor o ddadansoddiadau ar gyfer cyfrannau, er enghraifft yn ôl oedran neu fath o ganser, y rhifiadur oedd nifer y bobl mewn grŵp gorlenwi penodol â’r nodwedd ychwanegol honno (e.e. 50-64 oed neu wedi cael diagnosis o ganser y colon a’r rhefr) a’r enwadur oedd cyfanswm y bobl yn y grŵp gorlenwi hwnnw.
Daliadaeth yr aelwyd
Mae deiliadaeth yn cyfeirio at a yw’r annedd breifat yn perthyn i’r aelwyd ynteu’n cael ei rhentu ganddi, ac fe’i cofnodir gan y Cyfrifiad. Os yw’n cael ei rhentu, mae’n cyfuno hyn â gwybodaeth am y math o landlord sy’n berchen ar y llety neu’n ei reoli.
Gellir gweld y categorïau deiliadaeth a gofnodwyd yn y Cyfrifiad ac a ddefnyddiwyd yn y dadansoddiad yn y tabl isod. Ar gyfer rhywfaint o’r dadansoddiad, defnyddiwyd dosbarthiadau’r Cyfrifiad ond ar gyfer rhannau eraill, cyfunwyd categorïau’r Cyfrifiad yn bedwar grŵp ehangach. Cafodd y rhai sy’n byw mewn sefydliadau cymunedol fel cartrefi gofal eu hepgor.
| Dosbarthiad SYG | Grwpiau deiliadaeth aelwyd bras ICC |
|---|---|
| Yn berchen: Yn berchen yn llwyr | Yn berchen yn llwyr |
|
Yn berchen: Yn berchen â morgais neu fenthyciad Rhanberchnogaeth (perchen yn rhannol neu rentu’n rhannol) |
Yn berchen â morgais/Benthyciad/ Rhanberchnogaeth |
|
Rhentu’n gymdeithasol: Rhentu oddi wrth y cyngor (awdurdod lleol) Rhentu’n gymdeithasol: Rhentu cymdeithasol arall |
Rhentu’n gymdeithasol |
|
Rhentu’n breifat: Landlord preifat neu asiantaeth osod Rhentu’n breifat: Cyflogai i aelod o’r aelwyd Rhentu’n breifat: Perthynas neu ffrind i aelod o’r aelwyd Rhentu’n breifat: Arall Byw yn ddi-rent |
Rhentu’n breifat/Byw yn ddi-rent |
| – | Anhysbys/Heb eu cyfateb |
Ystadegau
Rhestrir yma’r amrywiol ystadegau a gyfrifwyd ar gyfer y dangosydd hwn.
Niferoedd
Cyfrifwyd niferoedd ar gyfer yr holl ystadegau isod. Cyfrifwyd niferoedd hefyd ar gyfer mynychder canser yn ôl rhyw, deiliadaeth yr aelwyd a math o ganser ar gyfer oedrannau:
- Llai na 35 oed
- 36-49 oed
- 50-64 oed
- 65+ oed
Cyfraddau bras
Cyfrifwyd cyfraddau bras a chyfyngau hyder 95% cyfatebol ar gyfer pob math o ddeiliadaeth aelwyd yn ôl pob canser a ddadansoddwyd ar gyfer dynion, menywod a phersonau o bob oed ar lefel Cymru gyfan ar gyfer y flwyddyn 2020.
Cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran
Cyfrifwyd cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran a’r cyfyngau hyder 95% cyfatebol ar gyfer pob grŵp deiliadaeth aelwyd bras yn ôl pob canser a ddadansoddwyd ar gyfer dynion, menywod a phersonau o bob oed ar lefel Cymru gyfan ar gyfer y flwyddyn 2020. Defnyddiwyd pwysoliadau oedran safonedig Ewropeaidd.
Cyfrannau
Cyfrifwyd nifer o gyfrannau (%) a’u cyfyngau hyder 95% cyfatebol ar gyfer gwahanol ddadansoddiadau o’r data. Cyfrifwyd pob cyfran ar gyfer y cyfnod deng mlynedd 2011-2020.
Rhifiadur ac enwadur deiliadaeth yr aelwyd
Y rhifiadur a ddefnyddiwyd i gyfrifo cyfrannau ar gyfer deiliadaeth yr aelwyd oedd nifer y bobl a gafodd ddiagnosis o ganser rhwng 2011 a 2020 gyda grŵp deiliadaeth aelwyd penodol wedi’i gofnodi yng Nghyfrifiad 2011.
Y rhifiadur a ddefnyddiwyd i gyfrifo cyfraddau ar gyfer deiliadaeth yr aelwyd oedd nifer y bobl a gafodd ddiagnosis o ganser yn 2020 gyda grŵp deiliadaeth aelwyd penodol a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2011.
Yr enwadur a ddefnyddiwyd ar gyfer cyfrifo cyfrannau ar gyfer deiliadaeth yr aelwyd oedd nifer y bobl a gafodd ddiagnosis o ganser rhwng 2011 a 2020.
Yr enwadur a ddefnyddiwyd ar gyfer cyfrifo cyfraddau ar gyfer deiliadaeth yr aelwyd oedd nifer y bobl mewn grŵp deiliadaeth aelwyd penodol a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2021.
Lle gwnaed rhagor o ddadansoddiadau ar gyfer cyfrannau, er enghraifft yn ôl oedran neu fath o ganser, y rhifiadur oedd nifer y bobl mewn grŵp deiliadaeth aelwyd benodol â’r nodwedd ychwanegol honno (e.e. 50-64 oed neu wedi cael diagnosis o ganser y colon a’r rhefr) a’r enwadur oedd cyfanswm y bobl yn y grŵp deiliadaeth aelwyd honno.
Galwedigaeth
Fel y’i diffinnir gan y Cyfrifiad, mae galwedigaeth person yn ymwneud â’i brif swydd ac yn deillio naill ai o deitl ei swydd neu fanylion y gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’i swydd. Defnyddir y dangosydd hwn i ddyrannu ymatebion i’r Cyfrifiad i god galwedigaeth ar sail y Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol (2010).
Ar gyfer y gwaith hwn, defnyddiwyd dosbarthiadau galwedigaethol y Cyfrifiad a welir yn y tabl isod i’w dadansoddi. Yn y dadansoddiad hwn, dadansoddwyd dau grŵp o bobl ar gyfer pob dosbarthiad galwedigaethol: y rhai oedd wedi ymddeol o alwedigaeth flaenorol a’r rhai oedd yn economaidd weithredol adeg y Cyfrifiad.
| Dosbarthiad galwedigaethau’r SYG |
|---|
| Rheolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch swyddogion |
| Galwedigaethau proffesiynol |
| Galwedigaethau proffesiynol a thechnegol cysylltiol |
| Galwedigaethau gweinyddol ac ysgrifenyddol |
| Galwedigaethau crefftau medrus |
| Galwedigaethau gofalu, hamdden a gwasanaethau eraill |
| Galwedigaethau gwerthu a gwasanaeth cwsmeriaid |
| Gweithredwyr prosesau peirianwaith a pheiriannau |
| Galwedigaethau sylfaenol |
Cafodd pobl o dan 16 oed, pobl nad ydynt erioed wedi gweithio, a myfyrwyr eu hepgor. Dadansoddwyd categori anhysbys/heb ei gyfateb hefyd ar gyfer achosion canser digwyddiadol na ellid eu cyfateb â grŵp galwedigaethol. Cafodd hyn ei gynnwys ar gyfer pobl wedi ymddeol a gweithwyr gweithredol.
Dosbarthwyd y grŵp galwedigaeth weithredol fel pobl oedd yn gweithio adeg y Cyfrifiad ac felly cafodd eu galwedigaeth restredig gyfredol yng Nghyfrifiad 2011 ei dyrannu iddynt.
Dosbarthwyd y grŵp galwedigaethau wedi ymddeol fel pobl oedd wedi ymddeol adeg y Cyfrifiad, felly eu galwedigaeth cyn ymddeol, fel y’i casglwyd gan Gyfrifiad 2011, a gafodd ei dyrannu iddyn nhw.
Ystadegau
Rhestrir yma’r amrywiol ystadegau a gyfrifwyd ar gyfer y dangosydd hwn. Cyfrifwyd yr holl ystadegau ar gyfer pobl wedi ymddeol a’r rhai oedd yn economaidd weithgar.
Niferoedd
Cyfrifwyd niferoedd ar gyfer yr holl ystadegau isod.
Cyfrifwyd niferoedd ar gyfer mynychder canser yn ôl rhyw, galwedigaeth wedi ymddeol a math o ganser ar gyfer oedrannau:
- Llai na 65 oed
- 65+ oed
Cyfrifwyd niferoedd hefyd ar gyfer achosion o ganser yn ôl rhyw, galwedigaeth weithredol a math o ganser ar gyfer oedrannau:
- 16-34 oed
- 35-49 oed
- 50-64 oed
- 65+ oed
Cyfraddau bras
Cyfrifwyd cyfraddau bras ar gyfer pob galwedigaeth ar gyfer pob canser ac eithrio CCNF, canser y colon a’r rhefr a chanser yr ysgyfaint, ar gyfer personau o bob oed ar lefel Cymru gyfan ar gyfer y flwyddyn 2020. Cafodd canser y prostad a chanser y fron fenywaidd eu hepgor gan na ellid cael poblogaethau yn ôl rhyw er mwyn cyfrifo’r cyfraddau ar gyfer y mathau hyn o ganser sy’n benodol i ryw.
Cyfrannau
Cyfrifwyd nifer o gyfrannau (%) a’u cyfyngau hyder 95% cyfatebol ar gyfer gwahanol ddadansoddiadau o’r data. Cyfrifwyd pob cyfran ar gyfer y cyfnod deng mlynedd 2011-2020 neu ar gyfer y cyfnod blwyddyn sengl 2011.
Rhifiadur ac enwadur galwedigaeth
Y rhifiadur a ddefnyddiwyd i gyfrifo cyfrannau ar gyfer galwedigaeth oedd nifer y bobl a gafodd ddiagnosis o ganser rhwng 2011 a 2020 mewn grŵp galwedigaeth a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2011.
Y rhifiadur a ddefnyddiwyd i gyfrifo cyfraddau ar gyfer galwedigaeth oedd nifer y bobl a gafodd ddiagnosis o ganser yn 2020 mewn grŵp galwedigaeth a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2011.
Yr enwadur a ddefnyddiwyd ar gyfer cyfrifo cyfrannau ac ar gyfer galwedigaeth oedd nifer y bobl a gafodd ddiagnosis o ganser rhwng 2011 a 2020.
Yr enwadur a ddefnyddiwyd ar gyfer cyfrifo cyfraddau ar gyfer galwedigaeth oedd nifer y bobl mewn grŵp galwedigaeth penodol a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2021.
Lle gwnaed rhagor o ddadansoddiadau ar gyfer cyfrannau, er enghraifft yn ôl oedran neu fath o ganser, y rhifiadur oedd nifer y bobl mewn grŵp galwedigaeth penodol â’r nodwedd ychwanegol honno (e.e. 50-64 oed neu wedi cael diagnosis o ganser y colon a’r rhefr) a’r enwadur oedd cyfanswm y bobl yn y grŵp galwedigaeth hwnnw.
Nodiadau a chafeatau
Mae data’r diagnosis canser yn rhychwantu’r blynyddoedd diagnosio 2011 i 2020, gyda newidynnau’n cael eu dyrannu i achosion ar sail Cyfrifiad 2011. Ar gyfer cyfrifo cyfraddau bras a chyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran, roedd niferoedd y rhifiadur wedi’u seilio ar ddiagnosisau canser 2020 yn gysylltiedig â Chyfrifiad 2011 (a’r meingefn ethnigrwydd), ac roedd niferoedd yr enwadur wedi’u seilio ar ganlyniadau Cyfrifiad 2021 gan mai dyna’r unig ddata oedd ar gael. Gan y gall rhai nodweddion demograffig newid dros gyfnod o 10 mlynedd, dylid ystyried yr amserlenni gwahanol ar gyfer pob set ddata wrth ddehongli’r canlyniadau.
Cyfrifwyd cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran drwy ddefnyddio’r un fethodoleg ag a ddefnyddir yn ein Hystadegau Swyddogol ar gyfer mynychder canser, marwolaethau a goroesi, felly roedd poblogaethau Ewropeaidd oed dy poblogaethau safonol a ddefnyddiwyd ar gyfer y dadansoddi (gweler yr Atodiad).
O ran cyfraddau deiliadaeth yr aelwyd, roedd categorïau Cyfrifiad 2021 wedi newid ychydig o’u cymharu â Chyfrifiad 2011 felly cafodd y mathau o ddeiliadaeth aelwyd eu hailgrwpio yn bedwar categori ehangach i ganiatáu i gyfraddau ar gyfer y dangosydd hwn gael eu cyfrifo.
O ran y cyfraddau galwedigaethau, ni ellid cael oedran a rhyw yn ôl galwedigaeth o ddata Cyfrifiad 2021 felly dim ond cyfraddau bras a allai gael eu cyfrifo gan fod angen dadansoddiadau oedran a rhyw er mwyn cyfrifo cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran. Oherwydd hyn, yn achos galwedigaeth, cafodd canser y prostad a chanser y fron fenywaidd eu hepgor hefyd gan na ellid cyfrifo cyfraddau ar gyfer y mathau hyn o ganser sy’n benodol i ryw. Yn ail, newidiodd y cwestiynau yng Nghyfrifiad 2021 ynghylch galwedigaeth ychydig o’u cymharu â Chyfrifiad 2011 felly roedd y meysydd galwedigaethau roedd eu hangen ar gyfer dadansoddi a chysylltu data yn wahanol ac nid oeddent yn uniongyrchol gymaradwy.
Y mesurau sydd wedi’u hadrodd
Niferoedd
Y niferoedd mewn mynychder yw nifer y canserau a gafodd ddiagnosis dros gyfnod penodol o amser.
Cyfraddau bras
Cyfradd fras yw nifer y digwyddiadau a geir mewn poblogaeth dros gyfnod penodol o amser, wedi’i mynegi’n aml fel nifer y digwyddiadau am bob 100,000 o’r boblogaeth. Dylai’r rhifiadur (nifer y digwyddiadau) a’r enwadur (amcangyfrif o’r boblogaeth ar ganol y flwyddyn) fod yn seiliedig ar yr un ardal ddaearyddol a’r un cyfnod amser. Er hynny, ar gyfer y dadansoddiad hwn, nid oedd yn bosibl defnyddio’r un ffynhonnell ar gyfer y rhifiadur a’r enwadur. Mae’r rhifiadur wedi’i seilio ar wybodaeth o Gyfrifiad 2011 wedi’i chymhwyso at ddiagnosisau canser 2011-2020, ond mae’r enwadur yn defnyddio canlyniadau o Gyfrifiad 2021. Gan hynny, fe’ch cynghorir i fod yn ofalus wrth ddehongli’r canlyniadau.
Diffinnir y gyfradd fras fel cyfanswm y cofrestriadau am bob 100,000 o’r boblogaeth, neu:
Mae’r cyfraddau bras yn cael eu hatal pan fo llai na thri o ddigwyddiadau.
Cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran
Mae mynychder canser a marwolaethau canser yn amrywio’n fawr gydag oedran. Gan hynny, mae angen i wahaniaethau yn strwythur oedran poblogaethau rhwng ardaloedd daearyddol neu dros amser gael eu rheoli er mwyn i gymariaethau diduedd gael eu rhoi. Mae safoni oedran yn caniatáu inni gymharu cyfraddau ar draws gwahanol boblogaethau gan gymryd gwahanol strwythurau oedran y poblogaethau hynny i ystyriaeth hefyd.
Cyflawnir hyn drwy gymhwyso’r cyfraddau mynychder neu’r cyfraddau farwolaethau yn ôl oedran a rhyw a welwyd ar gyfer pob poblogaeth at boblogaeth safonol. Wedyn, cyfrifir y rhain i roi cyfradd gyffredinol am bob 100,000 o’r boblogaeth.
Y boblogaeth safonol a ddefnyddir yma yw’r Boblogaeth Safonol Ewropeaidd (ESP) (gweler yr Atodiad). Cyflwynwyd fersiwn gyntaf yr ESP ym 1976, a’r ail fersiwn yn 2013. Mae holl gyhoeddiadau WCISU ers mis Mehefin 2014 wedi defnyddio ESP 2013.
Mae cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran yn cael eu hatal lle’r oedd llai na 10 o ddigwyddiadau.
Mae’r gyfradd marwolaethau wedi’i safoni’n uniongyrchol drwy ddefnyddio’r
Boblogaeth Safonol Ewropeaidd yn deillio o’r canlynol:
lle:
- = y mynychder/cyfradd marwolaethau a welwyd yng nghrŵp oedran k
- = y cofrestriadau yng ngrŵp oedran k
- = y boblogaeth yng ngrŵp oedran k
- = 0-4, 5-9,…, 85-89, a 90 oed ac yn hŷn
- = poblogaeth safonol Ewropeaidd yng ngrŵp oedran k
Mae dosbarthiad Poblogaeth Safonol Ewropeaidd 2013 ar gael yn yr Atodiad.
Cyfrannau
Cyfrifir cyfrannau wrth adrodd ar gamau’r canserau a mesurau nad yw’n bosibl cyfrifo cyfradd ar eu cyfer. Dylai cyfanswm yr holl gategorïau adio i 1 ar gyfer yr holl ddadansoddiadau a adroddir.
Gall gwerth y cyfrannau fod rhwng 0 ac 1, ac fe’u diffinnir drwy ddweud bod ganddynt:
- Rhifiadur lle mae pob unigolyn y gwyddys ei fod yn yr enwadur yn cael ei gyfrif unwaith neu ddim o gwbl
- Enwadur sydd wedi’i ddiffinio’n union ac yn hysbys, a lle mae pob unigolyn yn cael ei gyfrif unwaith yn unig
Mewn achosion o’r fath, bernir bod yr enwadur yn boblogaeth ‘gaeedig’.
Mae dadansoddiadau sy’n cyflwyno adroddiadau ar gyfrannau neu ganrannau yn cael eu dangos fel canrannau yn yr allbwn, gyda’r cyfrannau’n cael eu lluosi â 100 i’w troi’n ganran (%).
Cyfyngau hyder
Mae cyfyngau hyder yn cael eu cynhyrchu ochr yn ochr ag ASRs, cyfraddau bras a chyfrannau. Maent yn dynodi’r amrywiad naturiol a ddisgwylid o amgylch amcangyfrif a dylid eu hystyried wrth asesu neu ddehongli amcangyfrif. Mae maint y cyfwng hyder yn dibynnu ar nifer y digwyddiadau sy’n digwydd a maint y boblogaeth y daeth y digwyddiadau ohoni. Yn gyffredinol, mae amcangyfrifon sy’n seiliedig ar niferoedd bach o ddigwyddiadau a phoblogaethau bach yn debygol o fod â chyfyngau hyder ehangach. Ar y llaw arall, mae amcangyfrifon sy’n seiliedig ar boblogaethau mawr yn debygol o fod â chyfyngau hyder culach.
Yn y cyhoeddiad hwn, rydym yn cyfrifo cyfyngau hyder 95 y cant. Mae hyn yn cynrychioli amrediad o werthoedd y gallwn fod 95 y cant yn hyderus eu bod yn cynnwys yr amcangyfrif ‘cywir’ sylfaenol.
Mae cyfyngau hyder a gyfrifir ochr yn ochr ag EASRs yn defnyddio dull dosbarthu gama diwygiedig Tiwari, R.C. et al. (2006). Mae hwn yn addasiad o’r fformiwla ar gyfer terfyn hyder uchaf y cyfyngau hyder gwreiddiol ar gyfer cyfraddau wedi eu safoni’n uniongyrchol yn seiliedig ar y dosbarthiad gama, fel y’i cynigiwyd gan Fay a Feuer (1997). Cyflwynir cyfyngau hyder ochr yn ochr â chyfrannau gan ddefnyddio dull a gynigiwyd gan Wilson, E.B. et al. (1927).
Gwneir cymariaethau yn aml rhwng dau neu ragor o amcangyfrifon, er enghraifft rhwng ardaloedd neu gyfnodau amser gwahanol (Ffigur 3). Weithiau, mewn achosion o’r fath, cynhelir profion ystadegol drwy gymharu cyfyngau hyder yr amcangyfrifon i weld a ydynt yn gorgyffwrdd. Mae cyfyngau hyder nad ydynt yn gorgyffwrdd yn cael eu hystyried yn arwyddocaol wahanol yn ystadegol. Er ei bod yn ddiogel tybio bod cyfyngau hyder nad ydynt yn gorgyffwrdd yn dangos gwahaniaeth sy’n arwyddocaol yn ystadegol, nid yw bob amser yn wir nad yw cyfyngau hyder sy’n gorgyffwrdd yn gwneud hynny (Ffigur 3). Dull mwy union gywir yw cyfrifo cymhareb y ddau amcangyfrif, neu’r gwahaniaeth rhyngddynt, a llunio prawf neu gyfwng hyder ar sail yr ystadegyn hwnnw. Nid yw’r dulliau hyn wedi’u cynnwys yn y canllaw technegol hwn, ond gellir dod o hyd iddynt mewn gwerslyfr safonol.
Ffigur 3: Defnyddio cyfyngau hyder i wneud cymariaethau

Poblogaethau
Yn y cyhoeddiad hwn, datblygwyd y poblogaethau drwy ddefnyddio Cyfrifiad 2021. Ymatebion i gwestiynau ar ethnigrwydd, nifer yr ystafelloedd gwely, deiliadaeth yr aelwyd a galwedigaeth a benderfynodd faint y boblogaeth ym mhob un o’r grwpiau hyn. Trigolion Cymru yn unig a gafodd eu cynnwys yn y grwpiau hyn.
Mae rhagor o wybodaeth am y poblogaethau a ddefnyddiwyd ar gyfer pob dangosydd i’w chael yn yr adrannau perthnasol: rhifiadur ac enwadur ethnigrwydd, rhifiadur ac enwadur gorlenwi, rhifiadur ac enwadur deiliadaeth yr aelwyd a rhifiadur ac enwadur galwedigaeth.
Hygyrchedd ac eglurder
Cyhoeddir yr ystadegau mewn modd hygyrch a threfnus ar wefan UGGCC ar ddiwrnod y cyhoeddi. Rydym hefyd yn cyhoeddi’r allbynnau i’n rhanddeiliaid drwy’r ebost. Mae’r holl allbynnau ar gael ac yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho. Cyflwynir y cyhoeddiad hwn ar ffurf HTML gyda delweddau wedi’u hymgorffori ar gyfer siartiau a thablau. Bydd testun amgen ar gael i bob delwedd i’w ddefnyddio gan ddarllenwyr sgrin a thechnoleg debyg.
Y nod yw defnyddio Cymraeg clir yn ein cynhyrchion, a bod y rheiny’n cydymffurfio â pholisi hygyrchedd Iechyd Cyhoeddus Cymru. At hynny, mae’r ystadegau i gyd yn cael
eu cyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr ystadegau drwy anfon neges ebost at [email protected].
Deddfwriaeth
O dan y Ddeddf Diogelu Data, mae prosesu data cleifion/defnyddwyr gwasanaethau yn gyfreithlon at ddibenion ar wahân i’r hyn sy’n angenrheidiol er mwyn darparu gofal yn uniongyrchol yn gofyn bod yr amodau canlynol yn cael eu bodloni:
- Cydsyniad penodol y claf/defnyddiwr gwasanaeth ar gyfer y prosesu
- Awdurdodiad penodol yn ôl statud
- Cymeradwyaeth yn unol ag Adran 251 o Ddeddf y GIG 2006
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal nifer o weithgareddau na ellir eu dosbarthu fel gofal uniongyrchol, ond lle byddai cael cydsyniad penodol yn anymarferol neu byddai’n peryglu cyflawnder y gweithgaredd perthnasol. Dyma rai enghreifftiau:
- Gwerthuso rhaglenni sgrinio
- Cofrestru canser
- Cofrestru anomaleddau cynhenid
Yr hyn a elwir yn gymeradwyaeth ‘Adran 251’, felly, yw’r dull mwyaf priodol o hyd o sicrhau bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data wrth gynnal prosesu o’r fath. Mae angen cael cymeradwyaeth o’r fath ar gyfer gweithgareddau newydd a’i hadnewyddu’n flynyddol ar gyfer gweithgareddau presennol.
Cafodd Adran 251 ei sefydlu i roi sylfaen gyfreithiol ddiogel ar gyfer datgelu a phrosesu gwybodaeth gyfrinachol yn y GIG lle nad yw’n bosibl defnyddio gwybodaeth ddi-enw na chael cydsyniad penodol. Sefydlwyd dull o alluogi’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd i ymarfer pwerau cymeradwyo yn unol ag Adran 251, a gynghorwyd gan y Bwrdd Llywodraethu Gwybodaeth Cenedlaethol (NIGB) a’i Bwyllgor Moeseg a Chyfrinachedd (ECC). Mae’r dulliau a weithredwyd gan NIGB a’i ECC hefyd yn berthnasol i Gymru.
Yn unol â’r Rheoleiddiad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), rydym yn dilyn:
- Erthygl 6 (1) e – mae prosesu yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth ymarfer awdurdod swyddogol a roddir i’r rheolwr
- Erthygl 9 (2) h – mae prosesu yn angenrheidiol at ddibenion meddyginiaeth ataliol neu alwedigaethol, ar gyfer asesu gallu’r cyflogai i weithio, diagnosis meddygol, darparu gofal iechyd neu gymdeithasol neu drin neu reoli systemau a gwasanaethau iechyd neu
ofal cymdeithasol ar sail cyfraith Undeb neu Aelod-wladwriaeth neu yn unol â chontract gyda gweithiwr iechyd proffesiynol ac yn gaeth i’r amodau a’r amddiffyniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff 3
Mae’r polisi allweddol ar ganser yng Nghymru wedi’i nodi yng nghynllun gwella Canser Rhwydwaith Canser Cymru 2023-2026.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant ar gyfer Cymru, sef Cymru fwy cyfartal, ffyniannus, cydnerth, iachach a mwy cyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol:
- cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso at y diben o fesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau Llesiant
- cyflwyno copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Nodwyd y 46 dangosydd cenedlaethol ym mis Mawrth 2016
Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau a gynhwysir yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.
Yn y cyhoeddiad hwn, glynodd y UGGCC at ganllawiau rheoli datgeliadau a nodir yn TRE banc data SAIL, lle mae unrhyw niferoedd sy’n llai na deg yn cael eu hatal.
Mae TREs yn dilyn Fframwaith y Pum Diogelwch sef set o egwyddorion sy’n galluogi gwasanaethau data i roi mynediad diogel i ymchwilwyr i ddata. Y fframwaith hwn yw’r arfer orau o ran diogelu data wrth gyflawni gofynion gwyddoniaeth agored a thryloywder. Mae rhagor o wybodaeth am Fframwaith y Pum Diogelwch ar gael yma.
Geirfa
- ALF – Maes Cysylltu Dienw
- ASR – Cyfradd wedi’i safoni yn ôl oedran
- CCNF – Canser y Croen nad yw’n Felanoma
- EASR – Cyfradd wedi’i safoni yn ôl oed Ewropeaidd
- ECC – Pwyllgor Moeseg a Chyfrinachedd
- ENCR – Rhwydwaith Cofrestrfeydd Canser Ewropeaidd
- ESP – Poblogaeth Safonol Ewropeaidd
- FIGO – Ffederasiwn Rhyngwladol Gynaecoleg ac Obstetreg
- GDPR – Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data
- GIG – Gwasanaeth Iechyd Gwladol
- ICC – Iechyd Cyhoeddus Cymru
- ICD – Dosbarthiad Rhyngwladol Clefydau
- MYE – Amcangyfrifon Poblogaeth Canol-blwyddyn
- NIGB – Bwrdd Llywodraethu Gwybodaeth Cenedlaethol
- PI – Dangosydd perfformiad
- SAIL – Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw
- SYG – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
- TNM – Dosbarthiad TNM o Diwmorau Malaen
- TRE – Amgylchedd Ymchwil Dibynadwy
- UGGCC – Uned Gwybodaeth a Gwyliodwriaeth Canser Cymru
- UKIACR – Cymdeithas Cofrestrfeydd Canser y Deyrnas Unedig ac Iwerddon
- WHO – Sefydliad Iechyd y Byd
Atodiad
Map mathau canser
| Enw’r safle | Cod ICD-10 |
|---|---|
| Pob canser gyda’i gilydd ac eithrio CCNF | C00-C97 heb gynnwys C44 |
| Canser y colon a’r rhefr | C18-C20 |
| Canser yr ysgyfaint | C33-C34 |
| Canser y fron fenywaidd | C50 |
| Canser y prostad | C61 |
| Mathau eraill o ganser | C00-C97 heb gynnwys C44, C18-C20, C33-C34, C50, C61 |
Poblogaethau safonol Ewropeaidd

Dadansoddiadau poblogaeth ar gyfer pob grŵp ethnig wedi’u dadansoddi yn ôl rhyw a grŵp oedran yng Nghymru, 2021




