Neidio i'r cynnwys

Brechlynnau sy'n cynnwys y frech goch, clwy'r pennau, rwbela a brech yr ieir (MMRV ac MMR) - Ynglŷn â’r brechlynnau MMRV ac MMR

Brechu yw un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn rhag afiechydon difrifol.

Mae’r frech goch, clwy’r pennau, rwbela a’r frech goch (a elwir hefyd yn varicella) yn lledaenu’n hawdd iawn rhwng pobl nad ydynt wedi cael eu brechu. Mae’r afiechydon hyn yn ysgafn fel arfer, ond gallant achosi problemau iechyd difrifol weithiau.

Newidiadau i’r amserlen imiwneiddio reolaidd i blant yn 2026

I’r rhan fwyaf o blant, mae brech yr ieir yn salwch ysgafn sy’n gwella ar ei ben ei hun, ond i rai, gall fod yn ddifrifol iawn. Mae’r risg o salwch difrifol o ganlyniad i frech yr ieir yn llawer uwch nag yr oedd pobl yn arfer ei feddwl. Efallai y bydd angen trin rhai pobl yn yr ysbyty os cânt broblemau oherwydd yr haint. 

Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), mae brech yr ieir yn arwain at dros 4 miliwn o arosiadau yn yr ysbyty a mwy na 4,000 o farwolaethau ledled y byd bob blwyddyn. 

O 1 Ionawr 2026 ymlaen, mae Cymru yn cyflwyno’r brechlyn rhag brech yr ieir i’r amserlen imiwneiddio reolaidd i blant. Mae hyn er mwyn helpu i atal salwch difrifol ac achub bywydau. Gwnaed y penderfyniad ar ôl cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), sy’n cynghori llywodraeth y DU. Mae’r argymhelliad yn seiliedig ar lwyddiant rhaglenni brechu rhag brech yr ieir mewn gwledydd eraill. 

Brechlyn cyfun yw’r brechlyn rhag brech yr ieir, sy’n helpu i amddiffyn rhag y frech goch, clwy’r pennau, rwbela, a varicella (brech yr ieir). Ei enw yw’r brechlyn MMRV. O fis Ionawr 2026 ymlaen, mae MMRV yn disodli’r brechlyn MMR yn yr amserlen imiwneiddio reolaidd i blant yng Nghymru.  Mae’r brechlyn MMR yn dal i fod ar gael i rai pobl y mae ei angen arnynt. Mae hyn yn cynnwys plant hŷn ac oedolion nad ydynt wedi cael dau ddos ac nad ydynt yn gymwys i gael y brechlyn MMRV.

I gael mwy o wybodaeth am y rhesymau dros y newid, gweler newidiadau i’r amserlen imiwneiddio i blant.

Cefndir

Gwybodaeth:

Os nad ydych wedi cael brechlyn sy’n cynnwys MMR, mae’r clefydau hyn yn dal i fod yn fygythiad i’ch iechyd. Mae’n bwysig brechu i atal yr afiechydon hyn rhag lledu.

Mae dau opsiwn sy’n cynnig amddiffyniad: 

  • Y brechlyn rhag y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a varicella (MMRV), neu
  • Y brechlyn rhag y frech goch, clwy’r pennau a rwbela (MMR) 

Rhag pa glefydau y mae brechlynnau MMRV ac MMR yn helpu i amddiffyn?

Mae’r brechlyn MMRV yn helpu i amddiffyn rhag: 

Y frech goch 
Clwy’r pennau  
Rwbela 
Varicella (brech yr ieir) 
Mae’r brechlyn MMR yn helpu i amddiffyn rhag: 

Y frech goch 
Clwy’r pennau  
Rwbela 

Ynglŷn â’r brechlynnau

Fel arfer, rhoddir brechlynnau sy’n cynnwys MMR fel un pigiad i’r glun neu’r fraich uchaf. Mae’n bwysig cael dau ddos ​​o frechlyn sy’n cynnwys MMR i gael yr amddiffyniad gorau posibl. Mae cael y ddau ddos ​​yn rhoi amddiffyniad hirdymor rhag haint.  

Ar ôl y dos cyntaf, mae system imiwnedd y corff yn dysgu adnabod y feirysau a dechrau meithrin amddiffyniad. Mae’r ail ddos ​​yn rhoi hwb i’r amddiffyniad hwnnw, gan ei wneud yn llawer cryfach a pharhaol. Dyna pam mae cael dau ddos ​​yn bwysig i’ch cadw chi a’r rhai rydych chi’n gofalu amdanyn nhw’n ddiogel. 

Mae brechlynnau sy’n cynnwys MMR yn effeithiol iawn wrth amddiffyn pobl rhag y frech goch. Mae pobl sy’n cael dau ddos ​​o’r brechlyn wedi’u hamddiffyn am oes. Er enghraifft, mae ffigurau yng Nghymru yn dangos bod mwy na 99% o bobl sy’n cael y ddau ddos ​​o’r brechlyn MMR wedi’u hamddiffyn rhag y frech goch a rwbela, a bod tua 88% wedi’u hamddiffyn rhag clwy’r pennau.  

Os hoffech ddysgu rhagor am y brechlynnau hyn, gallwch ddarllen y taflenni i gleifion yn y dolenni isod. 

Brechlyn MMRV 

Mae MMRV wedi cael ei ddefnyddio ers blynyddoedd lawer mewn gwledydd eraill fel yr Unol Daleithiau, Awstralia, Canada a Seland Newydd. Mewn gwledydd eraill, gwelwyd gostyngiad yn nifer yr achosion o’r frech goch mewn plant yn sgil rhoi’r brechlyn MMRV iddynt. 

Ers cyflwyno’r rhaglen brechu rhag brech yr ieir ym 1995, mae brechiadau rhag brech yr ieir yn yr Unol Daleithiau wedi lleihau achosion 97% 

ProQuad® (Saesneg yn unig) a Priorix-Tetra® (Saesneg yn unig) yw enwau’r brechlynnau MMRV a roddir yn y DU.  

Brechlyn MMR 

Ers cyflwyno’r brechlyn MMR ym 1988, mae’r frech goch, clwy’r pennau a rwbela wedi dod yn anghyffredin yn y DU. Ond weithiau mae achosion yn digwydd, yn enwedig y frech goch, pan nad yw digon o bobl yn cael eu brechu. 

MMRVaxPro® (Saesneg yn unig) a Priorix® (Saesneg yn unig) yw enwau’r brechlynnau MMR a roddir yn y DU.  

Beichiogrwydd a bwydo ar y fron

Gall rwbela fod yn haint difrifol iawn i fabanod heb eu geni. Os cawsoch ddau ddos ​​o’r brechlyn sy’n cynnwys MMR, byddwch wedi’ch amddiffyn yn ystod eich beichiogrwydd.  

Os ydych chi’n bwriadu beichiogi, yn feichiog, neu newydd gael babi ac yn ansicr a ydych chi wedi cael dau ddos ​​o’r brechlyn sy’n cynnwys MMR, mynnwch air â’ch bydwraig neu’ch meddyg teulu.  

Oherwydd mai brechlyn byw yw’r brechlyn MMR, ni argymhellir ei ddefnyddio pan fyddwch chi’n feichiog. Dylech osgoi beichiogi am fis ar ôl cael y brechiad MMR. 

Os ydych chi’n feichiog ac nad ydych chi wedi cael yr holl frechlynnau MMR gofynnol, dylech chi gael y brechlyn yn fuan ar ôl i’ch babi gael ei eni. 

Bwydo ar y fron 

Ni fydd cael y brechlyn MMR pan fyddwch yn bwydo ar y fron yn eich niweidio chi na’ch baban. Fodd bynnag, os ydych chi’n bwydo ar y fron ac os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, gallwch chi ofyn i’ch meddyg, eich nyrs neu’ch fferyllydd am gyngor cyn i chi gael y brechiad.

Os ydych chi’n teithio, neu newydd symud i’r DU  

Os ydych chi wedi symud i fyw i’r DU, efallai y bydd angen dau ddos ​​o frechlyn sy’n cynnwys MMR a brechiadau arferol eraill arnoch chi. Mae gwahanol wledydd yn cynnig gwahanol frechiadau, ac efallai nad yw pob un wedi defnyddio’r brechlyn MMR cyfun. 

Os ydych chi’n teithio i ardal lle gwyddys bod brigiadau o’r frech goch, clwy’r pennau neu rwbela wedi digwydd, dylech chi gael dau ddos ​​o frechlyn sy’n cynnwys MMR cyn i chi deithio. Efallai y bydd modd brechu eich plentyn yn gynharach nag arfer os yw’n teithio i ardaloedd â risg uchel.  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os nad ydych yn siŵr a ydych wedi cael eich brechiadau, trafodwch hyn gyda’ch meddyg teulu neu nyrs. 

Os oes angen brechiadau arnoch ar gyfer gwaith 

Os ydych chi’n gweithio ym maes gofal iechyd, mae’n bwysig cael eich amddiffyn rhag afiechydon fel y frech goch, clwy’r pennau a rwbela. Gall y clefydau hyn gael eu trosglwyddo i gleifion sy’n fwy tebygol o fynd yn ddifrifol wael. Efallai y bydd angen y brechlyn MMR ar weithwyr gofal iechyd i amddiffyn eu hunain ac i helpu i gadw eu cleifion yn ddiogel.

A oes rheswm pam na ddylid rhoi brechlynnau MMRV neu MMR i rywrai?  

Ni ddylid rhoi brechlynnau sy’n cynnwys MMR (MMRV neu MMR) i unrhyw un sydd wedi cael adwaith difrifol (sy’n peryglu bywyd) i’r canlynol:   

  • dos blaenorol o’r un brechlyn, neu  
  • gynhwysyn yn y brechlyn. 

Siaradwch â’r person sy’n rhoi’r brechlyn os ydych chi neu eich plentyn wedi cael adwaith alergaidd difrifol i’r brechlyn neu ei gynhwysion yn y gorffennol. 

Ni ddylid rhoi brechlynnau sy’n cynnwys MMR i unrhyw un sydd:  

  • yn feichiog  
  • â system imiwnedd wan (yn imiwnoataliedig) oherwydd triniaeth neu afiechyd, neu 
  • yn dioddef o salwch â thwymyn uchel.  

Os ydych chi neu eich plentyn yn sâl a bod gennych dymheredd uchel (twymyn) dros 38.5 C, mae’n well aros hyd nes y byddwch chi neu eich plentyn wedi gwella cyn cael y brechlyn. Os na allwch fynd i’ch apwyntiad brechu, canslwch ef a gwnewch apwyntiad newydd cyn gynted â phosib. Nid yw annwyd neu fân anhwylder arall yn rheswm i ohirio’r brechlyn. 

Cyn cael brechlyn sy’n cynnwys MMR, dylech ddweud wrth y meddyg teulu neu’r nyrs practis os ydych chi neu’ch plentyn:  

  • erioed wedi cael ffitiau (a elwir hefyd yn trawiadau), neu os yw unrhyw un yn eich teulu wedi’u cael, gan gynnwys ffitiau a achosir gan dwymyn.  
  • Dylech chi ddweud wrth y meddyg teulu neu’r nyrs practis os ydych chi’n feichiog. 

Os ydw i’n sâl, a ddylwn i neu fy mhlentyn gael y brechlyn? 

Mae’n well aros nes eich bod chi/eich plentyn yn well cyn cael y brechlyn, ond mae’n bwysig ei gael cyn gynted â phosibl. Os na allwch mynd i’r apwyntiad brechu, canslwch ac aildrefnwch yr apwyntiad.  

Nid yw annwyd na salwch ysgafn arall yn rheswm i ohirio cael y brechlyn. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, trafodwch hyn gyda’r unigolyn sy’n rhoi’r brechiad. 

A oes gelatin moch yn y brechlynnau MMRV ac MMR?      

Nid yw rhai pobl yn derbyn gelatin moch oherwydd eu ffydd. Yng Nghymru, mae opsiynau ar gyfer MMRV ac MMR nad ydynt yn cynnwys gelatin moch. 

Brechlyn MMRV 

ProQuad® a Priorix-Tetra® yw enwau’r brechlynnau MMRV a gynigir yng Nghymru. Mae ProQuad® yn cynnwys gelatin moch. Os nad ydych chi eisiau i’ch plentyn gael ProQuad®, mae opsiwn arall, o’r enw Priorix-Tetra®, nad yw’n cynnwys gelatin moch. 

Brechlyn MMR 

I’r rhai nad ydynt yn gymwys i gael y brechlyn MMRV, mae dau frechlyn MMR ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae MMRvaxPro® yn cynnwys gelatin moch, ac nid yw Priorix® yn cynnwys gelatin moch. 

Os oes angen brechlyn arnoch chi neu’ch plentyn nad yw’n cynnwys gelatin moch, cysylltwch â’ch ymwelydd iechyd, eich nyrs practis, neu’ch practis meddygon teulu. Gallant eich helpu i ddod o hyd i’r opsiwn cywir. 

Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am frechlynnau a gelatin moch.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 26ain Chwefror 2026